Allwn ni ddefnyddio eDNA fel 'chwyddwydr amgylcheddol'?
Mae syniad arloesol a gyflwynwyd gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi cael ei ddewis fel un o wyth project a ddewiswyd o fewn pedwar maes 'syniad' a gyllidir drwy ffrwd cyllid ymchwil newydd "" Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).
Ar sail eu hymchwil, gwahoddwyd y gymuned wyddonol i gyflwyno meysydd project a fyddai'n rhoi lle canolog i wyddor amgylcheddol yn y gwaith o reoli'r blaned yn gynaliadwy.
Ymysg tua 150 o gyflwyniadau roedd "DNA amgylcheddol: cyfrwng ar gyfer ecoleg yr unfed ganrif ar hugain", sef y syniad newydd a awgrymwyd gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, mewn cydweithrediad ag academyddion a budd-ddeiliaid eraill. Bydd y project llwyddiannus yn asesu sut y gallwn ddefnyddio technegau genetig newydd i fesur bioamrywiaeth.
Dyma'r eglurhad a gafwyd gan Dr Simon Creer o'r :
"Efallai ei fod yn swnio ychydig fel ffuglen wyddonol, ond yn ddiweddar rydym wedi darganfod bod signalau genetig cudd eu trigolion i'w cael mewn llynnoedd, ffrydiau ac afonydd, wrth i blanhigion a chreaduriaid ollwng celloedd yn gyson i'r amgylchedd y maent yn byw ynddo. Mae holl gelloedd byw a marw'n cynnwys cod genetig unigryw rhywogaethau unigol. Gallwn fynd at yr olion genetig hyn drwy hidlo d诺r o afonydd lleol ac yna gwneud dadansoddiad genetig moleciwlaidd er mwyn gweld pa anifeiliaid, planhigion a ffyngau sy'n byw ynddynt. Yr hyn sydd ddim yn glir, fodd bynnag, yw'r cysylltiad rhwng y signalau genetig 芒'r gymuned o greaduriaid a phlanhigion byw, yn arbennig mewn afonydd, a ph'un a ellir defnyddio'r signalau, neu 'DNA amgylcheddol' fel math o 'chwyddwydr amgylcheddol' i ddeall sut mae gwahanol fathau o reoli tir yn effeithio ar fioamrywiaeth mewn dalgylchoedd afonydd ac o'u cwmpas. Mae deall y berthynas hon yn arbennig o bwysig er mwyn asesu iechyd llynnoedd ac afonydd, ein prif ffynonellau o dd诺r yfed ffres.
Er mwyn darganfod mwy, mae Dr Simon Creer a'i d卯m wedi derbyn grant 'Highlight Topic' o 拢1.25M i weithio gyda'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham a chydweithwyr ledled y byd. Mae'r grant bedair blynedd hefyd yn cynnwys nifer o fudd-ddeiliaid, yn cynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Meddai'r Athro Angela Hatton, cadeirydd Bwrdd Gwyddoniaeth NERC: "Bwriad y cynllun cyllido 'Highlight Topics' yw rhoi mwy o ran i'r gymuned wyddonol yn y dasg o adnabod meysydd y mae angen cyllido ymchwil strategol ynddynt. Bydd y gr诺p cyntaf hwn o brojectau'n rhoi gwybodaeth bwysig i helpu cymdeithas i ddelio 芒 phroblemau'n cynnwys colledion bioamrywiaeth, llygredd nanoronynnau a newid amgylcheddol."
Meddai'r Athro Graham Underwood, cadeirydd Gr诺p Ymgynghorol Rhaglen Strategol NERC: "Fe wnaeth y gymuned gwyddoniaeth amgylcheddol ymateb yn rhagorol i'r ceisiadau am syniadau newydd yn y maes ac mae'r projectau hyn yn cyd-fynd yn dda ag amcanion y gr诺p ymgynghorol. Hoffwn ddiolch i'r holl ymgeiswyr ac i'r rhai a fu'n ymwneud ag asesu a dewis y projectau rhagorol hyn."
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2015