Adar o'r unlliw a hedant i'r unlle - Map magnetig telorion cyrs
Bydd pob un ohonom yn rhyfeddu at y mamaliaid, yr adar a'r pryfed sy'n mudo ymhell ac at eu gallu cynhenid i gyrraedd pen eu taith filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Mae gwyddonwyr yn dal i geisio deall yr holl fecanweithiau sydd ynghlwm 芒 hyn. Bellach, mae un gr诺p o wyddonwyr yn credu eu bod wedi canfod un system sy'n cael ei defnyddio gan rai adar sy'n mudo, ac mae'n datgelu map diddorol o'r byd y byddai sawl un ohonom yn rhyfeddu ato.
Un o鈥檙 problemau a geir wrth deithio cryn bellter yw amcangyfrif ble rydych. Tra oedd lledred yn broblem gymharol syml i'w datrys, treuliodd daearyddwyr, mapwyr, gwyddonwyr, clocwyr a morwyr ganrifoedd yn ceisio datrys sut oedd gwybod lle roeddynt o ran hydred, neu o ran yr echelin dwyrain-gorllewin, wrth groesi'r cefnforoedd. Roedd a wnelo'r system a lwyddodd yn y pen draw i ddatrys y broblem i'r fforwyr hyn 芒 chadw amser yn fanwl.
Mae un elfen o'r system a ddefnyddir gan rai adar wedi cael ei datgelu am y tro cyntaf ac mae'n ymwneud 芒 chanfod y gogwyddiad neu'r amrywiad sy'n digwydd oherwydd nad yw pegwn daearyddol y gogledd (cywir) a'r gogledd magnetig yn yr un lle.
Yn Ewrop, mae'r gwahaniaeth hwn rhwng y gogledd cywir a'r gogledd magnetig yn cynyddu wrth deithio o'r dwyrain i'r gorllewin. Wrth ddefnyddio map a chwmpawd, mae angen cyfrif am y gogwyddiad newidiol hwn, yn enwedig os ydych am gyrraedd pen eich taith gryn bellter i ffwrdd. Mae'n ymddangos fod adar yn canfod y gogwyddiad neu'r amrywiad rhwng y gogledd cywir a'r gogledd magnetig, a thrwy hynny, yn gwybod ble maent ar yr echelin hydredol.
Yn rhifyn cyfredol (Awst 2017) mae t卯m rhyngwladol o fiolegwyr, sy'n cynnwys Richard Holland a Dmitri Kishkiniev o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn egluro sut y maent, am y tro cyntaf, wedi canfod fod telorion cyrs yn eu llawn dwf yn gallu canfod y gogwyddiad o鈥檙 gogledd magnetig, a defnyddio graddfa'r gogwyddiad neu'r newid o'r gogledd cywir i'w lleoli eu hunain yn ddaearyddol i hydred, a defnyddio hynny i gyfeirio eu mudo hydrefol o Rwsia i Affrica.
"Mae sut mae adar yn goresgyn y broblem hydredol wedi bod yn ddirgelwch gwyddonol," dywedodd Dr Richard Holland o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料. "Mae'n ymddangos fod gan aderyn mor ddi-nod 芒 thelor y cyrs fam neu gof daearyddol sy'n galluogi iddo ganfod ei leoliad hydredol, ddim ond trwy ganfod y gwahaniaeth rhwng y gogledd magnetig a'r gogledd cywir. Mae hyn, ynghyd 芒 chiwiau allanol eraill, a allai gynnwys cryfder y maes magnetig, lleoliad y s锚r ac arogleuon, yn galluogi iddo ganfod ei leoliad presennol a gosod cyfeiriad iddo ei hun yn ystod y mudo hir."
Mewn ymgais i brofi eu damcaniaeth, dros dro, daliodd y gr诺p delorion cyrs yn eu llawn dwf a rhai ifanc. Cadwyd yr adar mewn cewyll bychan si芒p twmffat a oedd yn cofnodi eu tueddiadau cyfeiriadaeth a chofnododd y t卯m duedd yr adar i gyfeirio tuag at eu llwybr mudo o Rwsia i Ogledd Affrica, cyn newid y maes magnetig o amgylch yr adardai i gynrychioli amrywiad o 8鈦 o'r gogledd cywir (sef gogwyddiad Aberdeen). 脗 hwythau'n dal yn y cewyll cyfeiriadaeth, gwelwyd bod yr adar yn eu llawn dwf, am gyfnod byr, yn cyfeirio eu hunain fel pe baent yn dechrau mudo o Aberdeen, tua 900 milltir i ffwrdd o'u lleoliad yn Rwsia!
Roedd yr adar ifanc i weld wedi drysu gan y signal magnetig newydd ac yn methu gosod cyfeiriad, sy'n awgrymu fod y map magnetig hwn yn cael ei ddysgu trwy brofiad.
Mae'r gr诺p wedi codi cwr y llen ar system y mae'r adar hyn, a rhywogaethau eraill o bosibl, yn ei defnyddio. Fodd bynnag, mae'r darganfyddiad yn codi cynifer o gwestiynau ag y mae yn eu hateb - sut mae'r adar yn canfod y magnetedd? Sut maent yn dysgu'r map?
Dyddiad cyhoeddi: 17 Awst 2017