Modiwl SCL-3030:
Materion Cyfraith Trosedd
Materion Cyfoes mewn Cyfraith Trosedd 2024-25
SCL-3030
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Lois Nash
Overview
Dyma fodiwl sydd yn edrych ar gwahanol elfennau cyfraith trosedd sydd yn bynciau llosg neu wedi bod yn bynciau dadleuol dros y blynyddoedd ddiwethaf. Mae'r modiwl yn rhoi cyfle i ddysgwyr ymchwilio ym mhellach i bynciau llosg gyda chanolbwynt ar yr elfen gyfreithiol, gan ddatblygu eu dealltwriaeth o gyfraith trosedd. Drwy gymysgedd o ddarlithoedd a thrafodaethau grwpiau bach, bydd dysgwyr yn cael cyfle i ymchwilio a thrafod.
Oherwydd natur y pwnc a'r modiwl, mae modd i'r cynnwys newid o flwyddyn i flwyddyn. Rhai elfennau gellir ei drafod yw'r amgylchedd, treftadaeth, caethwasiaeth, troseddau rhywiol a throseddau meddygol, mewn cyd-destun troseddol.
Oherwydd natur y pwnc a'r modiwl, mae modd i'r cynnwys newid o flwyddyn i flwyddyn, ond gellir gynnwys pynciau megis:
- Ewthanasia a lladdiad trugarol
- Troseddau'n ymwneud a'r amgylchedd
- Troseddau'n ymwneud a threftadaeth
- Troseddau rhywiol newydd
- Troseddau'n erbyn cyrff meirw
- Caethwasiaeth fodern
- Dadleuon dros gyfraith trosedd Cymreig
Assessment Strategy
-threshold -D- hyd at D+ Trothwy: Bydd myfyrwyr (D- hyd at D+) yn dangos sgiliau ymchwil boddhaol mewn rhannau o leiaf o'r pwnc a ddewiswyd ganddynt, a byddant yn gwneud ymdrechion rhannol lwyddiannus o leiaf i archwilio a dadansoddi'r wybodaeth ac i ysgrifennu'r project mewn dull academaidd.Ateb sy'n gywir gan fwyaf o ran cyflwyno deunydd, ond sy鈥檔 cynnwys lefel sylweddol o wallau, ac felly nid yw鈥檔 hollol ddibynadwy. -good -B- hyd at B+ Da: Bydd myfyrwyr da (B- hyd at B+) yn llwyddo'n gadarn yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.Ateb cynhwysfawr, yn cynnwys yr holl neu bron y cyfan o鈥檙 deunydd sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 cwestiwn a dim amherthnasedd, neu ychydig iawn; yr holl ddeunydd a鈥檙 cyfeiriadau yn gywir at ei gilydd, heb ddim anghywirdeb na gwallau, gan gyflwyno鈥檙 cyfan mewn dadl glir, resymegol a beirniadol, ond sydd 芒 lle i wella ei adeiladwaith a鈥檌 gyflwyniad. Ateb sy鈥檔 dangos hyfedredd llwyr yn y pwnc. -excellent -A- hyd at A Rhagorol: Bydd myfyrwyr rhagorol (A- hyd at A) yn cyflawni'n gyson gadarn ar draws y deilliannau dysgu, ac yn cyfuno hyn 芒 gwreiddioldeb, gwybodaeth eang o'r pwnc yn ei gyd-destun ehangach ynghyd 芒 dadleuon a dadansoddiad treiddgar a soffistigedig.Ateb rhagorol, sy鈥檔 dangos meistrolaeth dros y pwnc dan sylw heb fawr ddim lle o gwbl i wella. Mae鈥檙 ateb yn cynnwys yr holl bwyntiau a dadleuon perthnasol, ynghyd 芒 gwerthusiad llawn annibynnol ac aeddfed o鈥檙 testun, heb fawr ddim camgymeriadau neu gynnwys amherthnasol. Lle bo鈥檔 berthnasol, bydd yr ateb hefyd yn dangos tystiolaeth o werthusiad cymharol manwl o鈥檙 materion dan sylw. Bydd yr holl ddeunydd a chyfeiriadau (lle bo鈥檔 berthnasol) wedi鈥檜 cyflwyno bron yn berffaith yn yr ateb, a bydd yr ateb wedi鈥檌 lunio鈥檔 hynod dda ac yn rhagorol yn ramadegol yn Gymraeg/Saesneg. -another level-C- i C+ Da/Boddhaol: Bydd myfyrwyr lefel C- i C+ yn llwyddo'n ddisgrifiadol yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.Ateb sydd, er ei fod bob amser yn gywir gan fwyaf, serch hynny yn methu 芒 gwahaniaethu rhwng deunydd perthnasol ac amherthnasol, ac sydd 芒 diffyg beirniadaeth. Ateb sy鈥檔 ddibynadwy o ran cywirdeb, ond nad yw鈥檔 gynhwysfawr neu nad yw鈥檔 hollol berthnasol.
Learning Outcomes
- Cynnal ymchwil gyfreithiol annibynnol yn fanwl, cywir ac effeithiol mewn perthynas 芒 chyfraith trosedd.
- Dadansoddi'n fedrus ac yn feirniadol materion cyfoes o fewn cyfraith trosedd, gan gyfeirio'n gywir at ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd priodol.
- Dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o faterion cyd-destunol ehangach yn ymwneud 芒 cyfraith trosedd.
- Dangos lefel sgil uchel wrth ddansoddi a chymhwyso gwybodaeth sy'n ymwneud a chyfraith trosedd.
- Llunio, cyflwyno a cyfathrebu'n effeithiol dadl gyfreithiol resymegol yn ymwneud 芒 materion yng nghyfraith trosedd.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad yn gofyn i myfyrwyr ateb dau gwestiwn ar ffurf traethawd.
Weighting
60%
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd yn gofyn i myfyrwyr ateb un cwestiwn.
Weighting
40%
Due date
22/02/2023