Astudiaeth yn datgelu pwysigrwydd o fod yn debyg ond yn wahanol
Mae astudiaeth o gathbysgod arfog sydd yn frith yn afonydd bychain a nentydd ar draws De America, yn dangos nad ydynt yr hyn a ymddengys. Y gwir yw bod eu cymunedau鈥檔 llawer mwy amrywiol nag y tybiwyd.
Drwy astudiaeth ryngddisgyblaethol newydd, sy鈥檔 cael ei hadrodd yng nghylchgrawn Nature, mae biolegwyr esblygiadol ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi sefydlu bod llawer o gathbysgod 鈥楥orydoras鈥 sy鈥檔 cydfyw yn yr un afonydd yn cop茂o patrwm lliw ei gilydd. Mae鈥檙 cymunedau cathbysgod yn cynnwys rhywogaethau nad ydynt yn agos yn enynnol, ond maent, dros amser maith, wedi mabwysiadu patrymau lliw ei gilydd- a thrwy wneud yn cyfleu eu diflastod i鈥檞 hysglyfaethwyr gan gynyddu鈥檜 cyfle i oroesi.
Fodd bynnag, er mor ddiddorol yw鈥檙 ffaith eu bod yn rhannu lliw a phatrwm, mae鈥檙 astudiaeth hefyd yn cyrraedd y canlyniad nad hyn yw鈥檙 strategaeth esblygiadol bwysicach o ran goroesiad a sefydlogrwydd cymunedau cymysg.
Canfuwyd yr ymchwilwyr nad yw 92% o鈥檙 rhywogaethau mimetig neu dynwaredol a astudiwyd yn cystadlu am fwyd ac maent yn perthyn i linachau enynnol gwahanol. Cyrhaeddwud y canlyniad yn dilyn ddadansoddiad DNA i holi perthnasedd enynnol, defnyddio isotopau sefydlog i fesur diet ac arsylwi gwahaniaethau mewn si芒p corff a phatrwm lliw samplau a gasglwyd drwy De America.
Er eu bod yn rhannu鈥檙 un cynefin, wedi mabwysiadu鈥檙 yn patrwm lliw ac yn chwilota am fwyd efo鈥檌 gilydd, nid yw鈥檙 rhywogaethau鈥檔 cystadlu am yr un bwyd. Mae鈥檙 gwyddonwyr yn cyrraedd y canlyniad bod y gallu i rywogaethau sy鈥檔 cyd-fyw i ddosrannu adnoddau yw鈥檙 elfen bwysig mewn cynnal sefydlogrwydd hirdymor o fewn cymunedau.
鈥 Mae鈥檙 rhywogaethau鈥檔 rhannu鈥檙 un edrychiad a鈥檙 un cynefin, ac yn gyffredinol yr un bwyd. Byddai鈥檙 farn gyfoed yn awgrymu y byddent mewn cystadleuaeth ar gyfer adnoddau, gan arwain at ansefydlogrwydd ecolegol o fewn y gymuned ac i rai ffynnu tra bod rhywogaethau eraill yn darfod,鈥 meddai arweinydd y project, Dr Martin Taylor o ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料. Mae ymchwiliad manwl wedi datgelu bod pob rhywogaeth efo adnodd bwyd sydd yn f芒n-wahanol- gan osgoi cystadleuaeth uniongyrchol dros fwyd. Mae cystadleuaeth dros adnoddau yn rym esblygiadol grymus sy鈥檔 sicrhau bod rhywogaethau sy鈥檔 cydfyw yn meddiannu llecyn tamaid yn wahanol, oherwydd gwahaniaethau bychain yn eu morffoleg sydd yn eu caniat谩u i fwyta ysglyfaeth wahanol.
Mae canlyniadau鈥檙 T卯m hefyd yn awgrymu nad yw鈥檙 budd cadarnhaol y naill i鈥檙 llall yn troi鈥檙 fantol yn erbyn rhyngweithiadau negyddol cystadleuaeth.
鈥淢ae鈥檙 canlyniadau yn sialensio gwaith theori ac empirig diweddar sy鈥檔 awgrymu bod cydymddibyniaeth yn bwysicach na chystadleuaeth, a gall felly gynnal cymuned o rywogaethau hyd yn oed pan ydynt yn cystadlu am fwyd. Mae ein canlyniadau鈥檔 dangos bod arwahanydd diet a pherthnasedd enynnol yn ffactorau hanfodol wrth bennu strwythur a gwneuthuriad cymuned yn fwy na rhyngwneud cydymddibynnol.
Gall yr ymdriniaeth rhyngddisgyblaethol yma ei ddefnyddio mewn cymunedau eraill o rywogaethau sydd yn cyd-fyw, tra bod Corydoras yn darparu model newydd i astudio dynwared, cystadlu a chydymwybyddiaeth. Gall y canfyddiadau hyn dod a ni鈥檔 nes at ddealltwriaeth o鈥檙 ffactorau hollbwysig a mecanwaith sy鈥檔 gyfrifol am darddiad a chynnal bioamrywiaeth mewn ecosystemau neodrofannol.
Arianwyd yr ymchwil gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol y DU a gyda chefnogaeth UNESP, Brazil.
Mae'r papur llawn yn Nature ar gael yma:
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2011