Newyddlenni
Dulliau Dylunio Deunyddiau i hwyluso gwneud graffen
Labordy Dynameg Mater dan arweiniad E.M. Mae Campo wedi datblygu dull addawol ar gyfer hwyluso gwneud graffen. Gydag ariannu gan HPC Cymru-Fujitsu a Swyddfa Ymchwil a Datblygu Awyrofod UDA ac Ewrop, mae gr诺p Campo yn cyfuno sbectrosgopiau synchroton arbrofol a damcaniaethol i greu'r dyfeisiadau electronig graffen gorau. Bydd y genhedlaeth newydd o ddyfeisiadau yn galluogi cael dyfeisiadau electronig cyflymach, llai a mwy hyblyg y bydd y defnydd arnynt yn amrywio o decstiliau clyfar at ddyfeisiadau llaw.
Mae鈥檙 project yn gydweithredu gyda gweithgynhyrchwyr synwyryddion ardaloedd mawr Synchrotron Research, y Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg, Labordy Cenedlaethol Brookhaven, y Ffowndri Folecwlaidd yn Labordy Cenedlaethol Lawrence Berkeley, a gyda Labordy Wright Patterson i'r Llu Awyr.
Mae'r dull wedi ei ledaenu drwy sgwrs dan wahoddiad yn y Gymdeithas Ymchwil Deunyddiau yn ystod y cyfarfod a fu yn Hydref 2015 yn Boston (MA), yn Symposium CCC (), a anelai at gael arbrofion integredig, efelychiadau a dysgu peirianyddol i gyflymu creu deunyddiau newydd, sy'n diffinio credoau Deunyddiau drwy Ddylunio. Yn wir o dan y Fenter Genom Deunyddiau (MGI) a lansiwyd gan y yn 2011 (www.mgi.gov >, ), mae'r grym gyriannol at ddarganfod deunyddiau wedi'u cyflymu ac effeithlon yn gorwedd yn y cyd-ddefnydd ar offer damcaniaethol ac arbrofol. Mae Campo yn arbenigwraig fyd-enwog ar MGI, ac wedi rhoi at ei gilydd rai o'r cynadleddau cynharaf yn y byd hwnnw. Yn nodedig iawn, cydnabuwyd ei chyfraniad i'r papur gwyn, a oedd wedi ei gomisiynu gan Swyddfa Ymchwil y T欧 Gwyn yn galw am argymhellion, yn benodol gan yn agos i 100 o arbenigwyr gwyddonol ().
Mae'r dull a gynigiwyd gan gr诺p Campo eisoes yn dwyn sylw yr holl Labordai a'r Diwydiannau Cenedlaethol fel ei gilydd. Mae鈥檙 gr诺p wrthi'n trefnu gweithdai ac ymweliadau safle yn Nyffryn Silicon yn ystod Gwanwyn 2016.
Cysylltwch 芒:
Yr Athro E.M. Campo
Labordy Dynameg Mater
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2016