Tudur Owen
Ers dyddia cynta’r Brifysgol bron i 150 o flynyddoedd yn ôl, ma’r cysylltiad hefo’r ardal leol wedi bod yn bwysig iawn.Ìý
A mi oedd gweithio hefo’r gymuned i godi dyheadau ac ansawdd bywyd yn bwysig iawn, a mae o dal i fod wrth wraidd gwaith y Brifysgol hyd heddiw.
Ma gallu y Brifysgol i gyfrannu at lesiant economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol yn bwysig, ac yn werthfawr iawn.
A dyma pam mai cenhadaeth ddinesig y Brifysgol ydy hyn: i flaenoriaethu llesiant ein cymunedau a’r ardal.Ìý
Trwy gydweithio gyda’n partneriaid cymunedol, gall Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ helpu greu budd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, yma yng ngogledd Cymru.
Ymunwch a ni wrth i ni wrando ar rai o’r rheini sydd wedi elwa o’r genhadaeth yma.
Ma’r ffilm yma am eu storïau, a’u lleisiau.
Aaron Pleming
Aaron Pleming di fy enw i, a dwi’n gwirfoddoli yma yn Pontio, a dwi’n byw hefo cerebral palsy.Ìý
Ma Pontio jyst fatha teulu mawr, a da ni’n gyd yn nabod ein gilydd.Ìý
Da chi medru fynd i weld petha yn y sinema a theatr, a ma stiwdants yn medru dod yma i socialisio, ma jyst fatha teulu mawr yma yn Pontio rili.
Dwi di cael cefnogaeth massive gan y criw yma yn Pontio. Ma nhw ddim yn gweld fi fatha Aaron hefo cerebral palsy, ma nhw’n gweld fi fatha Aaron, does na ddim barrier yna basically.
Rhian Parry Jones
Rhian Parry Jones dwi i, Pennaeth Ysgol Dyffryn Nantlle, a dwi yn gyfrifol am yr ysgol yma, sy’n ysgol uwchradd sy’n gwasanaethu ardal Penygroes.
Ma’r gefnogaeth da ni’n gael gan y Brifysgol a gan partneriaethau gwahanol sy’n cael ei trefnu drwy’r Prifysgol yn galluogi ni i ehangu gorwelion ein disgyblion ni yma.
Ma’n galluogi nhw i weld be di’r cyfleoedd eraill sydd yna ar gael iddyn nhw tu allan i’r ysgol, ac efallai gwneud i nhw ystyried gyrfaoedd mewn gwahanol gyrfaoedd STEM er enghraifft, falle byse nhw ddim wedi cysidro, cyn iddyn nhw gael y profiadau gwahanol ma nhw’n gael.
Huw Evans
So da ni wedi bod yn cydweithio hefo’r Brifysgol ers dipyn o flynyddoedd ar nifer fawr o brosiectau, cychwyn ffwrdd hefo Ehangu Mynediad, a hwnna di mynd yn nol i cyn 2018.Ìý
Da ni wedyn di bod yn cydweithio ar brosiectau eraill hefo Ymestyn yn Ehangach hefo’r Brifysgol, a cydweithio hefo nhw ar nifer fawr o brosiectau STEM, a gwahanol brosiectau eraill, a hefyd da ni wedi bod yn cydweithio hefo M-SParc yn Gaerwen.
So heddiw ma gyno ni focus ar gwyddoniaeth, so da ni’n edrych ar brosiectau STEM.Ìý
So da ni’n edrych ar egni lleol yn gynta, wedyn ma gyno ni cwmni Explore yn dod i fewn, a ma gyno ni 2 grŵp yn neud prosiectau, un ar y bydysawd ac astro-ffiseg ac edrych ar rocedi, a wedyn ma gyno ni grŵp arall wedyn yn edrych ar ceir sydd yn gyrru heb gyrwyr.
Alaw
Y peth gora genai i yw da ni’n cael fel cyfleoedd o pethau gwahanol, i gweld, jyst i cael blas o pethau gwahanol.
Efa
Dwi wedi mwynhau dysgu pethau newydd yn yr ysgol, a cael y profiadau i neud o.Ìý
Yn fy marn i yr un gorau dwi di neud ydy’r World of Work oherwydd ma na llawer o gyflogwyr wedi dod i fewn i’r ysgol a dysgu petha gwahanol i ni.
Huw
Yn y gorffennol da ni wedi cael lot fawr o brosiectau o STEM, cymhwysedd digidol, gyrfaoedd, cael pobl i fewn o gwahanol gwmnïau, i roi yr arlwy disgyblion o be sydd ar gael i nhw yn y dyfodol a’r potensial i ehangu eu gorwelion nhw ar gyfer pa fath o swyddi sydd yn y byd STEM neu sydd yn y byd gwaith ehangach tu allan yn lleol.
Wel ma’r gefnogaeth da ni wedi ei gael gan y Brifysgol wedi helpu ni fel staff a’r disgyblion. O ran y disgyblion, ma nhw’n cael sgiliau meddal, ma nhw’n cael profiadau bythgofiadwy, ma’r disgyblion wastad yn sôn am y profiadau ma nhw’n cael hefo’r sesiynau da ni’n neud yn yr ysgol hefo’r Brifysgol.Ìý
Ma’r staff hefyd yn elwa achos bod nhw’n gallu gweld y potensial yn y disgyblion, a gweld ongl gwahanol i’r disgyblion pan ma nhw yn cael mynediad at y math yma o weithgaredd.
Guto Hughes
Fy enw i yw Guto Wyn Hughes, dwi’n astudio PhD yma ym Mangor, yn edrych ar gweithrediad pwysau gwaed mewn pobl.Ìý
Ges i fy ngeni a magu yma ym Mangor, a wedi bod yn dod i Canolfan Brailsford, neu fel oedd o ers talwm, Maesglas, ers i mi fod yn ysgol gynradd. Odd na glybiau addysg gorfforol a ballu yn digwydd yma, a hefyd pan on i’n ysgol uwchradd ddos i yma ar gyfer wythnos o brofiad gwaith.
So dwi’n astudio PhD yma ym Mangor ar hyn o bryd, wedi i mi astudio gwyddorau chwaraeon lawr yng Nghaerdydd, a wedi hynna rodd na brosiect PhD perffaith i mi yma ym Mangor, ag oedd o’n teimlo fel y peth iawn i neud i ddod nol adra i astudio’n ymhellach.
Dwi’n mwynhau ymarfer yma yn Brailsford, yn arbennig oherwydd ma na gymuned unigryw yma sydd ddim yn digwydd yn unlla arall.Ìý
Ti’n cael yr ochr mwy elite a’r pobl sy’n cystadlu yn yr lefelau top sy na, a hefyd da ni’n cael pobl sydd jyst yn dod fewn o’r gymuned, sydd jyst yma i neud ymarfer corff, ond hefyd yn gweld be da ni’n neud ac yn meddwl ei fod yn edrych yn diddorol a isio cymryd rhan yn y math yna o beth.Ìý
A felly da ni’n cychwyn pigo fyny pobl o bob ochr nes bod gyno ni’r gymuned unigryw iawn yma yn Brailsford.
So ar hyn o bryd ma gyno ni paratoadau yn mynd ymlaen ar gyfer Pencampwriaeth Codi Pwysau Prifysgolion Prydain yma ym Mangor am y tro cynta, y tro cynta tu allan i Llundain o gwbl.Ìý
Ma gyno ni gyfleusterau unigryw iawn yma, o ran bod y lle da ni’n cynhesu i fyny ac yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth yn cyfleusterau arbennig o dda a hefyd reit yn ymyl lle ma’r gystadleuaeth yn digwydd.Ìý
Yn aml iawn da ni fel arfer gorfod cerdded lawr rhyw coridors hir i gyrraedd lle ma’r gystadleuaeth. Yma, da ni’n syth allan o’r stafell cynhesu i fyny, a syth ar y platfform cystadlu. Mae o’n berffaith.Ìý
Dwi’n argymell i unrhyw berson sydd hefo diddordeb mewn chwaraeon neu jyst ymarfer corff, dim bwys be fath, i ddod i Brailsford.Ìý
Ma na gymuned i bob grŵp, a dim bwys be fath o chwaraeon da chi’n edrych am, da chi wastad yn gallu ffeindio eich grŵp chi.
Lowri Morris
Fy enw i ydy Lowri Morris, a dwi yn gweithio i Wild Elements, a da ni’n cwmni gymdeithasol di-elw, a mi da ni’n gwneud llawer iawn o weithgareddau, dwi fy hun yn gweithio mewn sesiynau yn yr awyr agored, a mi fyddai’n gwneud digwyddiadau awyr agored, fel sydd yma heddiw, a hefyd mi fyddai i yn bersonol mi fyddai i yn mynd i fewn i ysgolion i gyflwyno sesiynau hefo ysgolion lleol a hefyd mi fydd yr ysgolion yn dod atom ni yn Treborth hefyd i gael sesiynau yn yr gardd fotaneg Treborth a yn yr ysgol goedwig hefyd.
Heddiw ma gyno ni Draig Beats yn mynd ymlaen yma, a da ni fel Elfennau Gwyllt yn cymryd rhan yn y diwrnod yma. Ma gyno ni stall ein hunain yma, yn gwerthu nwyddau sydd gyno ni yn ein siop eco ym Mangor, a hefyd da ni’n cynnal digwyddiadau i blant, celf a chrefft, a ma gyno ni hefyd saethyddiaeth a da ni’n neud smores i blant hefyd a pobl yn yr ysgol goedwig.
Pwynt cyswllt cynta fi fy hun hefo Prifysgol Cymru Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ odd pan wnes i ddechrau chwilio am cyrsiau i neud yn y Brifysgol ar ôl Lefel A, a be on i isio bod oedd athrawes cynradd, felly ar y pryd mi oedd na gwrs i athrawon cynradd i hyfforddi fel athrawon cynradd yn Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar safle Normal, felly fana es i yno i neud fy gradd mewn addysg i 7 i 11, yn arbenigo mewn addysg mewn gwyddoniaeth.
Mi da ni’n gweithio yn agos iawn hefo ysgolion lleol yn yr ardal. Ar hyn o bryd da ni’n gwneud sesiynau ar prosiect ar thema o cemeg. A felly da ni wedi bod i naw ysgol lleol yn yr ardal, a ma sesiynau yn seiliedig hefyd i atgyfnerthu y cwricwlwm yng Nghymru.
Y manteision o weithio hefo Gardd Fotaneg Treborth efo ni yw da ni’n cael defnyddio fel da chi’n gwybod yr ardal ei hun fel yr ysgol goedwig sydd gyno ni fama ond hefyd da ni’n cael defnyddio da chi’n gwybod, ma’r arbenigedd yma i ni gael holi beth sydd yn tyfu yma, y datblygiadau sydd yn digwydd yma fel bod ni’n gallu hefyd defnyddio hynna yn ein sesiynau ni hefo’r plant a’r cyhoedd.
Anna Roberts
Anna Roberts dwi i, fi di Prif Weithredwr a sylfaenydd Explorage.com, a rydym wedi ein lleoli yma yn M-SParc ar Ynys Môn.Ìý
Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yw ein prifysgol lleol, mae ar ein stepen drws, felly da ni wastad bod yn gyfarwydd hefo fo, ond fy ymgysylltu personol cynta hefo hi oedd cwrs Arweinyddiaeth ION Lefel 5, a rodd yn rhywbeth nad oeddwn wedi ei hystyried tan i mi wneud gwaith gyda chwmni arall, a wedyn wnes i feddwl ma gen i fy nghymwysterau proffesiynol, rŵan dwi angen rhywbeth i gadarnhau fy ngalluoedd arweinyddiaeth.Ìý
A dyma pam wnes i edrych ar y cwrs Arweinyddiaeth ION, ond actually canlyniadau’r cwrs ION, a’r cynnwys a’r cysylltiadau dwi wedi ei wneud wedi mynd yn bell tu hwnt i fy nisgwyliadau.Ìý
So rodd hynna’n grêt, a tu hwnt i hyn ma nhw wedi bod yn gefnogol tra bod ni wedi lleoli yma yn M-SParc, yn nhermau siarad gyda amryw o arweinwyr cyfadran am cydweithio posibl gyda myfyrwyr medrwn ei wneud gyda Explorage wrth i ni barhau i arloesi a thyfu.Ìý
Da chi’n rhan mawr o hwb o weithgaredd neu rydych chi’n gwybod be sy’n digwydd ar lawr gwlad.Ìý
Rydym wedi gweithio yn uniongyrchol gyda sawl tenant arall yn yr adeilad, felly rydym yn defnyddio eu gwasanaethau, a gofyn am eu cyngor ar bethau hefyd!Ìý
Rydym wedi cael lleoliad Academi Sgiliau o ganlyniad i M-SParc, a felly ma hyn wedi datblygu i fewn i weithiwr llawn amser a bellach yn aelod o’n tîm, rydym hefyd wedi cael person profiad gwaith.Ìý
Os na fuasem di cael y cefnogaeth o M-SParc a Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ da ni wedi ei dderbyn, mi fyse wedi bod yn fynydd llawer anoddach i’w ddringo, a byse di cymryd llawer yn hirach i gyrraedd lle ydym ni.Ìý
Ma’r cefnogaeth di neud ni teimlo fel rhan o rhywbeth a helpu ni i gadw’r momentwm i fynd, a ma di agor drysau i ni lle ffordd arall buasem wedi bod yn cnocio ein pennau ar wal o frics! Felly rydym yn ddiolchgar iawn amdano.
Tudur
Hyn, stori’r unigolion sy’n gysylltiedig gyda’r Brifysgol mewn amryw o wahanol ffyrdd. Yma i weithio gyda chi, ac i gefnogi chi.Ìý
Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ: Eich Prifysgol, Eich Cymuned.
Ìý
Gyda diolch i'n partneriaid Aaron Pleming, ; Rhian Parry Jones a Huw Evans ; Guto Wyn Hughes, Canolfan Brailsford; Lowri Morris, ; Anna Roberts, a roddodd eu hamser i gefnogi'r fideo yma.Ìý
Amdanom Ni
Mae gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ hanes hir o weithio gyda'r gymuned leol i godi dyheadau a gwella ansawdd bywyd. Os hoffech weithio gyda ni, boed fel unigolyn, grŵp, ysgol, neu sefydliad, cysylltwch â ni trwy cymuned@bangor.ac.ukÌýneu llenwch y ffurflen ymholiadau hon.
Mae ein Strategaeth Ymgysylltiad Dinesig newydd yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio gyda'n cymunedau. Mae ein gwaith yn y maes hwn yn dod o dan dair thema ymbarél.
- Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ (e.e. iechyd, hinsawdd, yr iaith Gymraeg, tai, tlodi, poblogaeth sy'n heneiddio)
- Galluogi arloesi a chyfleoedd economaidd
- Gwella ansawdd bywyd a rhannu gwybodaeth trwy ymgysylltu cymdeithasol a chyhoeddus
Trwy bartneriaethau a chydweithio, ceisiwn gyfrannu at les economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol ein hardal. Edrychwch ar enghreifftiau o'r gwaith hwn isod.
[00:00]
Helo, Yr Athro Andrew Edwards ydw i, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymgysylltiad Dinesig ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
[00:07]
Mae’n bleser gen i gyflwyno ein strategaeth Ymgysylltiad Dinesig, a gafodd ei lansio mis yma.
[00:13]
Yn y bôn, mae’r strategaeth yn sôn am ddatblygu, cryfhau ac ehangu’r cysylltiadau rhwng y brifysgol a’r gymuned.Ìý
[00:21]
Pwrpas y strategaeth yw sicrhau cyfeiriad a statws i’n gwaith yn y maes pwysig hwn.Ìý
[00:28]
Mae gan y Brifysgol gyfoeth o sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth rydyn ni’n dymuno eu rhannu gyda’n cymunedau ni.Ìý
[00:36]
Rydym eisiau cydweithio er mwyn gwella ansawdd bywyd a llesiant pobl o bob oedran.Ìý
[00:43]
Nid yw hyn yn rhywbeth newydd chwaith. Ers i ni sefydlu yn 1884...
[00:48]
Mae gweithio gyda chymunedau i godi uchelgais addysgol, diwylliannol ac economaidd yn rhan annatod o’n gwaith ni, fel Prifysgol.
[00:58]
Drwy’r strategaeth hon a’n cynllun strategol sefydliadol, Strategaeth 2030...
[01:03]
Rydyn ni’n cyflwyno ein hymrwymiad i gefnogi cyfoeth o amcanion i gryfhau ein cenhadaeth ddinesig yn rhanbarthol,Ìý
[01:11]
yn genedlaethol ac hefyd yn rhyngwladol.
[01:14]
Dyma strategaeth sydd yn clymu myfyrwyr a staff y Brifysgol ynghyd â chymunedau ledled gogledd Cymru a thu hwnt.Ìý
[01:23]
Mae gennym dîm Ymgysylltiad Dinesig penodedig erbyn hyn,
[01:26]
er mwyn helpu i ddatblygu a chynnal y cysylltiadau rhwng y Brifysgol a’n cymunedau ni.Ìý
[01:32]
Felly os ydych eisoes mewn cyswllt gyda’r Brifysgol trwy ddosbarthiadau neu gyrsiau,Ìý
[01:38]
yn defnyddio ein cyfleusterau o’r ansawdd uchaf yn Pontio, M-SParc, Canolfan Brailsford neu Gerddi Treborth...
[01:45]
Neu ella yn gweithio ar brosiect penodol gyda’n staff, rydym am adeiladau ar y cysylltiadau yma...
[01:50]
A sicrhau fod yna fwy o gyd-weithio rhyngom a’n bod yn meithrin cysylltiadau newydd er budd yr ardal.Ìý
[01:57]
Gobeithio y gewch gyfle i fwrw golwg dros y strategaeth, a pheidiwch ag oedi i gysylltu gyda ni ar:
[02:04]
cymuned@bangor.ac.uk er mwyn trafod syniadau newydd a ffyrdd o gydweithio.Ìý
[02:11]
Dwi fawr iawn yn edrych ymlaen at gydweithio gyda chi, dros y blynyddoedd nesaf, Diolch yn fawr iawn.
Gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’
(e.e. iechyd, hinsawdd, y Gymraeg, tai, tlodi, poblogaeth sy'n heneiddio)
Gweithio gyda rhanddeiliaid i alluogi arloesi a chyfleoedd economaidd
Gwella ansawdd bywyd a rhannu gwybodaeth drwy ymgysylltu cymdeithasol a chyhoeddus
Ein Partneriaid Strategol
Yn 2020 cyhoeddodd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a Choleg Cambria weledigaeth am bartneriaeth newydd i ddatblygu eu perthynas er lles dysgwyr a busnesau Gogledd Ddwyrain Cymru. Yn ein perthynas strategol mae'r ddau sefydliad yn cydweithio i sefydlu rhaglenni a llwybrau newydd i addysg uwch yn ogystal â darparu sgiliau a chyfleoedd hanfodol i fusnesau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru trwy’r rhaglen Medru. Mae MEDRU yn cyfuno arbenigedd o ddiwydiant ac addysg, sy’n golygu ein bod mewn sefyllfa berffaith i arfogi pobl a busnesau â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt nawr ac at y dyfodol. Cânt eu cyflwyno ar y cyd â’r Brifysgol Agored, sy’n fodd i gyflwyno’r cynnig yn y cnawd ac ar-lein ac arddangos y datblygiadau mwyaf newydd a chyffrous ym myd Diwydiant 4.0, Gweithgynhyrchu Digidol, a Ffatrïoedd Clyfar.
²Ñ²¹±ð’r berthynas rhwng y sefydliadau’n targedu proses barhaus o ddatblygiad a dilyniant wrth inni ymateb i anghenion dysgwyr a busnesau mewn amrywiol sectorau a chysylltu â’r cyfleoedd a gynigir gan gampws y Brifysgol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac arlwy eang Coleg Cambria.
Mae gan y Brifysgol bartneriaeth hir sy'n arwain y sector gyda Grŵp Llandrillo Menai ar ei hamrywiol gampysau yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae gan y bartneriaeth bortffolio o fwy na 40 o raglenni dilys ac amryw o gyweithiau addysgu ymhlith y gweithlu yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys iechyd, twristiaeth ac adeiladu. Yn ddiweddar tyfodd y bartneriaeth i gynnwys cyd-ddarpariaeth mewn amryw o Brentisiaethau Gradd yn nisgyblaethau cyfrifiadureg a pheirianneg ac i arwain partneriaeth a dyfodd i gynnwys cydweithwyr yng Ngholeg Cambria. Yn ogystal â chydweithio ar addysgu, mae’r bartneriaeth hefyd yn cyflawni o ran cynyddu mynediad ac ehangu cyfranogiad mewn Addysg Uwch, ymyriadau pwrpasol megis sgiliau niwclear a chydweithio’n ehangach i ddatblygu’r economi rhanbarthol trwy gysylltu arloeswyr ledled y timau i gefnogi datblygiad polisi economaidd a chyflawni ar hyd y rhanbarth.
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ac Adra, darparwr tai cymdeithasol mwyaf Gogledd Cymru, wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) i ddatblygu sgiliau ac ymchwil i ddatgarboneiddio stoc tai.
Rhagor o wybodaeth am y cydweithio rhwng y Brifysgol ac Adra
Ìý
Cyfarfod y tîm a chysylltu
Am fwy o wybodaeth am ein gwaith, cysylltwch â ni:
Yr Athro Andrew Edwards
Yr Athro Andrew Edwards yw’r Dirprwy Is-Ganghellor Ymgysylltiad Dinesig a’r Gymraeg. Y mae hefyd yn Bennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas. Fe’i penodwyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth y Coleg ym mis Mai 2020, ar ôl bod yn Ddeon y Coleg ers 2012.
Gwenan Hine
Mrs Gwenan Hine sy’n arwain ar ddarparu gweithrediad strategol ac effeithiol Swyddfa’r Is-ganghellor, darparu gwasanaethau cyfreithiol, cydymffurfiaeth ym maes contractau a gwybodaeth, llywodraethiant a moeseg ymchwil, ordinhadau a pholisïau. Mae Gwenan hefyd yn arwain ar oruchwylio gweithrediad ymgysylltu dinesig.
Iwan Williams
Iwan Williams yw’r Uwch Swyddog Ymgysylltiad Dinesig. Dechreuodd Iwan yn ei swydd ym mis Ionawr 2022. Mae swyddi blaenorol Iwan yn cynnwys gweithio i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Comisiynydd Pobl HÅ·n Cymru, Cynghorau Gwynedd/Ynys Môn a Chyngor Dinas Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
Kathryn Caine
Kathryn Caine yw’r Swyddog Ymgysylltiad Dinesig. Dechreuodd Kathryn yn ei swydd ym mis Tachwedd 2021 yn dilyn swyddi amrywiol yn y Brifysgol gan gynnwys Gwasanaethau Campws, Pontio ac yn fwyaf diweddar, IRIS. Cyn ymuno â'r Brifysgol, treuliodd Kathryn 10 mlynedd yn gweithio yn y sector Gwasanaethau Ariannol.ÌýKathryn hefyd yw’r Hyrwyddwr Lles ar gyfer Swyddfa’r Is-ganghellor, IRIS, Tim Llywodraethu a Chydymffurfiaeth a Cynllunio a Phrosiectau Strategol.
Dilynwch ni
Dilynwch Ni
Dilynwch y cyfrifon sy'n ymwneud â'r Brifysgol ar Twitter: