Newyddlenni
B么n-gelloedd yn cael eu trin ar 鈥榣abordy ar sglodyn鈥 am y tro cyntaf
Wrth wireddu cam cyntaf project ar draws Ewrop sy鈥檔 trin y ddau fath o ganser mwyaf ymosodol yr ymennydd, daw鈥檙 partneriaid academaidd a diwydiant at ei gilydd yr wythnos hon (11-12 Gorffennaf) i drafod y camau nesaf.
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a鈥檙 partner diwydiannol, Creo Medical, hefyd yn cynnal gweithdy technegol ar y cyd, sef 'EM Field interaction with biological tissue for cancer and regenerative medicine' (13 Gorffennaf, Pontio 8.30-17.30). Bydd ar agor i鈥檙 cyhoedd, ac yn arddangos cyflawniadau diweddaraf y project ynghyd ag ymchwil ddiddorol o fentrau perthnasol.
Mae project SUMCASTEC yn cyfuno arbenigedd biolegwyr a pheirianwyr electronig blaenllaw er mwyn datblygu dyfeisiau microtechnoleg arloesol a fydd, yn y pen draw, yn gallu adnabod a thrin b么n-gelloedd canser Glioblastoma multiforme a Medulloblastoma. Un ymdriniaeth yw hon sy鈥檔 cael ei datblygu i ganfod gwellhad i un o鈥檙 canserau ymosodol a ddaeth i sylw鈥檙 cyhoedd yn ddiweddar gyda marwolaeth y gwleidydd blaenllaw, y Fonesig Tessa Jowell.
Un o dargedau datblygu cyntaf y project hwn yw creu dull 鈥榣abordy ar sglodyn鈥 cyflym, cludadwy a dibynadwy fydd yn adnabod y math o gelloedd canser sydd dan sylw yn gyflym.
Yn ddiweddar mae鈥檙 partneriaid ymchwil ym Mhrifysgol Limoges wedi dangos eu defnydd llwyddiannus o sglodyn microsgopig i ddidoli b么n-gelloedd wedi eu heintio 芒 chanser.
Y ffordd o adnabod y math o gell canser yw trwy wahaniaethu rhwng y celloedd yn 么l sut maent yn symud neu鈥檔 adweithio pan fydd meysydd electromagnetig anioneiddiol yn cael eu cyflwyno iddynt ar wyneb y sglodyn. Mae鈥檙 peirianwyr electronig yn gallu gwahaniaethu rhwng celloedd iach a gwahanol fathau o gelloedd canser trwy'r ffordd maent yn adweithio i'r tonnau electromagnetig yn y rhychwantau microdon ac optegol, ac maent yn gobeithio datblygu hyn ymhellach er mwyn adnabod 鈥榣lofnod鈥 electromagnetig b么n-gelloedd canser.
Mae adnabod b么n-gelloedd yn bwysig gan fod gwyddonwyr yn credu eu bod yn chwarae rhan yn ailymddangosiad rhai canserau, gan gynnwys y ddwy ffurf ymosodol yma, wrth iddynt wrthsefyll triniaethau presennol ac achosi i鈥檙 tiwmor aildyfu. Mae triniaethau confensiynol yn targedu celloedd gwahaniaethol sy鈥檔 lluosogi鈥檔 gyflym, yn hytrach na b么n-gelloedd cwsg canser, sydd hefyd yn anodd eu hadnabod ar sail dulliau labelu safonol.
Ar hyn o bryd, gall gymryd hyd at 40 diwrnod ar 么l cael biopsi, i adnabod b么n-gelloedd tiwmorau ymennydd gan ddefnyddio dulliau labordy traddodiadol.
Trwy wneud defnydd o鈥檙 ffyrdd penodol y mae celloedd yn symud ac yn adweithio, yn eu gwaith micro labordy, mae'r ymchwilwyr hefyd yn anelu at niwtraleiddio b么n-gelloedd canser yn benodol yn y sglodyn. Yn y pen draw bydd hyn yn ysgogi datblygu offer electrolawdriniaethol newydd i drin y b么n-gelloedd canser ar safle'r tiwmor.
Meddai Dr Arnaud Pothier o Limoges 鈥淎m y tro cyntaf mae dyfais Labordy ar Sglodyn yn medru gwahaniaethu rhwng b么n-gelloedd yr ymennydd o blith celloedd gwahaniaethol a didoli o fewn munudau. Rydym wedi cyflawni鈥檙 cam hanfodol cyntaf tuag at ynysu a thriniaeth ddethol."
Mae rhai blynyddoedd o hyd nes bydd y 鈥榣abordy ar sglodyn鈥 a'r offeryn triniaeth yn gweld golau dydd.
Yn ei waith gyda microbiolegwyr ym mhrifysgolion Padua a Limoges, mae Dr Cristiano Palego yn Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn defnyddio ei arbenigedd ym maes microelectroneg yn y project.
Wrth roi sylwadau ar lwyddiant cynnar y project, dywedodd fod cam cyntaf y project yn dod yn ei flaen yn dda, er gwaethaf dulliau gweithio pur wahanol biolegwyr a pheirianwyr.
鈥淢ae gwir gyffro yn ein plith, nid yn unig am y potensial diagnostig sydd i鈥檔 hymdriniaeth, ond hefyd wrth i ni ddod 芒 thechnolegau fel micro-hylifeg a microelectroneg, a oedd ar un adeg yn feysydd hollol ar wah芒n, ynghyd. Rydym yn grediniol fod potensial i ficro-electroneg yrru ymdriniaethau gofal iechyd newydd a chreu鈥檙 un math o naid cwantwm a drawsffurfiodd electroneg ym maes cyfathrebu personol,鈥 meddai.
Cyllidir y project ymchwil arloesol hwn gan Raglen Fframwaith Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd am gyfnod o 42 o fisoedd. Yn y project mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yng Nghymru, Prifysgol Limoges yn Ffrainc, IHP Microelectronics yn yr Almaen a Phrifysgolion Padua a Rhufain yn yr Eidal yn gweithio gyda Creo Medical. Mae gan Creo Medical, cwmni a鈥檌 bencadlys yn ne Cymru, hanes cadarn o ddatblygu a gwerthu dyfeisiau meddygol sy鈥檔 gallu cyfeirio ynni microdon at darged penodol iawn i drin achosion megis canserau'r fron a'r coluddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018