Modiwl LCM-4024:
Creu Portffolio Cyfieithu
Creu Portffolio Cyfieithu 2024-25
LCM-4024
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Helena Miguelez-Carballeira
Overview
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys chwe gweithdy cyfieithu wedi'u cynllunio i fyfyrwyr gael persbectif mor eang 芒 phosibl ar arfer cyfieithu yn eu harbenigedd iaith. Mae鈥檙 modiwl hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod materion yn ymwneud ag ymarfer cyfieithu ac yn caniat谩u iddynt gynhyrchu cyfieithiadau mewn amodau sy鈥檔 annog ac yn hwyluso ymarfer hunanfyfyriol. Mae'r modiwl wedi'i deilwra i weddu i alluoedd iaith myfyrwyr, gan eu galluogi i ddatblygu eu sgiliau iaith ymarferol a'u harbenigedd rhyngddiwylliannol. Caiff myfyrwyr eu harwain tuag at gwblhau eu portffolio cyfieithu unigol. Mae'r ieithoedd sydd ar gael yn cynnwys Saesneg, Cymraeg, Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg, Arabeg, Mandarin, Galiseg a Sbaeneg.
Assessment Strategy
-threshold -C- - C+: Crynhoi ysgolheictod perthnasol mewn maes; gallu adnabod y gwrthddadleuon amlycaf; dogfennu'r rhan fwyaf o ffynonellau'n gywir; strwythuro esboniad a dadleuon yn glir; darparu dewisiadau cyfieithu sy'n briodol ac eto sydd wedi'u cyfiawnhau'n llac neu驴n ymddangos yn fympwyol.
-good -B- - B+: Gallu defnyddio syniadau gwreiddiol, ond ddim yn edrych ar neu'n cydnabod eu harwyddoc芒d llawn bob amser; dangos dealltwriaeth feirniadol o'r ysgolheictod perthnasol yn y maes; strwythuro esboniad a dadleuon yn glir; darparu dewisiadau cyfieithu sy'n cyfateb i faterion damcaniaethol/beirniadol perthnasol.
-excellent -A- - A*: Cyflwynir y gwaith i safon a fyddai'n dderbyniol i'w gyhoeddi mewn cyfnodolyn arbenigol priodol; mae'n dangos dealltwriaeth feirniadol o ysgolheictod perthnasol, ac yn rhoi syniadau gwreiddiol yng nghyd-destun yr ysgolheictod hwnnw. Mae'n rhoi dewisiadau cyfieithu gwreiddiol a medrus sy'n rhoi sylw i faterion damcaniaethol / beirniadol.
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn fwy ymwybodol o'r broses gwneud penderfyniadau gwybodus sy'n sail i gyfieithu ac yn gallu trafod ei benderfyniadau ei hun gyda thiwtoriaid a chyfoedion.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dadansoddi'r berthynas rhwng theor茂au unigol a'r testunau maent yn eu cyfieithu.
- Cymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol, ymarferol a diwylliannol i gynllunio a chwblhau cyfieithiadau.
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Portffolio Cyfieithu: Portffolio o dri chyfieithiad ymarferol, pob un gyda sylwebaeth feirniadol.
Weighting
100%
Due date
09/05/2025