Astudiaeth yn datgelu bod gwyntyll m么r a rhywogaethau eraill yn cymryd amser hir i ddod dros darfu arnynt
Mae t卯m o wyddonwyr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn darogan y gall gwyntyll m么r pinc, cwrelau Ross a chwistrellau m么r gwyn gymryd hyd at 20 mlynedd i ddod atynt eu hunain ar 么l i dreillio am gregyn bylchog gael ei atal ar ran o wely'r m么r.
Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Lyme Bay yn enwog am ei riffiau calchfaen a'r gwyntyll m么r pinc a phlanhigion eraill a geir yno. Ataliwyd treillio am gregyn bylchog yn Lyme Bay yn 2008 ar 么l i gynllun gwirfoddol cychwynnol i atal treillio am gregyn bylchog yno gael ei roi ar waith am flwyddyn yn ystod 2006-07. Fe wnaeth gwyddonwyr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 gymryd samplau yn Lyme Bay adeg y newid o atal treillio am gregyn bylchog yn wirfoddol i'w rwystro'n gyfan gwbl. Fe wnaethant gymryd samplau o'r un safleoedd yn 2017 gan ddefnyddio'r un dulliau samplu.
Meddai'r Athro Michel Kaiser o'r Ysgol Gwyddorau Eigion, a arweiniodd yr astudiaeth:
'Ychydig wybodaeth fu gennym hyd yma o ran pa mor gyflym y mae organebau riff sensitif a hirhoedlog yn adfer ar 么l i bysgota trwy ddulliau treillio darfu arnynt. Mae hyn wedi ein rhwystro rhag medru darogan faint o bysgota y gall yr organebau yma ei wrthsefyll, os o gwbl.'
'Mae'r astudiaeth yma'n dangos nad yw pysgota trwy dreillio yn addas o gwbl ar gyfer rhannau o wely'r m么r lle mae gwyntyll m么r yn ffynnu,' ychwanegodd.
Fodd bynnag, mae rhannau eraill o wely'r m么r yn gallu gwrthsefyll treillio'n well. Gwelwyd bod rhywogaethau eraill, fel cregyn bylchog mawr a'r cwrel meddal a adwaenir fel 'bysedd y meirw' yn adfer mewn llai na 3 i 5 mlynedd.
Aeth Yr Athro Kaiser ati i egluro 'Mae'n ymddangos bod cyswllt uniongyrchol rhwng strategaethau atgenhedlu'r gwahanol rywogaethau yn Lyme Bay a'r amser mae'n gymryd iddynt adfer. Bydd hyn yn hynod werthfawr wrth ystyried sensitifrwydd cynefinoedd i bysgota a gweithgareddau eraill mewn ardaloedd cadwraeth.'
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2018