Module SCL-1115:
Y Gyfraith yn Gymraeg
Y Gyfraith yn Gymraeg 2024-25
SCL-1115
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Tasha Roberts
Overview
Bydd y modiwl yn cynnwys elfen gref o ddatblygu sgiliau ymchwil cyfreithiol er mwyn cyflawni tasgau yn y dyfodol megis drafftio llythyrau cyfreithiol, llunio nodiadau achos, a drafftio deddfwriaeth. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb gramadegol y tasgau hyn, a rhoddir arweiniad ar ysgrifennu Cymraeg gyfreithiol gaboledig a chywir. Bydd pwyslais hefyd ar drafodaethau cyfreithiol llafar, a rhoddir arweiniad ar iaith lafar gywir sy鈥檔 briodol i鈥檙 cyd-destun. Bydd cyfle i ymarfer sgiliau a fydd yn foddhaus i鈥檙 myfyrwyr wrth iddynt ddilyn eu cwrs gradd yn y Gyfraith (e.e. ysgrifennu nodiadau cydlynol, crynhoi, trosi o un iaith i鈥檙 llall). Rhan bwysig o鈥檙 modiwl fydd paratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar lle bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i gyflwyno elfen benodol o鈥檙 gyfraith o flaen cynulleidfa o ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi鈥檙 myfyrwyr i ymarfer a datblygu eu sgiliau ymchwil cyfreithiol ac iaith trwy ymarferion ar safle Blackboard y modiwl.
Assessment Strategy
A- hyd at A Rhagorol: Bydd myfyrwyr rhagorol (A- hyd at A) yn cyflawni'n gyson gadarn ar draws y deilliannau dysgu, ac yn cyfuno hyn 芒 gwreiddioldeb, gwybodaeth eang o'r pwnc yn ei gyd-destun ehangach ynghyd 芒 dadleuon a dadansoddiad treiddgar a soffistigedig.Ateb rhagorol, sy鈥檔 dangos meistrolaeth dros y pwnc dan sylw heb fawr ddim lle o gwbl i wella. Mae鈥檙 ateb yn cynnwys yr holl bwyntiau a dadleuon perthnasol, ynghyd 芒 gwerthusiad llawn annibynnol ac aeddfed o鈥檙 testun, heb fawr ddim camgymeriadau neu gynnwys amherthnasol. Lle bo鈥檔 berthnasol, bydd yr ateb hefyd yn dangos tystiolaeth o werthusiad cymharol fanwl o鈥檙 materion dan sylw. Bydd yr holl ddeunydd a chyfeiriadau (lle bo鈥檔 berthnasol) wedi鈥檜 cyflwyno bron yn berffaith yn yr ateb, a bydd yr ateb wedi鈥檌 lunio鈥檔 hynod dda ac yn rhagorol yn ramadegol yn Gymraeg/Saesneg.
B- hyd at B+ Da: Bydd myfyrwyr da (B- hyd at B+) yn llwyddo'n gadarn yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir. Ateb cynhwysfawr, yn cynnwys yr holl neu bron y cyfan o鈥檙 deunydd sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 cwestiwn a dim amherthnasedd, neu ychydig iawn; yr holl ddeunydd a鈥檙 cyfeiriadau yn gywir at ei gilydd, heb ddim anghywirdeb na gwallau, gan gyflwyno鈥檙 cyfan mewn dadl glir, resymegol a beirniadol, ond sydd 芒 lle i wella ei adeiladwaith a鈥檌 gyflwyniad. Ateb sy鈥檔 dangos hyfedredd llwyr yn y pwnc.
C- i C+ Da/Boddhaol: Bydd myfyrwyr lefel C- i C+ yn llwyddo'n ddisgrifiadol yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir. Ateb sydd, er ei fod bob amser yn gywir gan fwyaf, serch hynny yn methu 芒 gwahaniaethu rhwng deunydd perthnasol ac amherthnasol, ac sydd 芒 diffyg beirniadaeth. Ateb sy鈥檔 ddibynadwy o ran cywirdeb, ond nad yw鈥檔 gynhwysfawr neu nad yw鈥檔 hollol berthnasol.
D- hyd at D+ Trothwy: Bydd myfyrwyr (D- hyd at D+) yn dangos sgiliau ymchwil boddhaol mewn rhannau o leiaf o'r pwnc a ddewiswyd ganddynt, a byddant yn gwneud ymdrechion rhannol lwyddiannus o leiaf i archwilio a dadansoddi'r wybodaeth ac i ysgrifennu'r project mewn dull academaidd. Ateb sy'n gywir gan fwyaf o ran cyflwyno deunydd, ond sy鈥檔 gynnwys lefel sylweddol o wallau, ac felly nid yw鈥檔 hollol ddibynadwy.
Learning Outcomes
- Ateb cwestiynau llafar am y gyfraith mewn sefyllfa holi ac ateb.
- Bod yn ymwybodol o wahanol gyd-destunau iaith (ar lafar ac yn ysgrifenedig) a'r modd y dylid eu defnyddio yn 么l y sefyllfa, y diben a'r gynulleidfa.
- Crynhoi deunydd cyfreithiol yn y Gymraeg.
- Datblygu gwybodaeth am ddrafftio cyfreithiol a sgiliau yn y maes.
- Trosi deunydd cyfreithiol o'r Saesneg i'r Gymraeg.
- Ysgrifennu nodiadau cydlynol a chynhwysfawr am destunau cyfreithiol yn Gymraeg, gan gynnwys penderfyniadau barnwrol.
Assessment method
Case Study
Assessment type
Summative
Description
Bydd ddisgwyl i'r myfyrwyr cwblhau darn ysgrifenedig 1,000 o eiriau ynghylch deddfwriaeth a nodiadau esboniadol a fydd yn cael ei bwysoli ar 30% o farc cyffredinol y myfyriwr.
Weighting
30%
Due date
08/04/2025
Assessment method
Case Study
Assessment type
Summative
Description
Bydd ddisgwyl i'r myfyrwyr cwblhau nodyn achos ysgrifenedig 1,000 o eiriau a fydd yn cael ei bwysoli ar 30% o farc cyffredinol y myfyriwr.
Weighting
30%
Due date
25/03/2025
Assessment method
Oral Test
Assessment type
Summative
Description
Bydd ddisgwyl i'r myfyrwyr cwblhau cyflwyniad llafar unigol ar bwnc amserol a fydd yn cael ei bwysoli ar 40% o farc cyffredinol y myfyriwr.
Weighting
40%
Due date
20/05/2025