Academyddion a myfyrwyr yn cyflwyno eu hymchwil yn y gynhadledd ryngwladol mewn delweddu data
Cynhaliwyd y gynhadledd ryngwladol delweddu data rhwng dydd Sul y 24ain a dydd Gwener y 29ain o Hydref 2021. Bu academyddion a myfyrwyr yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn cynnal gweithdy, yn cyflwyno papur ymchwil, ac yn trin a thrafod gyda’r rhai eraill oedd yn y gynhadledd.
Trefnir y gynhadledd delweddu data gan Sefydliad y Peirianwyr Electronig a Thrydanol, a dyma’r prif fforwm ar gyfer datblygiadau mewn delweddu a dadansoddeg weledol. Mae'r gynhadledd yn rhoi llwyfan i syniadau arloesol ym maes delweddu data a rhyngweithio cyfrifiadurol dynol. Eleni, cynhaliwyd y gynhadledd ar-lein. Dywedodd yr Athro Jonathan Roberts (Athro Delweddu) “Oherwydd ei fod yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr amser llawn, roedd hi’n bosib i lawer mwy mwy o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig fynd i’r gynhadledd. Fe wnaethom ni sefydlu sesiwn sgwrsio ar gyfer ein gr诺p lle roeddem ni’n gallu cymdeithasu gyda'n gilydd a thrafod y cyflwyniadau." Roedd academyddion yn yr ysgol yn ymwneud yn uniongyrchol â rhedeg y gweithdy Gweithgareddau Delweddu (a gynhaliwyd ddydd Sul) a chyflwynasant bapur ar y dydd Mercher.
Roedd y gweithdy yn canolbwyntio ar drafod a datblygu gwahanol dechnegau i hwyluso dysgu, myfyrio, trafod a dylunio gweithgareddau delweddu data. Dywedodd yr Athro Roberts, “Roedd yn wych helpu rhedeg y gweithdy hwn. Yn y bore cawsom gyflwyniadau papur a phrif anerchiad, ac yn y prynhawn, cawsom y mynychwyr i ddylunio eu gweithgaredd delweddu eu hunain. Roedd yn hwyl gweld sut roedd y cyfranogwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn rhithiol. Fe wnaethom ni ddefnyddio Zoom i'w galluogi i siarad â'i gilydd, a’r bwrdd Miro fel y gallen nhw rannu syniadau.
Roedd y papur ar “” yn cyflwyno’r cydweithio a fu rhwng Ysgol y Gyfraith 香港六合彩挂牌资料 (Dr Sarah Nason ac Ann Sherlock) a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig (Yr Athro Roberts, Dr Butcher). Dywedodd Dr Butcher, “Fe wnaethon ni gyflwyno ein hofferyn, Artemus, gan ganiatáu i ddefnyddwyr archwilio a delweddu llwybrau unioni cyfiawnder gweinyddol. Roedd croeso brwd i’r gwaith, ac roeddem yn falch iawn o gael sawl sgwrs yng nghyntedd rhithwir y gynhadledd am y gwaith.” Gwnaed hefyd at y yn y gynhadledd.
Dywedodd Dr Panagiotis Ritsos (Darlithydd Delweddu) “Fe wnes i fwynhau cynhadledd 2021 yn fawr. Roedd y brif araith gan (ymchwil partner yn Microsoft Research) yn heriol, y trafodaethau yn y sesiynau panel yn arbennig o ddiddorol, ac roedd y papurau lu o safon fyd-eang a gyflwynwyd yn cynrychioli'r ymchwil delweddu o'r safon uchaf. Roedd trafodaeth glo y gynhadledd gan a ar sut mae dulliau anghonfensiynol weithiau'n arbennig o lwyddiannus wrth ddelweddu data yn arbennig o ddiddorol. Er y byddai wedi bod yn wych cyfarfod yn bersonol, gweithiodd y drefn ar-lein yn dda iawn, gyda sgyrsiau ar Discord, cwestiynau drwy Slido a chyflwyniadau yn cael eu ffrydio'n fyw ar YouTube”.
Dywedodd Mr Aron Owen (myfyriwr PhD mewn Delweddu) “Dyma fy nghynhadledd gyfrifiadurol gyntaf. Roeddwn i wedi bod i lawer o gynadleddau gemau o'r blaen, felly roeddwn i'n gwybod rhywfaint am beth i'w ddisgwyl. Roedd y gynhadledd hon yn wych. Roedd yn anrhydedd bod yn rhan o'r 3719 a oedd yn bresennol. Dysgais gymaint am ddelweddu data ac rwyf wedi nodi llawer o bapurau y mae angen i mi eu darllen yn fwy manwl nawr. Mae wedi bod yn ddechrau rhagorol ar gyfer fy nhaith ddoethurol.”
Fernanda Viégas a Martin Wattenberg yn traddodi eu darlith glo yn cyfeirio at ddelweddu testun o’r nofel ‘Pride and Prejudice’
Awduron: JCR, PR
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2021