Cynllun arloesol i greu adnodd addysgiadol am ynni cymunedol yng Nghymru
Cafodd adnodd addysgiadol newydd am ynni cymunedol ei dreialu ymysg myfyrwyr Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda Dydd Mercher y 12fed o Orffennaf. Datblygwyd y nofel graffig 鈥楾ic-Toc: Nofel graffig am ynni, perchnogaeth a chymuned鈥 gan Sioned H芒f ac Angharad Penrhyn Jones, yn rhan o broject i godi ymwybyddiaeth am y sector ynni cymunedol yng Nghymru. Mae鈥檙 nofel graffig ar-lein yma yn dilyn trywydd Gwenno, y prif gymeriad, wrth iddi gwestiynu鈥檙 system ynni presennol a darganfod potensial ynni cymunedol i gyfrannu tuag at ddyfodol cynaliadwy hirdymor.
Dywedodd Dr Sioned H芒f, un o drefnwyr y project:
鈥淢ae ymwybyddiaeth yng Nghymru o botensial ynni cymunedol, yn dueddol o fod yn anghyson a chymylog. Pwrpas yr adnodd yma yw sicrhau fod gan ein pobol ifanc y cyfle i gwestiynu ein system ynni presennol, hanes ein defnydd o adnoddau naturiol a thanwydd ffosil, a chwestiynu materion i wneud 芒 pherchnogaeth a datblygu ynni adnewyddadwy yn lleol, er budd cymunedau. Er taw adnodd addysgiadol yw鈥檙 holl becyn, mae鈥檙 stori ei hun ar gael i unrhyw un sydd am ddarllen stori syml am sut all cymunedau gael perchnogaeth dros eu hadnoddau a'i ffawd, trwy gydweithio. Mae鈥檙 stori hefyd yn adlewyrchiad ac yn deyrnged i鈥檙 degau o brojectau ynni cymunedol a鈥檙 unigolion ymroddedig sy鈥檔 eu harwain ar draws Cymru.鈥
Mae partneriaid y project yn cynnwys grwpiau ynni cymunedol Ynni Ogwen, Awel Aman Tawe, Green Valleys, DEG ac Ynni Cymunedol Cymru. Bydd y pecyn terfynol yn cael ei lansio am 11.00-12.00 ar y 12fed o Awst ar stondin Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd yr adnodd ar gael yn y Gymraeg a鈥檙 Saesneg.
Dywedodd Dafydd Roberts, un o athrawon Ysgol Dyffryn Ogwen:
鈥淢ae hwn yn broject pwysig iawn i ni yn yr ysgol. Braf yw cael adnodd o鈥檙 fath sydd yn ein cynorthwyo i gyflwyno a thrafod ynni adnewyddadwy cymunedol. Mae鈥檔 gr锚t bod ein disgyblion yn cael y cyfle i ddarllen stori ar ffurf nofel graffig, sydd yn ffurf dweud stori wych i bob oedran, ac yna cael trafodaeth am faterion i wneud 芒 pherchnogaeth a chreu ynni gl芒n lleol er budd y gymuned. Mae hefyd yn ddelfrydol i ni, oherwydd bod yna broject ynni cymunedol, Ynni Ogwen, yn ein pentref, felly mae鈥檔 wych gallu pontio gyda鈥檙 project arloesol hwn.鈥
Cyllidwyd y project hwn gan Gyfrif Cyflymu Effaith (IAA) yr ESRC ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017