Astudiaeth dreillio ryngwladol yn datblygu gwybodaeth am effaith fyd-eang treillio
Mae’r astudiaeth gyntaf o'i math, gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 gyda sefydliadau ymchwil eraill, a gyhoeddwyd heddiw yn(PNAS), yn adeiladu ar gydweithrediad rhyngwladol diweddar. Mae'n dwyn ynghyd ddata o 24 rhanbarth morol mawr ledled y byd i sefydlu perthynas rhwng dosbarthiad a dwyster gweithgareddau treillio ac iechyd cymunedau ar waelod y môr.
Asesodd ymchwilwyr fywyd ar wely'r môr gan briodoli sgôr statws rhwng 0-1, lle mae 0 wedi ei effeithio ac 1 heb ei effeithio. Roedd 15 rhanbarth a astudiwyd mewn cyflwr da gyda statws uwch na 0.9, roedd gan dri statws diraddiedig o lai na 0.7. Ym mhob rhanbarth gyda'i gilydd, roedd 1.5% o'r holl ran o wely'r môr a astudiwyd mewn cyflwr gwael iawn gyda statws o 0.
Dywedodd y gwyddonydd morol Dr Roland Pitcher o CSIRO Oceans and Atmosphere, Brisbane, Awstralia, fod yr astudiaeth yn dangos bod rheoli pysgodfeydd yn dda yn cyfrannu at ganlyniadau gwell i'r ecosystem ehangach.
Gan gyfeirio at y sgorau a briodolwyd yn yr astudiaeth dywedodd:
“Mae'r canlyniadau'n dangos bod pysgodfeydd treillio a reolir yn effeithiol ac yn gynaliadwy yn gysylltiedig â rhanbarthau sydd â statws gwely'r môr uchel o 0.95 neu fwy,”
“Roedd y rhanbarthau a oedd â sgoriau statws gwely'r môr isel mewn mannau lle mae stociau pysgod fel arfer yn cael eu hecsbloetio’n ormodol ac sydd â systemau rheoli aneffeithiol."
“Nid oedd data manwl ar gael ar gyfer pob awdurdodaeth lle mae treillio ar waelod y môr yn digwydd, ond mae'r astudiaeth hon yn darparu’r ystadegau cyntaf yn y byd i amcangyfrif effaith treillio byd-eang ac yn darparu sylfaen dystiolaeth i gyfrannu at welliannau effeithiol i arferion treillio ledled y byd.
Meddai’r gwyddonydd pysgodfeydd yr Athro Ray Hilborn o’r University of Washington, Seattle, fod yr ymchwil yn dangos p诺er cydweithredu byd-eang ar ymchwil pysgodfeydd:
“Trwy ddod â’r data hyn at ei gilydd o bob rhan o 24 rhanbarth morol mawr y byd rydym yn gallu sefydlu cysylltiadau ystadegol sylfaenol rhwng gweithgareddau treillio, eu heffeithiau a statws yr ecosystem, gan gynnwys goblygiadau dewisiadau gêr treillio a dosbarthiadau gofodol dwyster treillio.”
“Mae'r ymchwil hwn yn gam hanfodol wrth symud tuag at amcangyfrif effaith byd-eang treillio, a deall y camau sy'n ofynnol i wella rheolaeth pysgodfeydd, lleihau ecsbloetio, gwella cynaliadwyedd stoc a statws amgylchedd gwely'r môr.”
“Dangosodd yr astudiaeth hefyd y gellir rhagweld statws gwely'r môr rhanbarthol o fetrigau syml o gyfanswm y treillio mewn rhanbarth, gan alluogi asesiadau rhagarweiniol sydd eu hangen i wella rheolaeth treillio mewn gwledydd sy'n datblygu lle mae’r data'n gyfyngedig."
Meddai’r Athro Hiddink, o Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料:
“Wrth gymharu cynhyrchu bwyd môr yn erbyn effeithiau treillio gwaelod y môr mewn perthynas ag olion traed defnydd tir dynol eraill yn y Deyrnas Unedig, fel amaethyddiaeth, mae'n amlwg bod ôl troed treillio gwaelod y môr o amgylch y Deyrnas Unedig yn fawr, ond bod cyfraniad treillio at lawer o’r ôl troed yn gyfyngedig.”
“Serch hynny, mae llawer o ardaloedd wedi eu treillio'n ddwys ac mae ganddynt statws gwely'r môr isel, er enghraifft mewn ardaloedd mwdlyd lle mae cimwch Norwy yn cael eu pysgota ym Môr Iwerddon gan ddefnyddio treilliau rhwyd - mae'r ardaloedd hyn yn flaenoriaeth i ymchwil newydd i fapio cynefinoedd gwely'r môr sensitif ac asesu faint o dreillio sy’n digwydd yno a’r risgiau o dreillio. Mae'r gwaith yn darparu ffynhonnell ddata a chanllawiau defnyddiol i lunwyr polisi a rheolwyr sy'n ceisio rheoli pysgodfeydd treillio masnachol mewn modd cynaliadwy."
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2022