Module SCW-4003:
Sylf Gwyb a Sgil ar gyfer GC
Sylfaen gwybodaeth a Sgiliau ar gyfer gwaith cymdeithasol 2024-25
SCW-4003
2024-25
School of Health Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Rhian Lloyd
Overview
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ystod o ddamcaniaethau, dulliau a modelau sy'n sail i ymarfer gyda unigolion, gofalwyr, teuluoedd, grwpiau a chymunedau, gan ystyried y cysylltiadau rhwng ystod amrywiol o ddulliau gweithredu. Mae'r modiwl hefyd yn darparu cyflwyniad i asesu, cynllunio, ymyrryd, adolygu a gwerthuso ymarfer, gan gynnig safbwynt dadansoddol a beirniadol ar gyd-destun cyfredol ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru ac yn cydnabod ei natur esblygol. Yn ystod y sesiynau addysgu, bydd ffocws ar addysgu rhyngweithiol sy'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau i gasglu gwybodaeth, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth.
Mae'r modiwl hwn yn ymdrin 芒 sgiliau a gwybodaeth sylfaenol sydd eu hangen i ddechrau datblygu fel ymarferydd gwaith cymdeithasol. Drwy gyfres o weithdai wedi鈥檜 hysbysu gan leisiau unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau a'u gofalwyr, eir i鈥檙 afael 芒 sgiliau sylfaenol cyfathrebu, adeiladu perthynas a chyfweld. Bydd gweithdai ymarferol yn cynnwys cyfleoedd i gymhwyso'r sgiliau a ddysgwyd, drwy ryngweithio ag unigolion o'r gymuned, pobl sy'n defnyddio gwasanaethau, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill o asiantaethau partner a thrydydd sector. Bydd y gweithdai hyn yn cynnwys chwarae r么l, cyfweld unigolion, dadansoddi achos a chyflwyniadau.
Assessment Strategy
-threshold -C-/ C+Dylai pob myfyriwr gyflawni鈥檙 safonau isaf sy鈥檔 ofynnol. Bydd myfyrwyr trothwy鈥檔 dangos lefel sylfaenol o wybodaeth a dealltwriaeth o ymyriadau gwaith cymdeithasol, gan roi adroddiad disgrifiadol yn bennaf a chynnig lefel sylfaenol, ond digonol, o allu i'w ddefnyddio mewn sefyllfaoedd ymarfer. Bydd y myfyrwyr o leiaf yn gallu dadansoddi agweddau ar sefyllfa a nodi鈥檙 prif gydrannau asesu ac ymyrryd. Bydd y myfyrwyr yn gallu trafod ar lefel elfennol faterion gwerthoedd a moesegol yn ymwneud ag ymyriad, a鈥檙 gofynion statudol. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o ddadleuon a chysyniadau allweddol mewn gwybodaeth a sgiliau gwaith cymdeithasol, ac ymwybyddiaeth o鈥檙 fframweithiau ar gyfer cynllunio, cyflwyno a monitro ymyriadau. Bod yn ymwybodol o rai o'r ffyrdd y mae newidiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn dylanwadu ar ddulliau a sgiliau gwaith cymdeithasol. Dangos lefelau addas o sgiliau o ran meithrin a rhannu gwybodaeth yn ymwneud 芒'r maes. -good -(B) Ar y lefel hon dylai myfyrwyr ddangos bod ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth gadarn o ymyriadau a dulliau gwaith cymdeithasol a lefel gadarn o allu i鈥檞 defnyddio mewn sefyllfaoedd ymarfer. Bydd y myfyrwyr yn dangos gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd yn feirniadol ac i integreiddio agweddau eang ar ddysgu o fodiwlau academaidd a鈥檜 defnyddio mewn sefyllfaoedd ymarfer. Bydd y myfyrwyr yn gallu trafod yn gadarn werthoedd a materion moesegol yn ymwneud ag ymyriad, a鈥檙 gofynion statudol a threfniadol. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth drwyadl o ddadleuon a chysyniadau allweddol mewn gwybodaeth a sgiliau gwaith cymdeithasol, ymwybyddiaeth o鈥檙 fframweithiau ar gyfer cynllunio, cyflwyno a monitro ymyriadau, a manteision ac anfanteision gwahanol fodelau a strategaethau. Bod yn ymwybodol o'r rhan fwyaf o'r ffyrdd y mae newidiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn dylanwadu ar ddulliau a sgiliau gwaith cymdeithasol. Dangos lefelau uchel o sgiliau o ran meithrin a rhannu gwybodaeth yn ymwneud 芒'r maes. -excellent -(A-/A*) Myfyrwyr ar y brig yn unig sydd fel rheol yn cyrraedd y lefel hon. Bydd myfyrwyr rhagorol yn dangos lefel soffistigedig o wybodaeth a dealltwriaeth o ymyriadau gwaith cymdeithasol, yn ymestyn yn sylweddol ar gynnwys academaidd modiwlau cysylltiedig ac yn gallu defnyddio hynny yn barhaus ac yn gyson mewn sefyllfaoedd ymarfer. Bydd y myfyrwyr rhagorol yn dangos gallu cynhwysfawr i ddadansoddi ymarfer yn feirniadol a deall oblygiadau amrywiaeth o ymyriadau gwaith cymdeithasol. Bydd y myfyrwyr yn gallu trafod yn soffistigedig werthoedd a materion moesegol yn ymwneud ag ymyriad, a鈥檙 gofynion statudol a threfniadol.Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth drwyadl o ddadleuon a chysyniadau allweddol mewn gwybodaeth a sgiliau gwaith cymdeithasol, ymwybyddiaeth o鈥檙 fframweithiau ar gyfer cynllunio, cyflwyno a monitro ymyriadau, a gallu i werthuso鈥檔 feirniadol fanteision ac anfanteision gwahanol fodelau a strategaethau. Bod yn gyfarwydd ag amrywiaeth eang o'r ffyrdd y mae newidiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn dylanwadu ar ddulliau a sgiliau gwaith cymdeithasol. Dangos lefel uchel iawn o fedrusrwydd o ran meithrin a rhannu gwybodaeth yn ymwneud 芒'r maes
Learning Outcomes
- Cyfleu gwybodaeth yn effeithiol i, a chasglu gwybodaeth gan unigolion, gofalwyr, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol yng nghyd-destun sefyllfaoedd efelychiadol ymarfer gwaith cymdeithasol, gan adlewyrchu dealltwriaeth o werthoedd ac egwyddorion moesegol sy'n sail i ymarfer a dylanwadu ar ryngweithio ag eraill.
- Cymryd ymagwedd adfyfyriol a beirniadol at y dasg o integreiddio theori, modelau a dulliau gwaith cymdeithasol i sefyllfaoedd ymarfer, gan gyfiawnhau dewis o ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth, ymchwil a barn unigolion sydd angen gofal a chymorth, a'u gofalwyr.
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o brosesau gwaith cymdeithasol ac ystyried sut y mae'r rhain yn cael eu cymhwyso i ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru o fewn y cyd-destun deddfwriaethol a pholisi sy'n esblygu.
- Gwerthuso'n feirniadol a dadansoddi amrywiaeth o gysyniadau damcaniaethol sy'n berthnasol i ymyrraeth gwaith cymdeithasol.
- Yn dangos gallu cynyddol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn sensitif gydag unigolion, cynhalwyr, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol, gan ddefnyddio sgiliau yn seiliedig ar werthoedd gwaith cymdeithasol, gan gynnwys parch, urddas a dewis, a chanolbwyntio ar gryfderau.
Assessment method
Role Play
Assessment type
Summative
Description
Interactive Assessment
Weighting
40%
Due date
05/12/2024
Assessment method
Case Study
Assessment type
Summative
Description
2,000 word assignment
Weighting
60%
Due date
17/01/2025