Awydd adeiladu rhyngrwyd eich hun neu hyd yn oed robot?
Oes gennych chi awydd adeiladu robot? Mae Technocamps wrthi鈥檔 trefnu digwyddiadau diddorol rhad ac am ddim ar gyfer pobl ifanc 11-19 oed. Felly dewch draw a chymryd rhan.
Mae Technocamps yn brosiect sydd yn cael ei rhedeg ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 mewn partneriaeth gyda Prifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Morgannwg. Mae鈥檙 prosiect yn canolbwyntio ar ysbrydioli pobl ifanc i edrych mewn i bynciau STEM, ac yn bennaf i mewn i鈥檙 pwnc Cyfrifiadureg.
Bydd y cyfranogwyr yn adeiladu eu robotiaid eu hunain ac yn dysgu sut i ddefnyddio'r iaith gyfrifiadurol NXT-G i reoli eu robot yn y 'Bootcamp', sydd yn rhad ac am ddim. Mae鈥檙 dyddiadau ar gyfer y Bootcamps Roboteg Lego nesaf fel a ganlyn: 24ain-26ain o Orffennaf a'r 29ain-31ain o Orfennaf 2013.
Yn flaenorol mae Technocamps wedi cynnal Bootcamps 3 diwrnod ar gyfer disgyblion rhwng 11 a 16 oed ar gyfer Adeiladu Rhwydwaith Rhygrwyd. Cafodd y cyfranogwyr yma eu hysbrydoli i adeiladu gwefan a chreu rhwydwaith rhyngrwyd o'r cychwyn. Mae'r Bootcamp yn defnyddio meddalwedd Graffeg Broffesiynol a HTML, a dysgodd y cyfranogwyr hefyd am adeiladu caledwedd, er enghraifft ceblau a gwifrau i safon y diwydiant.
Bydd Technocamps hefyd yn cynnal gweithdy i ferched yn unig ar yr 24ain-26ain o Orffennaf, a bydd y Bootcamp yma yn canolbwyntio ar y pwnc cynyddol o dechnoleg gwisgadwy. Bydd y merched yn cymryd rhan mewn gwaith tecstilau ysgafn, ac yn ymgorffori microbrosesydd i mewn i鈥檞 dyluniadau i greu gorffeniadau disglair gyda chanlyniadau trawiadol.
Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch 芒 kim.jones@technocamps.com
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2013