Newyddlenni
Datblygiadau diweddaraf ynni solar yn cael eu hamlygu ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料
Y mis hwn bydd Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn cynnal Cynhadledd (Gwyddoniaeth, Cymhwysiad a Thechnoleg Ffotofoltaidd, 5-7 Ebrill), gan ddwyn ynghyd wyddonwyr gorau a mwyaf disglair y maes solar ar gyfer y gynhadledd bwysicaf ar ymchwil ynni solar yn y Deyrnas Unedig.
Caiff tua 5% o'n trydan ei gynhyrchu ag ynni solar yn y Deyrnas Unedig, ac oherwydd cynnydd o 25% mewn cynhyrchu ynni solar yn y blynyddoedd diwethaf a chostau cynhyrchu sy'n gostwng yn gynyddol, solar yw un o'r dulliau rhataf o gynhyrchu ynni ac mae'r dyfodol yn edrych yn llewyrchus i ynni solar. Mae'n parhau'n faes ymchwil poblogaidd yn sectorau gwyddoniaeth a pheirianneg prifysgolion y Deyrnas Unedig.
Mae i gynhadledd PVSAT ffocws cryf ar gelloedd solar perovskit, sydd yn un o bynciau llosg ymchwil wyddonol a dim ond graffen sy'n cymharu o ran nifer y papurau gwyddonol a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion peirianneg y llynedd. Mae celloedd solar perovskit yn seiliedig ar blwm croesryw organig-anorganig neu ddeunydd sy'n seiliedig ar dun halid ac mae profion wedi dangos bod gan y rhain effeithlonrwydd o 22%. Drwy ddefnyddio celloedd solar perovskit ar y cyd 芒 thechnolegau traddodiadol sy'n seiliedig ar silicon, rhagwelir y gallai dyfais solar perovskit a silicon groesryw gyrraedd effeithlonrwydd o 44%. Byddai hynny鈥檔 gyflawniad pwysig ac yn lleihau costau'n sylweddol.
Bydd gwyddonwyr ymchwil amlwg megis yr Athro Christophe Ballif yn cyflwyno yn y gynhadledd yr wythnos nesaf. Yr Athro Ballif yw Cyfarwyddwr y labordy ffotofoltaidd yn yr 脡cole Polytechnique F茅d茅rale de Lausanne (EPFL) a Chyfarwyddwr Datblygiadau Ffotofoltaidd yn y Centre Suisse d'Electronique et de Microtechnique (CSEM) yn Neuch芒tel; enillodd y Wobr Becquerel yn 2016 - gwobr a sefydlwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd i gydnabod cyfraniadau nodedig gan unigolyn i ddatblygiad ynni solar. Bydd chwaraewyr diwydiannol megis Heliatek GmbH hefyd yn cyflwyno. Mae'r cwmni hwn yn datblygu mathau newydd o ddeunyddiau adeiladu sy'n ymgorffori celloedd solar a fydd yn galluogi adeiladau i gynhyrchu eu p诺er eu hunain.
Bydd y gynhadledd yn cael ei llywyddu gan Dr Jeff Kettle o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, a ddywedodd:
鈥淢ae'r gynhadledd yn dwyn ynghyd academyddion mwyaf blaenllaw'r maes. Mae'r Deyrnas Unedig yn parhau ar flaen y gad yn y maes ymchwil hwn ac mae nifer o academyddion mwyaf blaenllaw'r byd yn gweithio yma. Mae'r digwyddiad wedi denu nawdd gan nifer o sefydliadau mawr megis y Sefydliad Ffiseg, y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, y Gymdeithas Frenhinol Cemeg a Rhwydwaith Ymchwil Peirianneg Cymru."
Dywedodd yr Athro Michael G Hutchins, Ysgrifennydd y Gymdeithas Ynni Solar (UK-ISES): "Roedd y Gymdeithas Ynni Solar ar ben ein digon yn cael cynnal y gynhadledd ym Mangor eleni, ac mae arbenigedd academyddion 香港六合彩挂牌资料 yn y maes hwn a'r lleoliad prydferth yn golygu bod 香港六合彩挂牌资料 yn lleoliad delfrydol ar gyfer y gynhadledd hon, sydd bellach yn cael ei chynnal ers 13 mlynedd."
Un o noddwyr cysylltiol y digwyddiad yw M-Sparc, project parc Gwyddoniaeth newydd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料. Dywedodd Pryderi Ap Rhisiart, Rheolwr y Project, "Rydym yn ymwybodol iawn bod angen i'n hadeilad nid yn unig edrych yn dda a bod yn addas i'r diben ond mae angen iddo hefyd fod yn esiampl o bwysigrwydd allyriadau carbon isel. Mae gennym rai atebion arloesol ar gyfer cyflawni hynny鈥檔 rhan o gynllun yr adeilad, ac rydym yn defnyddio paneli ffotofoltaidd ar y safle, a dyna pam ein bod ni'n teimlo'n gyffrous iawn o gael y cyfle i noddi'r digwyddiad hwn ym Mangor. Ein gobaith yw y gellir cynnal nifer fawr o ddigwyddiadau tebyg unwaith y bydd M-SParc yn weithredol, er mwyn rhoi gogledd Cymru ar y map cynaliadwyedd."
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2017