Newyddlenni
Creadigaeth newydd i'w gwneud yn haws canlyn llwybr y chwyldro digidol nesaf
Mae'n bosib cyflwyno algorithm newydd i gydrannau sydd eisoes yn bod, er mwyn hwyluso dyfodiad y chwyldro digidol nesaf.
Disgwylir i ‘Ryngrwyd y Pethau’ a chysylltiadau ffonau symudol 5G chwyldroi'r ffordd yr ydym yn mynd ati i fyw ein bywydau a chynnal ein busnesau.
Fodd bynnag, mae rhai problemau i'w datrys cyn i 'Ryngrwyd y Pethau' allu gwneud y defnydd gorau o'n rhwydweithiau data cyfredol, a chyn i rwydweithiau 5G ddod yn realiti.
Un datblygiad sydd ei angen yw gwneud signalau'r rhyngrwyd yn ebrwydd ar gyfer rhaglenni mewn gwasanaethau amser real yn y dyfodol, megis cerbydau heb yrwyr. Mae byrhau'r oedi ar y signal i lai nag un milieiliad yn un o'r heriau technegol mwyaf sy'n wynebu'r gymuned ymchwil a datblygu TGCh ar hyn o bryd. Mae angen i'r systemau cyfathrebu eu hunain fod yn fwy deinamig hefyd ac ymateb i draffig.
Mae arbenigwyr peirianneg electronig ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnig ffordd o wneud hynny heb orfod cyflwyno offer na rhwydweithiau drud.
O du diwydiant mae diddordeb rhyngwladol yn , ac mae consortiwm ymchwil bychan am fynd ati i brofi'r theori mewn project SMARTExpertise a gyllidir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y project yn para am ddeng mis ar hugain, ac mae wedi derbyn dros £1m o gefnogaeth ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Bydd arbenigwyr o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn gweithio gyda gwneuthurwr cydrannau optegol allweddol a gwerthwr offer a system optegol a diwifr rhyngwladol i brofi'r cysyniad yn ymarferol.
Mae Jianming Tang, Athro mewn Peirianneg Electronig, sydd y tu ôl i'r gwaith newydd, yn egluro:
"Mae disgwyl y bydd rôl addawol i'r dechnoleg newydd yma yn nyfodiad 5G maes o law.
Er mwyn i'r chwyldro digidol nesaf ddigwydd, mae angen i'r rhwydweithiau diwifr a'r rhai traddodiadol weithio'n fwy hyblyg gyda'i gilydd. Mi wnaiff hynny arbed arian, a chynnig cysylltiadau cyfathrebu llawer mwy deinamig a hyblyg i ddefnyddwyr, a bydd yn gallu ymateb i bwysau'r traffig - gan alluogi'r rhwydweithiau i gyflwyno cysylltiadau o ansawdd uchel fel bo'u hangen."
"Rydym ni wedi datblygu algorithm, neu set o ffyrdd o brosesu signalau. O gyflwyno'r rheiny i'r hybiau cyfathrebu presennol bydd modd 'bwndelu'r' signalau a'u hanfon ac yna'u ‘dad-fwndelu’ i'w prosesu yn y maes optegol, rhywbeth nad yw'n bosibl ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae anfon signalau'n optegol yn llawer mwy effeithlon, ond mae'n rhaid trosi'r signalau optegol hyn yn electronig er mwyn prosesu'r signalau. Mae newid rhwng y meysydd electronig ac optegol, y gall fod angen ei wneud nifer o weithiau wrth drosglwyddo signal, yn feichus ac mae'n cymryd llawer o amser. Mae symleiddio hynny'n hynod effeithlon o ran cyflymder a chost, boed draffig signalau'r rhyngrwyd neu ffônau symudol ar unrhyw un o'n rhwydweithiau presennol."
Mae grŵp Yr Athro Jianming Tang yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn arbenigwyr blaenllaw ym maes datblygu algorithmau newydd i gynyddu effeithlonrwydd y rhwydweithiau sydd ohoni. Mae cysyniad arall a ddatblygwyd gan Yr Athro Tang i gynyddu cyflymder a gallu’r rhyngrwyd yn sylweddol, eisoes wedi ei fasnacheiddio gan Fujitsu, cwmni gwasanaethau ac offer technoleg gwybodaeth rhyngwladol o Japan.
Mae'r Project DESTINI newydd gyda Grŵp Ymchwil a Datblygu Canada yn Ciena, cyflenwr byd-eang offer rhwydweithio telathrebu, meddalwedd a gwasanaethau yn yr Unol Daleithiau, a Ffotoneg EFFECT yn Nyfnaint, y Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2019