Modiwl DXC-3701:
Traethawd Hir
Project Anrhydedd 2024-25
DXC-3701
2024-25
School of Environmental & Natural Sciences
Module - Semester 1 & 2
30 credits
Module Organiser:
Katherine Steele
Overview
Mae'r modiwl hwn yn caniat谩u i fyfyrwyr gynnal ymchwiliad annibynnol eang a gwreiddiol o bwnc sy'n berthnasol i'w rhaglen gradd. Mae'n bosib y bydd yn cynnwys arbrofi ymarferol mewn labordy a / neu drwy waith maes, neu astudiaeth nad yw'n ymwneud ag arbrofi. Fe'i cynhelir o dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd. Mae'r modiwl hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu syniadau eu hunain, dangos eu gallu i fentro, gweithio'n annibynnol ac i ddilyn cynllun y cytunwyd arno, ac i'r priodoleddau hyn gael eu hasesu. Mae'n rhaid i waith ysgrifenedig y project fod ar ffurf adroddiad ymchwil, mewn fformat penodol. Bydd hefyd yn cael ei asesu ar sail cyflwyniad llafar mewn seminar.
Assessment Strategy
-threshold - D - Mae'r traethawd hir wedi ei strwythuro驴n rhesymegol ac mae'n cynnwys adolygiad llenyddol, disgrifiad a dadansoddiad o'r project, trafodaeth a rhestr gyfeiriadau. Nodir y rhesymau dros gynnal y project ond nid yw'r rhagdybiaethau arbrofol yn cael eu nodi'n glir. Mae'r adolygiad llenyddol yn ymdrin 芒'r pynciau mwyaf perthnasol, ond mae'n ddisgrifiadol yn bennaf ac angen canolbwynt. Disgrifir y manylion gweithredu ond mae rhai o'r elfennau llai pwysig wedi eu hepgor neu'n aneglur. Mae'r dull o ymdrin 芒'r dadansoddi data ar y cyfan yn gywir ond mae'r amrywiaeth yn gyfyngedig. Cyflwynir y darganfyddiadau'n gyffredinol ac maent wedi eu dehongli'n gywir. Mae'r drafodaeth yn ddigonol ond yn gyfyngedig o ran cwmpas a dyfnder. Tynnir rhai casgliadau cywir o'r astudiaeth. Mae safon y cyflwyniad yn dderbyniol.
-good -B Mae'r traethawd hir wedi ei strwythuro'n rhesymegol ac mae'n cynnwys adolygiad llenyddol, disgrifiad a dadansoddiad o'r project, trafodaeth a rhestr gyfeiriadau. Nodir yn glir y rhesymau dros gynnal y project a nodir hefyd y rhagdybiaethau arbrofol. Mae'r adolygiad llenyddol yn dangos peth tystiolaeth o ddadansoddi beirniadol ac mae'n ymdrin 芒 phynciau perthnasol mewn trefn resymegol. Mae'r dulliau a'r trefnau a ddefnyddir yn rhai priodol, wedi eu cyfiawnhau a'u disgrifio. Mae'r dull o ddadansoddi data yn gywir. Cyflwynir y darganfyddiadau'n glir ac maent wedi eu dehongli'n gywir. Mae'r drafodaeth yn cysylltu'r darganfyddiadau 芒 gwybodaeth gyfredol. Dengys dystiolaeth o'r gallu i gasglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynnonellau i helpu'r dehongli. Tynnir casgliadau perthnasol ac mae'r rhain yn gysylltiedig ag ymarfer cyfredol ac arbrofi pellach fel bon briodol. Mae safon y cyflwyniad yn uchel.
-excellent -A Nodir yn glir y rhesymau cefndirol dros gynnal y project a nodir hefyd y rhagdybiaethau arbrofol. Mae'r adolygiad llenyddol yn gynhwysfawr, yn dangos tystiolaeth o ddadansoddi beirniadol ac mae'n ymdrin 芒 phob pwnc perthnasol mewn trefn resymegol. Mae'r dulliau a'r trefnau a ddefnyddir yn rhai priodol, wedi eu cyfiawnhau a'u disgrifio'n eglur. Mae'r dull o ddadansoddi data yn gywir. Nodir tueddiadau neu effeithiau pwysig a brofwyd. Cyflwynir y darganfyddiadau'n glir ac maent wedi eu dehongli'n gywir. Mae驴r drafodaeth yn cysylltu'r darganfyddiadau 芒 gwybodaeth gyfredol yn glir. Dengys dystiolaeth o'r gallu i gasglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynnonellau i helpu'r dehongli. Tynnir casgliadau perthnasol ac mae'r rhain yn gysylltiedig ag ymarfer cyfredol ac arbrofi pellach fel bo'n briodol. Mae safon y cyflwyniad yn uchel iawn.
Learning Outcomes
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o faes eu hymchwil, gan gynnwys dealltwriaeth ymarferol o dechnegau ymchwil perthnasol.
- Gallu cyfleu darganfyddiadau ymchwil yn glir ac yn gynhwysfawr, ar lafar ac yn ysgrifenedig, i gynulleidfa arbenigol.
- Gallu i werthuso ymchwil gyfredol yn yr un maes yn feirniadol.
- Gallu tynnu casgliadau dilys o wybodaeth a data a gasglwyd yn systematig, hyd yn oed os nad ydynt yn gyflawn.
- Hunangyfeiriad, cymhelliant a gwreiddioldeb wrth ddilyn llwybr ymchwil.
Assessment method
Dissertation
Assessment type
Summative
Description
Dissertation (Research Project)
Weighting
90%
Due date
28/04/2023
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Project Presentation
Weighting
10%
Due date
07/05/2025