Beth sydd yn y pridd o dan ein traed?
Mae myfyriwr o Ganada, sydd 芒 gwreiddiau Cymreig, yn torri tir newydd yn ei ymchwil i asesu beth yn union sy'n byw yn y pridd Cymreig o dan ein traed.
Mae Paul George, myfyriwr PhD sy'n astudio yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a'r (CEH), wedi cyhoeddi ei ymchwil heddiw (7 Mawrth 2019) yn Nature Communications.
Mae ymchwil Paul yn edrych ar y rhywogaethau lleiaf un, sy'n byw yn y pridd, gan gynnwys bacteria, ffyngau ac anifeiliaid. Mae ei waith yn rhoi Cymru ar y blaen o ran deall beth sy'n rheoli lle mae'r rhywogaethau microsgopig hyn yn digwydd ar draws y tirwedd ar raddfa genedlaethol. A dyna lawer o rywogaethau, oherwydd amcangyfrifir bod chwarter yr holl rywogaethau ar dir yn byw o fewn ein priddoedd.
Pam mae priddoedd yn bwysig? Mae cyflwr pridd yn ddangosydd byd-eang ar gyfer dirywiad tir o fewn Amcanion Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae Cymru yn un o'r ychydig lywodraethau yn fyd-eang sy'n gwarchod priddoedd ar y lefel uchaf gan ei bod yn cynnwys cyflwr pridd fel un o'i '46 Dangosydd Cenedlaethol 'ar gyfer sicrhau datblygiad cynaliadwy, a chyflawni gofynion arloesol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
Pwysleisiodd yr Athro Bridget Emmett o CEH yr angen i wledydd eraill ddilyn arweiniad Cymru:
"Drwy gynnwys priddoedd fel dangosydd cenedlaethol ac olrhain y newid hwnnw dros amser, mae Cymru wedi pwysleisio sut mae pridd yn hollbwysig i gymaint o fuddion a gawn ni o'n tir. Ein nod yn y pen draw yw gwella ein dealltwriaeth o sut mae bioamrywiaeth pridd yn cefnogi iechyd y pridd yn gyffredinol ac mae'r gwaith hwn gan Paul yn gam mawr ymlaen. Am y tro cyntaf, rydym bellach yn deall y gwahanol reolyddion ar wahanol rywogaethau yn y pridd. "
Sut mae rhywun yn chwilio am organebau sy'n rhy fach i'w gweld, eu hadnabod a'u dosbarthu? Trwy ddefnyddio metabarcodio moleciwlaidd - sy'n golygu cymryd 'llond llaw o bridd' a phennu 'cod bar' DNA i bopeth a gynhwysir yn y sampl. Gall hyn gynnwys darnau DNA o rywogaethau sydd wedi bod yn y ddaear yn ddiweddar, yn ogystal ag adnabod unrhyw beth sy'n dal i fod yn bresennol. Yn ystod ymchwil Paul, nodwyd 100 miliwn o organebau pridd, gan gynnwys 29,690 o fathau o facteria a 7,582 o fathau o ffyngau.
Esboniodd Paul:
"Mae'r gangen hon o wyddoniaeth yn dal i ddatblygu ac mae'n cael ei defnyddio i archwilio bioamrywiaeth 'cudd' yn ein moroedd, ein hafonydd, a hyd yn oed yn y perfedd dynol. Yma rydym wedi ei chymhwyso at ein pridd. Mae'r dull gweithredu hwn yn tynnu sylw at yr amrywiaeth rhyfeddol o rywogaethau na allem eu gweld o'r blaen gan na fydd llawer o rywogaethau'n tyfu mewn sefyllfaoedd labordy gan ddefnyddio dulliau cyfredol. "
"Er syndod i ni, cawsom amrywiaeth a nifer llawer mwy cyfoethog o rywogaethau microbaidd mewn priddoedd amaethyddol yn hytrach nag mewn coetiroedd, corsydd a thir cadwraeth. Nid ydym eto'n gwybod yn union pam fod hyn yn digwydd. Gallai fod oherwydd bod amaethyddiaeth yn bresennol ar fathau o bridd sydd yn fwy addas i gynnal nifer fwy o rywogaethau, neu bod yr arferion rheoli a ddefnyddiwn mewn amaethyddiaeth yn creu cynefinoedd mwy amrywiol i wahanol rywogaethau fanteisio arnynt.
Dyma oedd gan oruchwyliwr PhD Paul, yr Athro Davey Jones yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, i'w ddweud:
"Mae'r gwaith hwn yn rhoi Cymru ar y blaen o ran deall, rheoli a gwarchod bioamrywiaeth pridd cyfoethog. Rydym yn adeiladu dealltwriaeth sylfaenol a gallwn symud ymlaen o'r fan honno wedyn i ofyn cwestiynau, megis pam bod yna fwy o gyfoeth mewn ardaloedd lle gwelwyd amrywiaeth gwael o blanhigion ac anifeiliaid yn hanesyddol, a sut i annog cyfoeth ehangach o rywogaethau mewn mannau eraill. "
Ychwanegodd Dr David Robinson (cyd-oruchwyliwr Paul yn CEH):
"Mae natur gryno Cymru yn ei gwneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer yr ymchwil hon. O fewn y genedl fach hon ceir ystod eang o wahanol ddefnydd tir, gan gynnwys rhostiroedd a chorsydd ucheldir, planhigfeydd coedwigoedd, a safleoedd tir 芒r, ac mae wedi ymrwymo i reoli ei hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy."
Cyllidir Paul George trwy'r l. Mae ei waith yn rhan o Raglen Monitro a Gwerthuso Glastir (GMEP). Cyllidwyd GMEP gan Lywodraeth Cymru i asesu effeithiau eu cynllun amaeth-amgylcheddol diweddar, Glastir, ac fe'i harweinir gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) mewn cydweithrediad 芒 phrifysgolion, canolfannau ymchwil cyhoeddus, ymgynghoriaethau gwyddonol a chyrff gwirfoddol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2019