Newyddlenni
Offer gwerth 拢1M ar gael i fusnesau yng Nghymru am y tro cyntaf
Yn ddiweddar mae project CLARET Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi derbyn system Time of Flight Secondary Ion Mass Spectrometer neu ToF-SIMS. Y system ddatblygedig hon yw'r gyntaf o'i bath yng Nghymru a dim ond dyrnaid sydd ar gael at ddefnydd masnachol yng ngwledydd Prydain. Mae'r offer hynod dechnegol, a'r arbenigwyr sy'n ei weithredu, wedi'u lleoli yn Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol.
Mae'r system ToF-SIMS yn ddelfrydol i gwmn茂au dylunio a chynhyrchu sydd 芒 diddordeb gweld a deall sut mae cynhyrchion yn perfformio ar lefel foleciwlaidd. Gyda'r offer gellir dadansoddi arwyneb deunyddiau'n gywrain iawn a phroffilio dyfnder - neu gloddio i'r deunydd - er mwyn dadansoddi o beth mae deunydd wedi'i wneud neu i ganfod llygredd posibl ynddo. Gall adnabod llygreddau, ac yn arbennig eu crynodiad ar wahanol ddyfnderau, fod yn dra gwerthfawr wrth ganfod ffynonellau llygredd mewn gwahanol gynhyrchion a'r rhesymau pam fod eu hoes weithredu'n llai.
Un o'r rhai cyntaf i ddefnyddio'r system newydd oedd TRB Ltd. o Lanelwy, sy'n cynhyrchu switsys i'r diwydiant ceir. Meddai Steve Whittaker, Rheolwr Cyffredinol Cynhyrchu: Mae TRB Ltd wedi ymrwymo i wella a datblygu ei gynnyrch yn barhaus, ac felly pan wnaethom glywed am y system ToF-SIMS a'i galluoedd dadansoddi fe wnaethom anfon gwahanol samplau i'w gwerthuso. Yn benodol roeddem eisiau gweld a oedd yna unrhyw amrywiannau rhwng sypiau o ddeunyddiau a chyflenwyr a allai effeithio ar ddibynadwyedd a pharhad hir-dymor y cynnyrch. Fe wnaeth CLARET weithio gyda ni yn ystod pob cam i ddeall ein gofynion ac rwy'n falch o ddweud bod y canlyniadau wedi dangos nad oedd unrhyw wahaniaethau o bwys yng nghyfansoddiad gwahanol samplau. Fe roddodd hynny hyder gwirioneddol i ni bod ein rhaglen ansawdd bresennol yn gweithio'n dda."
Cwmni arall sy'n defnyddio'r system yw IQE Plc o Dde Cymru, sy'n cynhyrchu wafferi lled-ddargludo. Roedd Dr Ewan Davis, Cyfarwyddwr Technoleg IQE Plc, hefyd eisiau gwerthuso cyfansoddiad is-arwyneb wafferi er mwyn gweld a oedd unrhyw amhureddau ynddynt. Fel gyda TRB, gweithiodd CLARET gydag IQE Plc i ddeall ystod yr amhureddau tebygol a allai fod yn y cynnyrch a dylanwadodd hyn ar fath y dadansoddiad a wnaed. Meddai Dr Davis: "Roeddem yn hynod fodlon gyda'r canlyniadau a ddangosodd nad oedd unrhyw amhureddau yn y wafferi a samplwyd a oedd yn debygol o gael effaith ar eu dibynadwyedd neu berfformiad hir-dymor."
Mae Claret yn cael ei ariannu drwy'r rhaglen Arbenigedd Academaidd i Fusnes (A4B), rhaglen chwe blynedd sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru driwyr Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Os hoffech chi wybod am ToF-SIMS a sut y gall y system honno neu CLARET gynorthwyo eich busnes i berfformio'n unol 芒 disgwyliadau'r farchnad, cysylltwch 芒 Rheolwr Datblygu Technegol CLARET, Glyn Fargher, ar g.fargher@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2014