Newyddlenni
Cydnabod Hanzhe Sun am ddawn ragorol mewn peirianneg!
Rhoddir Gwobr IET yn flynyddol i fyfyrwyr rhagorol sy'n cwblhau cwrs astudio achrededig yr IET. Caiff enillwyr y wobr eu henwebu gan eu prifysgol oherwydd iddynt ddangos rhagoriaeth yn eu cwrs a arweiniodd at ennill gradd dosbarth cyntaf.
Fel rhan o'i fuddugoliaeth bydd Hanzhe Sun yn derbyn tystysgrif a dwy flynedd o aelodaeth myfyriwr am ddim o'r IET.
Dywedodd yr Athro Danielle George MBE, Llywydd yr IET: “Mae Gwobrau’r IET yn ffordd wych i fyfyrwyr peirianneg talentog ennill cydnabyddiaeth am eu gallu rhagorol yng nghamau cynnar eu siwrnai ym myd peirianneg. Mae Aelodaeth o’r IET yn gyfle i weithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa gysylltu â chymuned fyd-eang, meithrin rhwydweithiau a datblygu eu gwybodaeth dechnegol." Aeth yr Athro George ymlaen i ddweud: “Mae'r IET yn frwd dros hyrwyddo rhagoriaeth mewn peirianneg ac mae ein gwobrau’n fodd i roi sylw i rai o'r talentau gorau mewn peirianneg. Dylai'r holl enillwyr fod yn hynod falch o'u cyflawniadau.
Rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw am yrfa dda a llwyddiannus iawn - byddant oll yn gwneud gwahaniaeth yn y dyfodol.”
Cafodd Hanzhe gyfartaledd dros 80% trwy gydol ei flwyddyn olaf, a 97% mewn cyfathrebu Gwybodaeth a Chodio, a 94% ar gyfartaledd mewn Electromagneteg. Dywedodd Hanzhe “Mae’n anrhydedd ac rwy’n hapus o dderbyn y Wobr IET. Pan glywais fy mod wedi ennill y wobr, roeddwn mewn hwyliau da am amser hir ac yn teimlo fy mod yn cael fy annog. Mae ennill y wobr hon yn gadarnhad o fy mywyd astudio. Credaf y bydd yn parhau i roi’r dewrder imi archwilio byd peirianneg yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Dr. Iestyn Pierce (Pennaeth yr Ysgol) “Rydym yn gweithio'n agos a'r IET ers degawdau. Mae'n anrhydedd inni roddi un o wobrau IET, ac mae Hanzhe Sun wedi gweithio'n galed ar ei waith gradd. Bu’n gweithio gyda mi gyda'i brosiect unigol blwyddyn olaf, a bu’n rhagorol. Dangosodd ddealltwriaeth wych wrth ddylunio a gwerthuso peiriant cryptograffig ysgafn ar gyfer dilysu Rhyngrwyd Pethau, a wnaiff sicrhau ei bod yn anoddach i ddrwgweithredwyr gipio rheolaeth dros offer y rhyngrwyd yn y dyfodol, gan helpu diogelu ein cartrefi a hwythau’n gynyddol ar-lein. Rwy’n dymuno’r gorau iddo ac yntau’n mynd rhagddo i astudiaeth ôl-radd.”
Dywedodd Hanzhe “Hoffwn ddiolch i’r holl athrawon a fu’n fy nysgu yn y brifysgol, yn enwedig Dr Iestyn Pierce. Mae hir amynedd Iestyn, ei gefnogaeth a’i gymorth brwd, wedi fy ngwneud yn hyderus bob amser am fy nyfodol. Fe wnaeth hefyd fy ngalluogi i gwblhau fy mhrosiect unigol i safon uchel yn y cyfnod arbennig hwn. Yn olaf, hoffwn ddiolch i'm alma mater, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ac Ysgol CSEE. Bu’r llwyfannau da a roesant imi’n fodd imi ymwneud â phethau prydferthaf byd peirianneg."
I ddarganfod mwy o wybodaeth am yr holl wobrau sydd ar gael i beirianwyr ifanc a darpar beirianwyr trwy'r IET, gweler: www.theiet.org/awards
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2021