Newyddlenni
Grantiau 么l-radd i fyfyrwyr Prifysgol 香港六合彩挂牌资料
Mae grantiau ar gael i fyfyrwyr o Gymru astudio graddau ôl-radd ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Mae'r arian, sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, yn cyfrannu at gynnydd digynsail yn nifer y myfyrwyr sy'n cofrestru ar amrywiaeth o raddau Meistr yng Ngholeg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg.
MSc Cyfrifiadura yw un o gyrsiau ôl-radd mwyaf poblogaidd y coleg, ac mae'n rhoi llwybr i raddedigion o unrhyw ddisgyblaeth i faes gwyddoniaeth gyfrifiadurol a'r holl yrfaoedd cysylltiedig sydd ar gael.
Meddai Dr Dave Perkins, y cyfarwyddwr addysgu: “Rydym wedi gweld mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn dangos diddordeb yn y cwrs, yn enwedig pobl o Gymru - diolch i’r cyllid sydd ar gael iddynt.
“Mae ein MSc Cyfrifiadura yn arbennig iawn gan ei fod yn rhoi cyfle i unrhyw un - waeth beth eu gradd gyntaf - ddysgu'r hyn sydd ei angen arnynt ar gyfer gyrfa ym maes cyfrifiaduron neu TG, yn ogystal â set o sgiliau hollol newydd i'w helpu mewn unrhyw broffesiwn.”
“Mae'n anodd i bobl sy'n chwilio am waith ar hyn o bryd, felly gall dysgu sgiliau newydd a defnyddiol eu gosod ar wahân i bobl eraill sy'n cystadlu am swyddi,” ychwanegodd Dave.Gradd ôl-radd arall, sydd â ffigurau cyflogaeth rhagorol i'w graddedigion, yw'r MSc Ynni Adnewyddadwy'r Môr.
“Mae'r radd hon yn paratoi myfyrwyr ôl-raddedig at yrfa yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU,” meddai’r Athro Tom Rippeth, Athro Eigioneg Ffisegol a dirprwy gyfarwyddwr y cwrs.
“Mae angen datblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy ar frys, ac mae ein môr yn adnodd ynni enfawr sydd heb ei gyffwrdd eto.“Bydd graddedigion y cwrs hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn trwy helpu i greu dyfodol cynaliadwy i’n planed,” ychwanegodd Tom.
Mae cyllid Meistr ôl-radd ar gael i bob myfyriwr o Gymru i astudio am radd ôl-radd hyfforddedig neu radd ôl-radd ymchwil ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料.Mae tua £17,000 ar gael i fyfyrwyr, sy'n cynnwys cyfuniad o fenthyciadau a grantiau i helpu gyda chostau'r cwrs a chostau byw.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2020