Bronze for Ben in Hill Climb Championship
Ddydd Sadwrn, 24 Hydref, fe wnaeth Ben Butler, myfyriwr PhD blwyddyn olaf yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, ennill medal efydd yn y British Universities Hill Climb Championship.
Daeth bron i 200 o feicwyr o brifysgolion ar draws Prydain i roi cynnig ar y ddringfa hynod galed i fyny'r Curbar Gap yn ardal y Peak. Mae graddiant o 11% dros 1 filltir ar y ffordd hon, sy'n golygu ei bod yn brawf caled iawn ar yr holl ymgeiswyr. Roedd y beicwyr yn cychwyn yn unigol gyda munud rhwng pob un gyda'u hamser gorau ar y ddringfa yn cael ei nodi.
Gan wybod mai hwn fyddai ei gyfle olaf i gynrychioli Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 cyn graddio, neilltuodd Ben flwyddyn gyfan o ymarfer yn arbennig ar gyfer y 5 munud eithriadol o ymdrech oedd ei hangen yn y bencampwriaeth.
Meddai Ben, "Ar 么l cael canlyniadau gweddol barchus dros y 4 blynedd ddiwethaf yn y gystadleuaeth, roeddwn yn meddwl tybed a fyddai gen i siawns o ennill medal yn fy ras olaf fel myfyriwr pe bawn i'n paratoi'n iawn. Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi cynyddu fy ymarfer i tua 200 milltir yr wythnos ac ers mis Mai rwyf wedi canolbwyntio'n galed ar fy neiet ac wedi colli 10kg. Wedyn, roedd yn rhaid i mi wneud yn si诺r bod fy meic mor ysgafn 芒 phosibl ... a oedd yn cynnwys cael hyd i'r cydrannau ysgafnaf a thynnu unrhyw beth diangen."
Bu gwaith caled Ben yn werth yr ymdrech, gan iddo feicio i fyny'r allt mewn 5 munud .22.13t eiliad, gan ennill y trydydd safle. "Roedd fy nerfau'n bur dynn erbyn diwedd y gystadleuaeth. Roeddwn yn yr ail safle gyda dros 60 o feicwyr yn dal ar 么l ac felly roedd yn rhaid i wylio'r canlyniadau byw yn dod i mewn a gobeithio y byddwn i'n dal yn un o'r goreuon. Yn y diwedd roeddwn wedi gwirioni'n l芒n fy mod i wedi cael medal," meddai.
Gyda 5 mis i fynd cyn gorffen ei PhD mewn Geocemeg M么r, bydd Ben yn arafu gyda'i ymarfer am dipyn er mwyn canolbwyntio ar ei thesis. "Beth rydw i wedi ei ddysgu'n bennaf drwy hyn ydi bod rhoi sylw i fanylion a gwaith caled yn talu yn y diwedd ac mae hynny'n rhywbeth rydw i'n gobeithio'i gymhwyso at fy ngwaith ysgrifennu dros y misoedd i ddod," ychwanegodd.
Pan ofynnwyd iddo pam y dewisodd ddod i Fangor i astudio, dyma oedd gan Ben i'w ddweud: 鈥淔e wnes i ddewis Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 oherwydd ei henw da rhagorol a'r adnoddau awyr agored gwych sydd i'w cael yng Ngogledd Cymru. Cefais fy nenu'n fuan i ddechrau beicio ar y ffyrdd oherwydd y ffyrdd mynyddig ac arfordirol ysblennydd sydd ar garreg drws 香港六合彩挂牌资料. Fe wnaeth y Brifysgol fy helpu i wireddu fy uchelgais ym myd beicio drwy yn gyntaf fy annog i sefydlu Clwb Beicio Ffyrdd yn 2011. Yna, fe wnaeth gefnogi fy mherfformiadau mewn rasys drwy roi bwrsariaethau ac ysgoloriaethau chwaraeon i mi mewn blynyddoedd dilynol. Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yma yn gwirioneddol werthfawrogi gwerth chwaraeon ym mhrofiad a datblygiad myfyrwyr, sy'n rhywbeth sydd wedi cyfoethogi'r amser rwyf wedi ei dreulio'n astudio ym Mangor."
Am y canlyniadau llawn ewch at:
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2015