Modiwl ONC-1001:
Dadansoddi Data Amgylcheddol
Dadansoddi Data Amgylcheddol 2024-25
ONC-1001
2024-25
School of Ocean Sciences
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Claire Carrington
Overview
Mae'r modiwl hwn yn darparu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar wyddonwyr y naturiaethau er mwyn creu ac ateb cwestiynau yngl欧n 芒'r byd o'n cwmpas, gan ddefnyddio data amgylcheddol. Fel rhan o hyn, ceir hefyd siawns i loywi eich sgiliau iaith gan ganolbwyntio ar gyfathrebu gwyddonol.
Drwyddi, mae cysyniadau damcaniaethol yn cael eu hatgyfnerthu drwy sesiynau ymarferol, cyfrifiadurol - gan ddefnyddio ystod eang o dechnegau dadansoddol. Yn y semester gyntaf, rydych yn cael eich cyflwyno i'r fethodoleg wyddonol - y "sut mae gwyddoniaeth yn gweithio?". Yn fuan wedyn, rydych yn cael siawns to ddysgu sut i chwilio am, gwerthuso, a defnyddio gwybodaeth wyddonol awdurdodol. Mae'r syniadau a'r sgiliau yma yn hanfodol i bob modiwl arall i chi.
Yna, ceir sesiynau gan Ganolfan Bedwyr, sy'n rhoi siawns i chi loywi eich iaith, ac yn benodol i ddysgu sut i drawsieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg (ia, trawsieithu, nid cyfieithu!). Eto, o ran defnyddioldeb, mae'r gallu i drin a thrafod gwybodaeth wyddonol yn y ddwy iaith yn sgil arbennig.
Dros yr ail hanner o'r semester cyntaf, canolbwyntir ar ddatblygu'r gallu i gyflwyno a dadansoddi data yn ystadegol. Yma, cewch ragymadrodd i'r meddalwedd 'R'. Eto, mi fydd bod 芒'r gallu i ddefnyddio'r pecyn yma yn dda o ran eich astudiaethau yn y dyfodol ac, yn wir, efallai o ran gwaith.
Yn yr ail semester, rydych yn ymuno 芒'r dosbarth ONS1001, i ddysgu technegau mwy estynedig, ac yn rhoi hyn i gyd ar waith mewn prosiect gwyddonol - gyda'r allbwn gorffenedig yn adroddiad swyddogol.
Assessment Strategy
Lefel Sylfaenol: D Dylai myfyriwr trothwy feddu ar wybodaeth sylfaenol ynghylch sut i chwilio am lenyddiaeth wyddonol a dyfynnu ohoni gan ddefnyddio system gyfrifiadurol PCB. Dylai feddu ar allu sylfaenol i drafod setiau data gan ddefnyddio ystod o arfau mathemategol sylfaenol, ac ar allu sylfaenol i gymhwyso a dadansoddi profion ystadegol.
Lefel Dda: B Dylai myfyriwr da feddu ar wybodaeth dda am sut i chwilio am lenyddiaeth wyddonol a dyfynnu ohoni gan ddefnyddio system gyfrifiadurol PCB. Dylai feddu ar allu da i drafod setiau data gan ddefnyddio ystod o arfau mathemategol sylfaenol, ac ar allu da i gymhwyso a dadansoddi profion ystadegol.
Lefel Rhagorol: A Dylai myfyriwr rhagorol feddu ar wybodaeth soffistigedig ynghylch sut i chwilio am lenyddiaeth wyddonol a dyfynnu ohoni gan ddefnyddio system gyfrifiadurol PCB. Dylai feddu ar allu uchel i drafod setiau data gan ddefnyddio ystod o arfau mathemategol sylfaenol, ac ar allu uchel i gymhwyso a dadansoddi profion ystadegol.
Learning Outcomes
- Bod yn ymwybodol o sut i gynllunio a chynnal arbrawf syml gan roi ystyriaeth briodol i faterion dylunio a dadansoddi
- Bod 芒 gafael cadarn ar dechnegau cyfrifo ystadegol
- Bod 芒'r gallu i adnabod agweddau o'r ddull wyddonol i ddatblygu syniadau, gwneud arsylwadau ac i ddatblygu a phrofi rhagdybiaethau
- Cymhwyso technegau dadansoddi priodol i ddata a dehongli鈥檙 allbynnau鈥檔 gywir
- Dadansoddi data a chymhwyso technegau ystadegol priodol i ddata gwyddonol gan ddefnyddio pecyn cyfrifiadurol e.e. "R" a dehongli'r canlyniadau'n gywir
- Dangos sgiliau iaith briodol i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys y gallu i drawsieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg.
- Defnyddio technegau dadansoddiadol a graffigol i ddisgrifio ffenomena gwyddonol
- Gallu cyfathrebu canlyniadau o ymchwiliadau gwyddonol amgylcheddol i gynulleidfa briodol
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Trawsieithu gwyddonol - fel arfer o'r darn sylwebaeth wythnosol o 'Science' neu 'Nature'. Nodir fod y cyfrif geiriau yn llai na'r Fframwaith, ond mae hyn oherwydd mai crynodeb yw'r nod yma h.y. mae llawer o waith yn mynd tuag at creu'r 250 gair! Note that this is essentially an abstracting (and translating) exercise so the relatively high weighting for the low word count is because of the need for much background work before the 250 words are put to paper!
Weighting
15%
Due date
08/01/2025
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Adroddiad wyddonol
Weighting
50%
Due date
11/04/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Ystadegaeth Semester 1 Prawf ar-lein yn cynnwys cwestiynnau aml-ddewis ac atebion byr
Weighting
20%
Due date
20/12/2024
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Dull Gwyddonol / Llythrennedd Gwybodaeth Prawf Cwestiynnau aml-ddewis ac atebion byr.
Weighting
15%
Due date
01/11/2024