Adnabod y paill sy鈥檔 cosi鈥檙 trwyn
Mae鈥檔 bosib fod gwyddonwyr gam yn nes at gynnig rhagolygon paill mwy manwl gywir i鈥檙 bobl hynny sy鈥檔 dioddef o asthma neu glwy鈥檙 gwair - tua 25% o boblogaeth y Deyrnas Unedig. Dyma鈥檙 canlyniadau cyntaf i ddeillio o broject mawr tair blynedd i ddadansoddi paill glaswellt yn yr aer.
Mae canlyniadau鈥檙 flwyddyn gyntaf, a gyhoeddir yn, wedi dangos nad 鈥榣lwyth鈥 y paill gwair yn yr aer un unig all fod yn gyfrifol am y 鈥榙yddiau drwg鈥 hynny i ddioddefwyr asthma a chlwy鈥檙 gwair. Gallai鈥檙 dyddiau hynny pan fo pobl yn dioddef mwy o byliau asthma neu glwy鈥檙 gwair mwy dwys fod yn gysylltiedig 芒 rhyddhau paill o rywogaethau glaswellt penodol.
Ar hyn o bryd mae 鈥榗yfrifon鈥 a rhagolygon paill yn asesu鈥檙 cyfanswm llwyth paill yn yr aer, a, thra bo gwyddonwyr yn gallu gwahaniaethu rhwng y paill a gr毛ir gan rywogaethau unigol o goed neu chwyn, mae wedi bod yn amhosib bron i鈥檙 dulliau rhagweld presennol adnabod gwahanol beilliau glaswellt yn weledol.
Ond mae metagodio bar, techneg sy鈥檔 galluogi gwyddonwyr i adnabod yn awtomatig unrhyw ddarn o ddefnydd a ddelir mewn sampl o aer, d诺r neu bridd, drwy adnabod a pharu ei 鈥榞od bar鈥 DNA unigryw, wedi newid hynny.
Am y tro cyntaf, mae peilliau glaswellt a gasglwyd dros gyfnod un tymor alergedd wedi cael eu dadansoddi gan ddefnyddio鈥檙 dull arloesol hwn. Mae hyn wedi galluogi鈥檙 t卯m i ddechrau ymchwilio i鈥檙 cysylltiadau rhwng rhai mathau o baill a鈥檙 dyddiau hynny pan fydd dioddefwyr alergedd i blanhigion a phobl gydag asthma yn dioddef fwyaf.
sbonia鈥檙 Athro Simon Creer, o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, sy鈥檔 arwain y gwaith ymchwil:
鈥淔el un sy鈥檔 dioddef o glwy鈥檙 gwair fy hun, rwy鈥檔 gwybod er bod y cyfrif paill yn uchel ar rai diwrnodau, fy mod yn profi llai o effeithiau nag ar ddyddiau eraill pan fo鈥檙 rhagolygon yn ymddangos yn is. Arweiniodd hyn i mi ac eraill ystyried ai鈥檙 llwyth uchel o baill yn yr aer yn unig sydd yn achosi鈥檙 broblem, neu a yw gwahanol beilliau glaswellt yn achosi gwahanol lefelau o ymateb.鈥
Ychwanegodd Georgina Brennan, o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, a fu鈥檔 dadansoddi 鈥楧NA amgylcheddol鈥 paill awyr gyda Dr Caitlin Potter o Brifysgol Aberystwyth a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:
鈥淢ae dod ag amrywiaeth o arbenigwyr ynghyd wedi ein galluogi i ganfod atebion cychwynnol. Ein tasg ar hyn o bryd yw datblygu darlun mwy cliri o darddiad y paill, sut mae鈥檔 symud drwy鈥檙 aer a sut mae gwahanol fathau o baill yn gysylltiedig ag alergeddau.鈥
Meddai Dr Ben Wheeler o Brifysgol Caerwysg:
鈥淩ydym bellach yn ymchwilio i setiau data ar fynediadau ysbyty a phresgripsiynau meddygon teulu am gynnyrch fferyllol penodol, er mwyn adnabod cydberthyniadau rhwng setiau data gofal iechyd a chynnydd mewn peilliau glaswellt penodol. Gyda鈥檙 ddealltwriaeth newydd hon o nodweddu paill, rydym yn canolbwyntio ar y goblygiadau o ran rhybuddion paill a strategaethau hunanofal at y dyfodol.鈥
Meddai Dr Rachel McInnes o Swyddfa Met y Deyrnas Unedig:
鈥淵n dilyn o鈥檙 ymchwil DNA amgylcheddol, rydym yn awr yn datblygu mapiau o leoliadau鈥檙 rhywogaethau glaswellt hyn sy鈥檔 achosi alergeddau yn y Deyrnas Unedig. O鈥檜 cyfuno gyda dulliau modelu awyr sy鈥檔 cael eu datblygu gan yr Athro Carsten Skj酶th ym Mhrifysgol Caerwrangon, gellid defnyddio鈥檙 dulliau hyn i wella ein rhagolygon paill yn y dyfodol.鈥
Arweiniwyd yr ymchwil gan d卯m rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol New South Wales, Sydney, Prifysgol Queensland a Phrifysgol Caerwrangon mewn cydweithrediad 芒 Swyddfa鈥檙 Met. Enw鈥檙 gr诺p cyfun yw PollerGEN (http://pollergen.bangor.ac.uk/), ac mae wedi derbyn Grant Safonol NERC o 拢1.2m.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2019