Newyddlenni
Ysgol Cerddoriaeth yn ail-agor ar 么l gwerth 拢2M o waith ail-ddatblygu
Bu Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn dathlu ei hagoriad ar 么l gwaith ail-ddatblygu gyda seremoni ar gyfer staff a myfyrwyr.
Roedd y seremoni yn dathlu cwblhau gwaith adnewyddu gwerth 拢2filiwn ar yr adeilad, gan greu cyfleusterau haeddiannol i un o'r pum adran cerddoriaeth gorau yn y DU fel y pleidleisiwyd gan fyfyrwyr yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2016.
Agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Canghellor y Brifysgol. Mwynhaodd staff, myfyrwyr a chyfeillion yr Ysgol berfformiad gan Fand Pres y Brifysgol yn ogystal 芒 chael cyfle i wrando ar ymarferion cerddorol amrywiol yn ystod y prynhawn.
Mae'r gwaith wedi cynnwys trin yr adeilad yn ei gyfanrwydd ac adnewyddu'r holl gyfarpar mecanyddol a thrydanol
Mae鈥檙 adeilad wedi cael ei gwneud yn fwy hygyrch i bawb trwy osod lifft ac adeiladu ramp er mwyn creu mynediad hygyrch i'r adeilad trwy'r estyniad newydd, yn ogystal ag ail-drefnu rhan ganolog y llawr gwaelod. Mae'r adeilad hefyd yn cynnwys ystafelloedd ymarfer acwstig newydd a thu allan mae teras a seddi newydd.
Dywedodd yr Athro Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: "Mae鈥檙 trawsnewid i鈥檙 adeilad arbennig hwn yn anhygoel. Mae cyntedd newydd ffasiynol erbyn hyn yn arwain yn uniongyrchol i Neuadd Mathias sydd wedi'i hadfer yn hyfryd ac wedi ei thrin yn acwstig. Mae'r adeilad cyfan yn gynhesach, yn oleuach ac yn le gwych i astudio ynddo. Ynghyd ag ystafelloedd ymarfer Gartherwen, Pontio, ac ein neuaddau cyngerdd gwych ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, mae'r cyfleusterau hyn yn gwneud 香港六合彩挂牌资料 yn amgylchedd delfrydol i astudio cerddoriaeth. Bydd y myfyrwyr wrth eu bodd, ac edrychaf ymlaen yn arw i'w gweld yn gwneud y defnydd gorau ohono."
Dywedodd Yr Athro John G Hughes, Llywydd ac Is-ganghellor: "Gyda鈥檙 Ysgol Cerddoriaeth yn cyflawni cyfradd boddhad o 100%, ac ar frig tabl eu pwnc yn y DU yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2016, bydd y datblygiad newydd hwn yn caniat谩u i ni ddarparu cyfleusterau addysgu, dysgu ac ymchwil rhagorol am flynyddoedd lawer i ddod."
Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2016