Cyfarch yn ddwyieithog
Er mwyn ei gwneud yn glir bod modd defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, dylech ddefnyddio cyfarchion dwyieithog os ydych yn gweithio mewn derbynfa neu ar switsfwrdd. Mae aelodau eraill o staff hefyd yn cael eu hannog i ddefnyddio cyfarchion dwyieithog er mwyn rhoi gwybod i bobl y gallant ddelio â’r Brifysgol yn Gymraeg a Saesneg.
Cliciwch ar y botwm i glywed enghraifft o sut i gyfarch yn ddwyieithog yn y bore | |
Cliciwch ar y botwm i glywed enghraifft o sut i gyfarch yn ddwyieithog yn y prynhawn |
Sut i ddelio â rhywun sydd eisiau gwasanaeth Cymraeg os nad yw’r aelod staff yn siarad Cymraeg.
Os oes rhywun yn dechrau siarad yn y Gymraeg gydag aelod di-Gymraeg o staff, dylai'r aelod staff esbonio nad ydynt yn siarad Cymraeg a throsglwyddo'r alwad i gydweithiwr yn yr adran sydd yn medru’r Gymraeg neu mynd i nôl cydweithiwr sydd yn siarad Cymraeg. Os ydy’r galwr / y person wrth y dderbynfa wedi dechrau’r sgwrs yn Gymraeg, dylid cymryd yn ganiataol eu bod dymuno parhau yn Gymraeg, heblaw eu bod yn dweud yn wahanol.
Cliciwch ar y botwm i glywed ffeil sain o'r sgript isod |
A. Bore da, good morning. Llyfrgell, Library. Elen Jones.
B. Bore da. John Williams sy’n galw. Dw i’n ffonio o Gyngor Gwynedd yng Nghaernarfon. Dw i eisiau trefnu cyfarfod gyda Phennaeth Llyfrgell y Brifysgol os gwelwch yn dda.
A. I’m afraid I don’t speak Welsh. I’ll just transfer you to my colleague who can speak Welsh. Hold on please.
B. Diolch yn fawr.