Modiwl ENC-1000:
Tiwtorial Blwyddyn 1
Tiwtorial Blwyddyn 1 2024-25
ENC-1000
2024-25
School of Environmental & Natural Sciences
Module - Semester 1 & 2
10 credits
Module Organiser:
Stella Farrar
Overview
Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i ddatblygu'r ystod o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer yr holl raddau israddedig a gynigir yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol. Gweithgareddau craidd y modiwl yw darllen dan gyfarwyddyd ac ymarfer mewn cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig ar bynciau cyfoes o fewn eich maes pwnc. Cynhelir sesiynau tiwtorial rheolaidd gyda'ch tiwtor personol. Yn ystod y tiwtorialau hyn, bydd eich sgiliau ysgrifennu traethodau, eich sgiliau cyflwyno llafar a鈥檆h sgiliau tynnu gwybodaeth yn cael eu hymarfer wrth i chi ystyried syniadau a datblygiadau yn eich maes pwnc dewisol. Yn ogystal 芒 chyfarfodydd y grwpiau tiwtorial ceir hefyd gyfres o sgyrsiau ymchwil academaidd gorfodol. Bydd y sgyrsiau hyn yn eich helpu i ddod i adnabod aelodau o staff academaidd yr Ysgol ac yn rhoi cipolwg i chi ar ymchwil a wnaed yma.
Cynnwys dangosol y cwrs: ysgrifennu traethodau gwyddonol; dod o hyd i ffynonellau a'u gwerthuso; cyfeirio at lenyddiaeth wyddonol; sgiliau adalw gwybodaeth; deall gonestrwydd academaidd; sgiliau cyflwyno; them芒u cyfredol pwnc-benodol mewn ymchwil.
Assessment Strategy
Rhagorol: Bydd myfyriwr rhagorol yn dangos dealltwriaeth ehangach o oblygiadau'r cwestiwn y tu hwnt i'r amlwg, dealltwriaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf yn y maes pwnc (gan gynnwys ei gyfyngiadau) a gallu beirniadol datblygedig. Bydd y cyfathrebu'n rhugl ac yn groyw, gyda'r gallu i ennyn diddordeb y gynulleidfa. Bydd cyfeiriadau/ffynonellau yn hynod briodol, yn wyddonol, wedi'u gwerthuso'n dda ac yn cael eu hymchwilio'n helaeth. Gallu haniaethu papur gwyddonol gan ddangos dealltwriaeth ddofn o ddeunydd ffynhonnell. Amrediad marciau: 70-100%
Da iawn: Bydd myfyriwr da yn cynhyrchu dadl rymus wedi'i strwythuro'n dda gan ddangos dealltwriaeth dda o'r wybodaeth y gofynnir amdani a gwybodaeth am y pwnc dan sylw. Bydd y cyfathrebu'n gydlynol ac yn cyfateb i'r gynulleidfa arfaethedig. Bydd cyfeiriadau/ffynonellau yn briodol, yn wyddonol ac yn cael eu gwerthuso'n dda. Gallu haniaethu papur gwyddonol gan ddangos dealltwriaeth dda o ddeunydd ffynhonnell. Amrediad marciau: 60-69%
Da: Bydd myfyriwr sy'n cyflawni graddau lefel C yn dangos dealltwriaeth resymol o'r wybodaeth y gofynnir amdani a pheth gwybodaeth o'r pwnc er gyda rhai diffygion o ran manylder a chywirdeb syniadau. Gwneir ymdrech resymol i gyfleu syniadau, gyda pheth tystiolaeth o ystyriaeth o'r gynulleidfa arfaethedig. Bydd cyfeiriadau/ffynonellau yn briodol er y gallant fod yn gyfyngedig. Gallu haniaethu papur gwyddonol gan ddangos dealltwriaeth resymol o ddeunydd ffynhonnell. Amrediad marciau: 50-59%
Trothwy: Bydd myfyriwr trothwy yn dangos gallu sylfaenol i ateb cwestiynau gyda gwybodaeth berthnasol, gyda rhywfaint o drefnu syniadau a dealltwriaeth o'r pwnc dan sylw. Mae'n bosibl y bydd rhai camddealltwriaeth yn amlwg mewn cyfathrebu ond bydd yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o'r egwyddorion. Defnyddir cyfeiriadau ond gallant fod yn gyfyngedig neu gallant ddibynnu ar ffynonellau llai priodol. Gallu haniaethu papur gwyddonol gan ddangos dealltwriaeth sylfaenol o ddeunydd ffynhonnell. Amrediad marciau: 40-49%
Learning Outcomes
- Crynhoi cyhoeddiadau o'r llenyddiaeth gynradd, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Cyfathrebu gwybodaeth a syniadau gwyddonol mewn modd effeithiol a chryno (ar lafar ac yn ysgrifenedig), gan ddefnyddio gwybodaeth gyfredol, wedi'i gwerthuso'n briodol, o'r llenyddiaeth wyddonol.
- Datblygu sgiliau datblygiad personol yn ymwneud 芒: gweithio o fewn gr诺p, cyfrannu at drafodaethau, rheoli amser, blaenoriaethu gwaith, trefnu a rheoli terfynau amser.
- Defnyddio cyfleusterau llyfrgell i wneud ymchwil llenyddiaeth a dangos gallu i greu cyfeiriadau gwyddonol wedi'u fformatio'n gywir.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Llyfryddiaeth sy'n dangos gallu i fformatio cyfeiriadau'n briodol
Weighting
20%
Due date
01/11/2024
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad llafar 5 munud ar bapur gwyddonol gan ddefnyddio cymhorthion gweledol priodol
Weighting
20%
Due date
22/11/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd gwyddonol (gyda crynodeb) ar bwnc cyfredol o fewn maes pwnc
Weighting
60%
Due date
12/03/2025
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Formative
Description
Cyflwyniad llafar 5 munud ar bapur gwyddonol gan ddefnyddio cymhorthion gweledol priodol
Weighting
0%
Due date
13/12/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Formative
Description
Traethawd gwyddonol (gyda crynodeb) ar bwnc cyfredol o fewn maes pwnc
Weighting
0%
Due date
07/05/2025