Llwyddo yn y diwydiant niwclear
Yn ddiweddar mae dau fyfyriwr Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 o Ogledd Cymru wedi cymryd camau breision at wireddu eu huchelgais o ddilyn gyrfa yn y diwydiant niwclear.
Mae Lara Pritchard o Ddinbych, sydd ar hyn o bryd yn cwblhau blwyddyn olaf ei gradd Daearyddiaeth, wedi cael cynnig swydd ddisglair i raddedigion gyda Horizon Nuclear Power a bydd yn dechrau yno ym mis Medi.
Bydd Ilan Davies o'r Bala, a fydd yn dechrau ar flwyddyn olaf ei gwrs Meistr Peiriannu Electronig pedair blynedd ym mis Medi, yn un o bump intern o'r Deyrnas Unedig a gaiff gyfle i weithio yn ninas Hitachi yn Japan am dri mis gyda Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd.
Mae'r ddau wedi elwa o'r berthynas sydd wedi datblygu mewn blynyddoedd diweddar rhwng Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, Horizon Nuclear Power a Hitachi-GE o ganlyniad i'r rhaglen adeiladu gorsaf ynni niwclear Wylfa Newydd a'r cytundeb cydweithio a lofnodwyd rhwng y Brifysgol a Horizon Nuclear Power yn Ionawr 2015.
Ers cyrraedd 香港六合彩挂牌资料, mae Lara wedi bod yn benderfynol o chwilio am gyfleoedd yn y diwydiant niwclear ac wedi bod i wahanol ddigwyddiadau a sesiynau briffio niwclear i fyfyrwyr a gyd-drefnwyd gan y Brifysgol, Hitachi GE a Horizon yn ogystal 芒 sesiynau hyfforddi mewn sgiliau niwclear sydd wedi deillio o berthynas y Brifysgol 芒'r National Skills Academy for Nuclear.
Mae Ilan, sy'n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf o'r Bala, hefyd yn benderfynol o lwyddo yn y diwydiant niwclear ac wedi bod i sesiynau briffio a digwyddiadau hyfforddi niwclear i fyfyrwyr y ogystal 芒 bod ar leoliad gwaith yng ngorsaf ynni niwclear yr Wylfa.
Mae'r ddau fyfyriwr wedi derbyn dymuniadau gorau'r Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, a ddywedodd:
鈥淩ydw i wrth fy modd fod Lara ac Ilan wedi sicrhau cyfleoedd mor gyffrous o ganlyniad i waith y Brifysgol gyda'r diwydiant niwclear. Mae鈥檙 ddau yn enghreifftiau gwych o'r ffordd yr ydym yn gweithio gyda'n partneriaid mewn busnes a diwydiant i roi cyfleoedd i'n myfyrwyr, tu hwnt i brofiadau academaidd, sy'n gwella eu cyflogadwyedd a rhagolygon at y dyfodol drwy amrywiaeth o interniaethau, projectau diwydiannol a lleoliadau. Mae cael sector niwclear gweithredol ar drothwy ein drws yn golygu bod amser cyffrous o flaen y Brifysgol, ei myfyrwyr a'i hymchwilwyr wrth i'n cydweithgaredd gynyddu o ran nifer a dwyster cyfleoedd dros y misoedd a blynyddoedd i ddod.
Rwy'n dymuno'r gorau i Lara yn ei Lleoliad i Raddedigion yn Horizon Nuclear Power ac yn ei gyrfa yn y dyfodol yn y diwydiant niwclear. Edrychaf ymlaen yn fawr hefyd at glywed gan Ilan am ei brofiadau yn Japan pan fydd yn dychwelyd i Fangor ym mis Medi i gwblhau blwyddyn olaf ei gwrs Meistr Peirianneg Electronig".
Mae'r Interniaeth a'r Lleoliad i Raddedigion yn ddatblygiadau pwysig yn y berthynas o gydweithio rhwng Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Horizon a Hitachi-GE. Mae鈥檙 Brifysgol yn cydweithio gyda'r ddau ar sawl lefel ac yn gweithio ar ddeilliannau eraill a fydd o fudd i fyfyrwyr a'r rhanbarth ehangach.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2016