Newyddlenni
Mynd am dro'r penwythnos hwn?
Y penwythnos g诺yl y banc hwn, beth am fynd allan i gerdded yn y wlad a thynnu ffotograffau o henebion hynafol? Mae llwybrau gwych ar draws Cymru, a gallwch weld ein treftadaeth hefyd. Ar draws Cymru, yn wir, ar hyd Bwa Ewrop-Iwerydd (rhanbarth sy'n dilyn yr arfordir ar hyd arfordir gorllewin Ewrop o Bortiwgal, drwy Gymru, i'r Alban) mae miloedd o safleoedd hynafol. Mae llawer o'r rhain yn hawdd i'w gweld gan eu bod yn cael eu marcio gan fonolithau. Efallai nad yw meini hirion Cymru mor gain a chyflawn 芒'r rhai yng Ngh么r y Cewri, ond maent yn dal yn bethau trawiadol iawn.
Yng Nghymru, mae Cadw yn rheoli ac yn rhestru'r safleoedd hyn fel Henebion Cofrestredig. Mae project, dan arweiniad Ysgol Cyfrifiadureg ac Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, mewn cydweithrediad 芒 Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Fetropolitan Manceinion (gyda chyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau) wedi bod yn tynnu ffotograffau o'r henebion hyn. Mae'r t卯m eisiau i chi fynd i gerdded yn y wlad a thynnu ffotograffau o'r meini hirion hyn a'u huwchlwytho i'w gwefan. Bydd y t卯m wedyn yn creu adluniadau rhithiol tri-dimensiwn o'r meini hyn. Defnyddir proses ffotogrametreg i drosi sawl cant o ffotograffau yn fodel tri-dimensiwn y gellir ei arddangos ar sgrin cyfrifiadur. Mae picselau'n cael eu cymharu rhwng pob ffotograff er mwyn creu llun tri-dimensiwn. Gellir gweld y modelau tri-dimensiwn hyn ar y wefan wedyn.
Mae'r t卯m hefyd wedi creu amgueddfa rithiol o 20 o feini hirion y gellir eu harchwilio drwy borwr gwe. Un o'r meini hirion talaf yn yr amgueddfa rithiol yw'r maen 3-metr o'r Oes Efydd yn Llandwrog, Gwynedd, ac un arall yw maen hir Llanfaethlu ym M么n, sy'n garreg fain 3.1m o uchder, 1.7m o led a 0.4m o drwch. Credir bod y maen hir hwn yn heneb a ddefnyddid ar gyfer seremon茂au.
Meddai'r Athro Jonathan Roberts o'r Ysgol Cyfrifiadureg, prif ymchwilydd y project Heritage Together: "Mae tynnu ffotograffau a chreu modelau tri-dimensiwn yn galluogi llawer mwy o bobl i weld y safleoedd ac archwilio'r gwahanol safleoedd hynafol hyn mewn ffordd rithiol. Drwy fynd am dro'r penwythnos hwn rydych yn gallu nid yn unig mwynhau cefn gwlad Cymru, ond hefyd ein helpu ni i gofnodi鈥檙 trysorau cenedlaethol hyn."
Nod y t卯m yw creu fersiwn ffotograffig o bob safle hynafol yng Nghymru. Ydych chi'n gwybod ymhle mae eich safleoedd lleol chi? Mae cynifer o feini hirion a charneddi yng Nghymru, mae'n debygol fod llawer ohonynt heb fod ymhell. Edrychwch ar y map i'ch helpu i ddod o hyd i rai safleoedd, a gofalwch eu bod yn agored i'r cyhoedd neu bod gennych ganiat芒d gan berchennog y tir. Archwiliwch y safleoedd a thynnwch lawer o luniau. Gofalwch bod pob ffotograff yn cael ei dynnu o safle gwahanol a bod pob ffotograff yn gorgyffwrdd 芒'r un blaenorol.
Gallwch ddysgu mwy am sut i gymryd ffotograffau addas ar . Cadwch yn ddiogel a chofiwch y Cod Cefn Gwlad: Parchwch, Diogelwch, Mwynhewch! Os cofrestrwch ar y wefan, gallwch uwchlwytho eich ffotograffau fel y gellir eu defnyddio i greu modelau. Gallwch hefyd weld ffotograffau pobl eraill ac ymuno yn y trafodaethau ar ein fforwm. Rhannwch eich profiadau gyda'r t卯m. Unwaith y mae ganddynt ddigon o luniau o safle, gellir eu troi'n fodel 3D. Gallwch weld yr holl fodelau sydd wedi eu cwblhau hyd yn hyn yn yr oriel - helpwch y t卯m i greu rhagor ohonynt!
Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2016