Adroddiad gan staff SENRGy yn tynnu sylw at effaith economaidd y clafr yng Nghymru
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi chwarae rhan bwysig mewn sefydlu tasglu cenedlaethol a fydd yn ymchwilio i ffyrdd o fynd i鈥檙 afael ag afiechyd sy鈥檔 costio dros 拢5 miliwn yn flynyddol i鈥檙 diwydiant ffermio defaid yng Nghymru.
Mae鈥檙 adroddiad, a ysgrifennwyd gan staff yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy) y Brifysgol, yn cyflwyno ymchwil i ddulliau o drin y clafr yng Nghymru. Mae鈥檙 afiechyd yn effeithio鈥檔 sylweddol ar les anifeiliaid ac yn achosi colledion mawr i鈥檙 diwydiant da byw. Seiliwyd y data a gyflwynwyd ar arolwg o 574 o ffermwyr defaid yng Nghymru.
Darganfu鈥檙 adroddiad wahaniaethu rhanbarthol ar draws Cymru o ran sut yr ystyrir problem y clafr gan ffermwyr, yn ogystal 芒 data鈥檔 awgrymu nad yw rhai ffermwyr yn trin eu hanifeiliaid rhag yr afiechyd oherwydd costau uchel y driniaeth. Trwy鈥檙 ymchwil gallodd yr awduron (Dr Paul Cross, Yr Athro Gareth Edwards-Jones, Dr Hussain Omed a Dr Prysor Williams) amcangyfrif bod yr afiechyd yn costio 拢5.86 miliwn y flwyddyn i鈥檙 diwydiant defaid yng Nghymru.
Mae darganfyddiadau鈥檙 adroddiad wedi arwain at sefydlu Gr诺p Tasg a Gorffen y Clafr. Arweinir hwn gan y diwydiant a bydd yn cyhoeddi ei ddarganfyddiadau i weinidogion yn Llywodraeth Cymru erbyn diwedd 2012.
Mae copi o鈥檙 adroddiad ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru:
Mae erthygl BBC News ar y gweithgor i鈥檞 chael yn:
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2012