Astudiaeth yn dangos cynnydd chwe gwaith yn yr achosion o donnau gwres difrifol mewn llynnoedd ers 1995
Mae ecosystemau llynnoedd, a'r organebau sy'n byw ynddynt, yn agored i newid tymheredd, gan gynnwys y cynnydd mewn gwres ac oerfel eithafol. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod rhyw lawer am donnau gwres mewn llynnoedd — cyfnodau o dymheredd cynnes iawn mewn d诺r arwyneb llynnoedd — a sut y gallant newid gyda chynhesu byd-eang.
Yn ôl agan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 a’r European Space Agency, newid hinsawdd a achosir gan ddyn sy'n gyfrifol am gynnydd mewn tonnau gwres mewn llynnoedd d诺r croyw.
Mae llynnoedd yn ffynhonnell hanfodol o dd诺r croyw ac yn darparu gwasanaethau gwerthfawr fel d诺r yfed, dyfrhau, a bwyd, yn ogystal â bod yn rhan allweddol o'r amgylchedd naturiol. Nid ydym yn gwybod rhyw lawer am yr effaith y mae newid yn yr hinsawdd wedi’i chael, ond yr ymchwil arloesol hwn yw’r cam cyntaf tuag at geisio unioni effeithiau negyddol tywydd poeth.
Mae'r dadansoddiad yn canolbwyntio ar amlder tonnau gwres o sampl o lynnoedd mwyaf y byd dros gyfnod o 20 mlynedd ac yn modelu pa mor aml y byddant yn digwydd o dan newid hinsawdd.
Gwelwyd bod llynnoedd wedi profi cynnydd chwe gwaith yn fwy o donnau gwres ers 1995. Gwelwyd cynnydd penodol ym mlynyddoedd ‘poeth’ 2010, 2012 a 2016, gyda’r nifer fwyaf o donnau gwres (157) yn cael eu cofnodi yn y llynnoedd a gafodd eu monitro yn 2016.
Mae archwiliad pellach yn dangos y gellir priodoli 94% o'r tonnau gwres a arsylwyd fel rhai 'difrifol', yn rhannol o leiaf, i newid yn yr hinsawdd.
Er bod data lloeren a’r modelu ar gyfer y 78 o lynnoedd mawr a astudiwyd yn awgrymu bod y llynnoedd hyn ddwywaith a phum gwaith yn fwy tebygol o brofi tonnau gwres difrifol mewn byd 1.5°C a 3.5°C yn gynhesach, mae’r wybodaeth am lynnoedd llai yn waeth o lawer.
Meddai’r prif awdur, Iestyn Woolway o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料:
“Yr hyn a oedd yn sefyll allan oedd maint y cyfraniad dynol. Roedd ôl anthropogenig sylweddol ar y rhan fwyaf o'r achosion o donnau gwres difrifol mewn llynnoedd a edrychwyd arnynt. Ac o edrych ar sut y bydd y tonnau gwres hyn yn newid yn y dyfodol, roedd maint y newid yr ydym yn disgwyl ei weld yn y degawdau nesaf yn eithaf trawiadol.”
Mae llynnoedd yn ecosystemau cymhleth iawn, ac yn amrywio yn eu hecoleg, yn dibynnu ar eu lleoliad.
Bydd rhai o effeithiau cyffredin gwres uwch yn cynnwys mwy o flwmiau algaidd, sy'n tynnu ocsigen o'r d诺r ac yn fygythiad difrifol i anifeiliaid a bodau dynol sy'n dibynnu ar lynnoedd fel ffynhonnell d诺r croyw. Mae dyfroedd cynhesach hefyd yn golygu mwy o anweddu a llai o gymysgu, wrth i dd诺r y llyn fynd yn haenedig gyda d诺r poeth ar yr arwyneb a d诺r oerach wedi'i ddal oddi tano. Gall y ddau fater olygu llai o ocsigen, a all roi straen ar bethau sy’n byw mewn llynnoedd fel pysgod sydd angen anadlu.
Mae organebau sy'n byw ar ben eithaf eu hamrediad tymheredd mewn perygl yn y llynnoedd mawr.
Ychwanegodd Iestyn: “Yn wahanol i fodau dynol, sy’n gallu mynd mewn i adeiladau gydag aerdymheru neu adeiladu cysgod mewn argyfwng, does dim dianc i organebau dyfrol pan maent yn agored i’r tymereddau eithafol hyn.”
“Gallwn ddisgwyl, os yw’r cronfeydd mawr hyn o dd诺r fel y Great Lakes yn profi’r tonnau gwres hyn, yna mae’n rhaid bod yr effeithiau yn digwydd hefyd, a gallent fod hyd yn oed yn waeth mewn cronfeydd llai o dd诺r sy’n fwy bas,” ychwanegodd.
Y cam nesaf i'r tîm ymchwil yw cysylltu'r ffiseg â'r ecoleg er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r goblygiadau i lynnoedd d诺r croyw.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2022