Bioamrywiaeth forol ficrosgopig yn adlewyrchu bywyd mwy o faint
Mae ymchwil yn dangos bod dosbarthiad planhigion ac anifeiliaid microsgopig yn ein moroedd yn dynwared patrwm dosbarthiad planhigion ac anifeiliaid mwy o faint ar y tir.
Nid ydym yn gwybod llawer am yr organebau microsgopig sy'n byw yn ein moroedd ac yn sail i'r gadwyn fwyd sydd yn y pen draw, yn cefnogi creaduriaid enigmatig fel siarcod a dolffiniaid. Mae'r rhan fwyaf o'r anifeiliaid microsgopig hyn yn parhau heb eu hadnabod, ond mae t卯m rhyngwladol o ymchwilwyr yn cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi dangos bod y rhai'n sy'n byw ar draethau Ewrop yn byw mewn cilfachau ecolegol arbennig, fel planhigion ac anifeiliaid mwy o faint.
Dangosodd yr ymchwil hefyd bod cymunedau sy'n bellach oddi wrth ei gilydd yn cynnwys gwahanol rywogaethau cynyddol, miliynau ohonynt o bosib.
"Gan fod rhywogaethau microsgopig mor fach ac mae biliynau ohonynt, mae llawer o ddadlau ynghylch a ydynt yn dangos unrhyw amrywiaeth rywogaethol ddaearyddol (ac ecolegol), fel anifeiliaid mwy o faint. Yn wir mae ein gwaith yn dangos bod rhai rhywogaethau o fewn y cymunedau hyn yn lleol, ac yn ffafrio set arbennig o amodau amgylcheddol, tra bod eraill wedi'u dosbarthu yn llawer ehangach," eglurodd Vera Fonseca, myfyriwr PhD sydd wedi graddio o Fangor, ac sydd ar hyn o bryd yn y Zoological Research Museum Alexander Koenigin Bonn ac yn awdur arweiniol o'r papur yn y rhifyn ar-lein cynnar o Global Ecology and Biogeography.
"Gan fod adnabod anifeiliaid microsgopig trwy ddefnyddio microsgop yn anodd, roedd yr offer genetig moleciwlaidd modern a ddefnyddiwyd gan y gr诺p yn dangos y patrymau hyn am y tro cyntaf," eglurodd Simon Creer, a arweiniodd yr astudiaeth o Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.
"Mae deall patrymau daearyddol bywyd microbaidd yn bwysig, gan y bydd byd sy'n cynhesu ac amgylchedd morol sy'n gynyddol asidig yn gorfodi ymfudiad rhywogaethau a rhyngweithiadau ecolegol anhysbys yn y cymunedau pwysig sy'n cyflawni cylchoedd maetholion morol, fel bydd yn digwydd gyda chymunedau o anifeiliaid a phlanhigion mwy o faint ar y tir ac yn y m么r. Byddwn yn gweld wrth i'n hamgylchedd newid dros yr hanner can mlynedd a fydd yr ymyriadau ecolegol hyn yn achosi newid yn swyddogaeth ecosystem gwaddod m么r," ychwanegodd.
Cyhoeddwyd y papur yn Global Ecology and Biogeography, a gellir ei ddarllen yn awr ar-lein (http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/geb.12223/pdf).
Cefnogwyd yr ymchwil gan Grant Ymchwilwyr Newydd Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), Grant aPost Genomig a Phroteomig a Grant Cyfleuster Geneteg Foleciwlaidd. Derbyniodd Vera Fonseca grantiau gan Sefydliad Portiwgaidd dros Gwyddoniaeth a Thecghnoleg (FCT) (SFRH/BD/27413/2006 a SFRH/BPD/80447/2014).
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2014