Modiwl LCF-1002:
Ffrangeg Uwch 2
Ffrangeg Uwch 2 2024-25
LCF-1002
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Armelle Blin-Rolland
Overview
Mae'r modiwl hwn yn darparu parhad o LCF-1001, a'i nod yw gwella sgiliau llafar, gwrando ac ysgrifenedig Ffrangeg myfyrwyr lefel uwch (ar 么l Lefel A). Mae'n cynnwys dosbarthiadau wedi'u seilio ar destun lle mae myfyrwyr yn cael y cyfle i wella'u sgiliau cyfieithu ac ysgrifennu, yn ogystal 芒 dosbarthiadau llafar/gwrando, lle defnyddir ystod o gymhorthion clywedol a gweledol lefel uwch i ysgogi trafodaethau gr诺p. Drwy gydol y modiwl, mae gan fyfyrwyr y cyfle hefyd i ymestyn eu gwybodaeth am feysydd gramadeg mwy cymhleth. Daw'r testunau a'r deunyddiau a ddefnyddir yn y modiwl hwn o amrywiaeth o ffynonellau yn cynnwys y cyfryngau a darnau llenyddol er mwyn i fyfyrwyr ymgyfarwyddo ag amrywiol gyweiriau, yn ogystal 芒 gwella dealltwriaeth o wahanol acenion Ffrangeg. Trwy'r deunyddiau hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn cael cipolwg ar them芒u Ffrengig penodol a materion sy'n ymwneud 芒 bywyd a chymdeithas gyfoes yn y gwledydd Ffrangeg eu hiaith. Cefnogir dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth trwy Bortffolio Hunan-astudiaeth gyd-gwricwlaidd.
Assessment Strategy
-threshold -40-49%: Dylai'r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth sylfaenol o'r ffynonellau Ffrangeg a astudir, a gallu eu mynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ffordd ddealladwy.
-good -50-69%: Bydd y myfyrwyr sy'n cael y graddau uwch ar y cwrs hwn nid yn unig wedi deall hanfodion y ffynonellau a astudir, ond byddant hefyd wedi dechrau ymglywed 芒 manylion yr iaith. Byddant yn gallu eu mynegi eu hunain yn gywir ac yn strwythuredig ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn dangos eu bod yn ymwybodol iawn o'r ffordd i ynganu Ffrangeg.
-excellent -70+%: Bydd y myfyrwyr sy'n cael y graddau uchaf yn y cwrs hwn wedi deall y ffynonellau a astudir o ran geirfa anghyffredin a chystrawennau cymhleth. Byddant yn gallu eu mynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ffordd ddychmygus, gywir, hynod drefnus a rhwydd.
Learning Outcomes
- Archwilio a gwerthuso rhai o'r them芒u a'r dadleuon allweddol sy'n cael lle blaenllaw mewn diwylliant gyfoes Ffrengig.
- Cynhyrchu Ffrangeg cywir ac sy'n gywir yn idiomatig.
- Dangos hyder wrth dynnu gwybodaeth a gyflwynir mewn ffynonellau Ffrangeg a'i defnyddio i ateb cwestiynau yn yr iaith darged.
- Deall a chyfieithu testunau ysgrifenedig mwy heriol, yn amrywio o ran arddull a chywair.
- Defnyddio meysydd geirfa newydd a mynegiant idiomatig mwy cymhleth mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
- Defnyddio strwythurau gramadegol ar lefel uwch mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
- Sgwrsio a gwrando ar Ffrangeg (yn cynnwys gwahanol acenion), ei deall, ac ymateb iddi mewn cyd-destun rhyngweithiol.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad 2 awr Wedi'u strwythuro mewn dwy ran: 1) Cyfieithiad Cymraeg/Saesneg-Ffrangeg (tua 200-250 o eiriau) 2) Cyfieithu set o 10 brawddeg Ffrangeg i'r Gymraeg/Saesneg, a luniwyd i brofi strwythurau gramadegol mwy cymhleth.
Weighting
50%
Due date
26/05/2023
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Arholiad llafar Cyflwyniad llafar yn Ffrangeg (6 munud), ac yna cwestiynau ac atebion, gan gynnwys trafod y Portffolio Hunan-Astudio.
Weighting
25%
Due date
05/05/2023
Assessment method
Aural Test
Assessment type
Summative
Description
Gwrando ar fideo a'i ddeall Prawf yn y dosbarth, sy'n cynnwys gwrando ar ffeil sain/ gwylio fideo, ac yna cwestiynau ysgrifenedig ac ymarfer crynhoi/ymateb hwy.
Weighting
25%
Due date
28/04/2023