Newyddlenni
Rhaglen iPad rhith-ddysgu yn helpu i hyfforddi niwrolawfeddygon y dyfodol
Bydd rhaglen symudol newydd, y gellir ei lawr lwytho yn rhad ac am ddim, yn helpu i hyfforddi niwrolawfeddygon y dyfodol. Mae鈥檔 un o nifer o raglenni sy鈥檔 cael eu datblygu, yn addasu cyfrifiadura gweledol a gwirionedd tri dimensiwn i ddarparu rhith-ddysgu cost effeithiol ar gyfer nifer o wahanol driniaethau meddygol.
Un o'r sgiliau sylfaenol y mae鈥檔 rhaid i nirwolawfeddygon dan hyfforddiant eu dysgu yn gynnar yn eu hyfforddiant yw deall y system fentriglaidd yn yr ymennydd, a sut i鈥檞 bibellu mewn argyfwng. Gall llif yr hylif yn yr ymennydd gael ei rwystro gan nifer o brosesau patholegol sy鈥檔 arwain at gyflwr peryglus o鈥檙 enw hydroseffalws. Gall y pwysau yn y fentriglau godi, gan arwain at y claf yn mynd yn anymwybodol. Gellir pibellu鈥檙 system fentriglaidd yn yr ystafell law-drin, draenio鈥檙 hylif a lleihau鈥檙 cynnydd yn y pwysau a all arwain at farwolaeth. Gwneir y driniaeth hon yn aml mewn adrannau niwrolawfeddygol.
Mae Ll欧r ap Cenydd, o鈥檙 Uned Uwch Ddelweddu Meddygol a ariannir gan NISCHR ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, newydd ddatblygu offer hyfforddi llawfeddygol ar gyfer y llechen iPad o鈥檙 enw 鈥榁Cath鈥. Mae wedi ei gynllunio fel y gall hyfforddai niwrolawfeddygol fynd drwy鈥檙 camau o roi鈥檙 catheter yn ei le a鈥檌 fewnosod i ymennydd claf tri dimensiwn rhithwir. Mae鈥檙 camau hyn yn rhan o drefn a elwir yn 鈥榬hoi cathetr mewn fentrigl鈥, ac a ddefnyddir i ddraenio hylif sydd wedi ei ddal yn fentriglau鈥檙 ymennydd. Mae mewnosod y cathetr ar yr ongl a鈥檙 dyfnder cywir fel ei fod yn torri twll yn y fentrigl yn hollbwysig er mwyn sicrhau canlyniad llwyddiannus i鈥檙 claf. Mae鈥檔 rhaid bod gan y niwrolawfeddyg ymwybyddiaeth tri dimensiwn ragorol gan nad yw'r rhannau o'r corff sydd dan sylw yn weladwy yn ystod y driniaeth.
Mae 鈥榁Cath鈥 yn galluogi hyfforddeion i wella eu dealltwriaeth a鈥檙 sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y driniaeth cyn iddynt orfod ei wneud yn yr ystafell law-drin. Bydd hyfforddi trwy ddefnyddio鈥檙 efelychydd cost effeithiol hwn yn helpu i roi'r sgiliau angenrheidiol i hyfforddeion niwrolawfeddygol fel y gallant gyflawni'r driniaeth yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae鈥檔 rhoi鈥檙 cyfle iddynt ymarfer dro ar 么l tro, unrhyw le, unrhyw bryd, a gall wella鈥檙 canlyniad a鈥檙 profiad i gleifion a鈥檌 wneud yn ddiogelach.
Datblygwyd 鈥榁Cath鈥 gan yr Uned yn yr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, mewn cydweithrediad 芒 Mr Nick Phillips, Niwrolawfeddyg Ymgynghorol yn ysbyty Leeds General Infirmary, a鈥檙 Athro William Gray, Athro Niwrolawfeddygaeth Weithredol, Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol, Prifysgol Caerdydd. Mae gwelliannau pellach yn cael eu gwneud i鈥檙 offer ar hyn o bryd.
Meddai Nick Phillips, Niwrolawfeddyg Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol yr Adran Niwrolawfeddygaeth yn Leeds General Infirmary:
鈥淢ae niwrolawfeddygaeth yn arbenigedd risg uchel ac mae darparu cyfleoedd hyfforddi diogel i lawfeddygon bob amser yn her. Bydd yr offer hyfforddi hwn yn galluogi鈥檙 hyfforddai i ddysgu鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 sgiliau sydd eu hangen i gyflawni鈥檙 driniaeth hon mewn amgylchedd diogel heb risg. Mae鈥檔 hybu trafodaeth gyda鈥檙 hyfforddwyr ac mae鈥檔 ffordd wych o ymwreiddio鈥檙 sgiliau angenrheidiol鈥
Dywedodd yr Athro William Gray, Athro Niwrolawfeddygaeth Swyddogaethol, yn Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd:
Mae VCath yn rhaglen iPad newydd cyffroes sy鈥檔 golygu y gall hyfforddeion ddysgu鈥檙 sgiliau damcaniaethol ac ymarferol sylfaenol o roi cathetr mewn fentrigl mewn amgylchedd a efelychir yn realistig. Mae鈥檔 offer buddiol i wella鈥檙 broses o ddysgu鈥檙 sgiliau craidd ac yn ddatblygiad pwysig o ran defnyddio efelychu ar gyfer hyfforddiant niwrolawfeddygol鈥
Meddai鈥檙 Athro Nigel John, Cyfarwyddwr yr Uned
鈥淩oeddem wedi datblygu offer hyfforddi tebyg yn flaenorol a oedd yn gweithio yn y porwr gwe. Mae VCath yn welliant technegol sylweddol ar y gwreiddiol, yn arbennig o ran defnyddio rhyngwyneb bysedd yr iPad鈥.
Mae'r offer hyfforddi 鈥榁Cath鈥 ar gael i鈥檞 lawrlwytho o .
Mae ffilm fer ar gael .
Gwyliwch glip o raglen Wales Today y .
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2013