Modiwl QCL-2245:
Ieithyddiaeth Gymraeg
Ieithyddiaeth Gymraeg 2024-25
QCL-2245
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Peredur Webb-Davies
Overview
Mae nodweddion gramadegol Cymraeg wedi diddori ieithyddion ers canrifoedd, ac fel un o ieithoedd lleiafrifol mwyaf blaenllaw Ewrop mae deall ei strwythur ieithyddol a'i sefyllfa o fewn cymdeithas o ddefnydd mawr i unrhyw un sydd eisiau gweithredu o fewn y Gymru a byd cyfoes.
Mae'r modiwl cyfrwng Cymraeg hwn yn edrych ar yr iaith Gymraeg o safbwynt ieithyddol, gramadegol a chymdeithasol. Byddwch chi'n dysgu sut i ddisgrifio a chategoreiddio gramadeg Cymraeg (e.e. system sain, treiglo, cystrawen) o ran theori, gan hefyd ystyried mathau o iaith fel Cymraeg plant a Chymraeg sy'n dangos dylanwad Saesneg.
Byddwch chi hefyd yn gallu trafod a gwerthuso sut mae polisiau gwleidyddol a digwyddiadau hanesyddol wedi dylanwadu ar sefyllfa'r Gymraeg a'i siaradwyr heddiw. Yn gyffredinol byddwch chi'n miniogi eich sgiliau dadansoddi, dehongli a chyflwyno ac yn dechrau datblygu arbenigedd mewn gwahanol agweddau o ieithyddiaeth y Gymraeg.
Mae dau asesiad i'r modiwl, sef prawf ar-lein ar ramadeg y Gymraeg, ac ysgrifennu traethawd am bwnc mewn ieithyddiaeth Gymraeg.
Bydd myfyrwyr yn dysgu am bynciau fel: - Ffonoleg y Gymraeg mewn gwahanol acenion - System dreiglo鈥檙 Gymraeg - Cystrawen Cymraeg cyfoes - Agweddau pobl at y Gymraeg, Cymreictod a dwyieithrwydd - Dylanwad digwyddiadau hanesyddol ar yr iaith Gymraeg a鈥檌 siaradwyr - Cymraeg mewn iaith plant - Addysg Gymraeg a pholisi ieithyddol yng Nghymru - Sut mae bod yn iaith leiafrifol yn effeithio ar ffurf ieithyddol a defnydd cymdeithasol y Gymraeg
Assessment Strategy
Trothwy / Gradd D: Gafael sylfaenol ar brif nodweddion ieithyddol y Gymraeg. Gallu cyfyngedig mewn adnabod yr agweddau rhain mewn testunau llafar/ysgrifenedig. Gallu cyfyngedig mewn dadansoddi amrywiaeth yn nodweddion y Gymraeg ar draws peuoedd a chyweiriau. Gallu cyfyngedig mewn cymharu gwahanol nodweddion o ramadeg y Gymraeg gyda gramadeg ieithoedd eraill. Yn arddangos gallu sylfaenol mewn trawsgrifio Cymraeg tafodieithol gan ddefnyddio symbolau seinegol ac o hyn o beth yn gallu gwahaniaethu rhwng gwahanol systemau sain tafodieithol. Yn arddangos gallu ganolraddol cyfyngedig o鈥檙 ffyrdd y mae nodweddion ieithyddol y Gymraeg wedi newid yn y gorffennol a sut y gall ei strwythur newid yn y dyfodol. Yn dangos dealltwriaeth gyfyngedig o鈥檙 iaith Gymraeg yn ei chyd-destun cymdeithasol cyfredol ac hanesyddol. Yn gwneud defnydd sylfaenol o arddull ysgrifennu academaidd ac yn dangos gallu cyfyngedig mewn cyflwyno syniadau a chysyniadau perthnasol mewn ffurf ysgrifienedig a llafar.
Da / Gradd B: Gafael dda ar brif nodweddion ieithyddol y Gymraeg. Gallu mewn adnabod yr agweddau rhain mewn testunau llafar/ysgrifenedig. Gallu mewn dadansoddi amrywiaeth yn nodweddion y Gymraeg ar draws peuoedd a chyweiriau. Gallu mewn cymharu gwahanol nodweddion o ramadeg y Gymraeg gyda gramadeg ieithoedd eraill. Yn arddangos gallu canolraddol mewn trawsgrifio Cymraeg tafodieithol gan ddefnyddio symbolau seinegol ac o hyn o beth yn gallu gwahaniaethu rhwng gwahanol systemau sain tafodieithol. Yn arddangos gallu ganolraddol dda o鈥檙 ffyrdd y mae nodweddion ieithyddol y Gymraeg wedi newid yn y gorffennol a sut y gall ei strwythur newid yn y dyfodol. Yn dangos dealltwriaeth dda o鈥檙 iaith Gymraeg yn ei chyd-destun cymdeithasol cyfredol ac hanesyddol. Yn gwneud defnydd da o arddull ysgrifennu academaidd ac yn dangos gallu mewn cyflwyno syniadau a chysyniadau perthnasol mewn ffurf ysgrifienedig a llafar.
Ardderchog / Gradd A: Gafael ardderchog ar brif nodweddion ieithyddol y Gymraeg. Gallu uchel mewn adnabod yr agweddau rhain mewn testunau llafar/ysgrifenedig. Gallu uchel mewn dadansoddi amrywiaeth yn nodweddion y Gymraeg ar draws peuoedd a chyweiriau. Gallu uchel mewn cymharu gwahanol nodweddion o ramadeg y Gymraeg gyda gramadeg ieithoedd eraill. Yn arddangos meistrolaeth mewn trawsgrifio Cymraeg tafodieithol gan ddefnyddio symbolau seinegol ac o hyn o beth yn gallu gwahaniaethu gyda gallu uchel rhwng gwahanol systemau sain tafodieithol. Yn arddangos gallu ganolraddol uchel o鈥檙 ffyrdd y mae nodweddion ieithyddol y Gymraeg wedi newid yn y gorffennol a sut y gall ei strwythur newid yn y dyfodol. Yn dangos dealltwriaeth ardderchog o鈥檙 iaith Gymraeg yn ei chyd-destun cymdeithasol cyfredol ac hanesyddol. Yn gwneud defnydd ardderchog o arddull ysgrifennu academaidd ac yn dangos gallu uchel mewn cyflwyno syniadau a chysyniadau perthnasol mewn ffurf ysgrifienedig a llafar.
Learning Outcomes
- Adnabod a phrofi theori ieithyddol sydd yn ymwneud 芒鈥檙 Gymraeg ar lefel ganolraddol.
- Categoreiddio a dadansoddi nodweddion gramadegol y Gymraeg ar lefel ganolraddol.
- Cymharu a dehongli llenyddiaeth empeiraidd am ieithyddiaeth Gymraeg.
- Egluro a gwerthuso dylanwad ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol a/neu hanesyddol ar y Gymraeg drwy gyfeirio at batrymau ieithyddol penodol.
Assessment method
Class Test
Assessment type
Summative
Description
Prawf ar-lein lle bydd cyfres o gwestiynau byr ar amryw o wahanol nodweddion gramadegol y Gymraeg, lle bo gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi e.e. sain, treiglo neu gystrawen yr iaith. Hefyd ceir cwestiynau ar effaith hanes Cymru ar yr iaith Gymraeg a/neu ei siaradwyr.
Weighting
40%
Due date
27/11/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Ysgrifennu traethawd yn gwerthuso agwedd(au) o ieithyddiaeth y Gymraeg a gafodd eu trafod yn y modiwl.
Weighting
60%
Due date
14/01/2025