Newyddlenni
鈥楻oboteg y Dyfodol鈥, Her Robot Lego Ysgolion
Mae ysgolion ar draws Cymru wedi cymryd rhan yn yr her "Roboteg y dyfodol" yn gydamserol yn ddiweddar. T卯m Technocamps Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 oedd yn cynnal y rownd gogledd Cymru o'r gystadleuaeth newydd gyffrous hon.
Cafodd deg pecyn cystadleuaeth gwerth 拢500 yr un eu rhoi i 10 o ysgolion lleol trwy鈥檙 prosiect Technocamps ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Cafodd y rhain eu defnyddio mewn clybiau technoleg yr ysgolion ac yn y gystadleuaeth.
Mynychodd timau o chwech o ddisgyblion rhwng 11 a 19 oed o鈥檙 10 ysgol y gystadleuaeth yn Venue Cymru, Llandudno ar y 3ydd o Orffennaf.
Cafodd y digwyddiad ei hagor gan y cyflwynydd teledu, Gareth Jones. Fe fuodd Gareth hefyd yn arwain y digwyddiad drwy gydol y diwrnod.
Roedd rhaid i'r disgyblion adeiladu robot y dyfodol cyn y digwyddiad, ac roedd gofyn i鈥檙 robot helpu鈥檙 amgylchedd mewn unrhyw ffordd bosibl. Derbyniodd y disgyblion her gudd ar y diwrnod hefyd.
Roedd hon yn gystadleuaeth genedlaethol gydamserol ar draws y pedair hwb Technocamps. Roedd canolfannau Technocamps ym Mhrifysgolion Abertawe Aberystwyth a Morgannwg hefyd yn cynnal eu cystadlaethau gyda chysylltiadau fideo byw, gyda nifer o 'hangouts' we yn parhau drwy gydol y dydd.
Ar y diwrnod, cafodd yr ysgolion eu barnu ar eu dyluniadau a datblygiadau, yn ogystal 芒 her lle鈥檙 oedd rhaid iddynt addasu eu robot i ddawnsio i guriad cerddorol. Cafodd enillwyr rhanbarthol y gystadleuaeth eu cyhoeddi yn fyw, gydag Ysgol Friars o Fangor yn dod i鈥檙 brig. Cafodd enillwyr drwy Gymru gyfan eu cyhoeddi dydd Llun, ac Ysgol Gyfun Gwynllyw o Bontypwl oedd yn fuddugol.
Dywedodd Kim Jones, trefnydd y digwyddiad 香港六合彩挂牌资料: "Roedd hwn yn ddigwyddiad mor gyffrous i鈥檞 drefnu, roedd hi鈥檔 wych gweld cymaint o ysgolion yn cymryd rhan ac roedd hi鈥檔 fraint cael bod yn rhan o ddigwyddiad ledled Cymru. Fe wnaeth yr ysgolion yn gampus yn y sialensiau ac roedd y dyluniadau yn ffantastig gyda llawer o syniadau diddorol a newydd.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2013