Ar Orchymyn Brenhinol
Mae dau ysgolhaig o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi derbyn gwahoddiadau brenhinol i gymryd rhan mewn digwyddiadau pwysig a dylanwadol.
Bydd Dr Gareth Williams o'r Ysgol Gwyddorau Eigion yn y Brifysgol yn un o nifer fechan o siaradwyr rhyngwladol a bydd yn rhannu ei farn arbenigol ar riffiau cwrel y Môr Tawel mewn Symposiwm Rhyngwladol: ‘Rethinking the Future for Coral Reefs’, a drefnir gan Ei Uchelder Brenhinol, Iarll Wessex, noddwr Sefydliad Morol Canol y Caribî (The Central Caribbean Marine Institute).
Yn y cyfamser, bu Athro o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Andrew Pullin, yn ymweld â'r Colocwiwm Brenhinol, 'Environmental reality: Rethinking the options' ar wahoddiad y Brenin Carl XVI Gustaf o Sweden (23-25 Mai).
Bydd Dr Gareth Williams ymhlith 25 cyfrannwr yn cynnwys cyfarwyddwyr sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwarchod riffiau cwrel a'r cefnfor, ysgolheigion, cynrychiolwyr o'r cyfryngau a phenaethiaid gwladwriaethau yn cyfrannu at Symposiwm Rhyngwladol ar 6-7 Mehefin, sy'n anelu at wella polisïau, rheolaeth a llywodraethiant, fel y gellir gwarchod riffiau cwrel y byd yn well.
Mae riffiau cwrel yn gwneud gwaith hollbwysig megis darparu ffynhonnell werthfawr o fwyd, gwarchod yr arfordir a darparu incwm o dwristiaeth i filiynau o bobl, yn enwedig mewn gwledydd sy'n datblygu felly mae eu diogelu o'r pwys mwyaf. Mae Dr Gareth Williams ymhlith arweinwyr y nodwyd bod ganddynt y potensial i greu cynllun trawsffurfiol i wrth-droi dirywiad riffiau cwrel, a chefnogi'r cymdeithasau sy'n dibynnu arnynt.
Mae symposiwm Llundain 2016 yn dilyn cerrig milltir gwyddonol sy'n dyddio'n ôl 40 mlynedd.
Meddai Dr Gareth Williams:
"Rwyf wrth fy modd fy mod wedi derbyn y gwahoddiad hwn i rannu fy ngwybodaeth am riffiau cwrel y Môr Tawel, a sut mae gweithgareddau dynol yn effeithio arnynt, fel y gallwn gydweithio i sicrhau parhad yr adnoddau hanfodol hyn i'r dyfodol."
Bu'r Athro Andrew S. Pullin o'r Ganolfan ar gyfer Cadwraeth ar sail Tystiolaeth (CEBC) yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn y Colociwm Brenhinol, 'Environmental reality: Rethinking the options’.
Mae gwaith yr Athro Pullin yn cefnogi gwneud penderfyniadau ym meysydd rheolaeth gadwraethol ac amgylcheddol drwy ddarparu arolygon ystadegol a systematig o effeithiolrwydd rheolaeth ac ymyriadau polisi, ac ar effaith gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd naturiol.
Mae colocwia blaenorol wedi cynnwys nifer eang o bynciau yn cynnwys dŵr, ynni, amaeth, a hinsawdd, gyda'r sylw daearyddol yn amrywio o ardaloedd arfordirol i fynyddoedd ac o ranbarthau trofannol i'r Arctig. Gyda'r ystod eang hon o enghreifftiau mewn golwg, mae'n bosibl archwilio'r tueddiadau a'r ffactorau tyngedfennol sy'n ffurfio hanes yn ogystal â darparu heriau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2016