Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar argaeledd d诺r yn y dyfodol ar gyfer ynni d诺r a chyflenwad d诺r cyhoeddus yng Nghymru
Gall Cymru wynebu heriau i gyflenwi d诺r cyhoeddus a llai o botensial i gynhyrchu p诺er d诺r yn y dyfodol yn ôl ymchwil newydd. Mae canfyddiadau astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan ymchwilwyr Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn dangos y bydd argaeledd d诺r yng Nghymru yn dod yn fwy tymhorol oherwydd newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
Cyhoeddwyd y papur yn y Journal of Hydrology: Regional Studies (), ac roedd yn asesu effaith y sefyllfa waethaf o newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol ar hydroleg dau ddalgylch afon yng Nghymru: y Conwy a’r Tywi.
Gan ddefnyddio Data UKCP18, sef yr amcanestyniadau hinsawdd diweddaraf ar gyfer y Deyrnas Unedig o Swyddfa Dywydd Canolfan Hadley, efelychodd yr ymchwilwyr y llif dyddiol posib yn afonydd Conwy a Thywi ar gyfer y cyfnod 2021 i 2079 gyda'r Offeryn Asesu Pridd a D诺r. Yna defnyddiwyd y llifoedd tybiedig hyn i gyfrifo faint o dd诺r fyddai ar gael bob dydd i'w dynnu mewn 25 o safleoedd ynni d诺r llif afon yn y ddau ddalgylch, ac mewn un lleoliad tynnu d诺r ar gyfer cyflenwad cyhoeddus ar yr afon Tywi. O ran cyflenwad d诺r cyhoeddus, dadansoddwyd tair sefyllfa bosib o alw am dd诺r yn y dyfodol gan ddefnyddio'r system Gwerthuso a Chynllunio D诺r: galw cynyddol (yn seiliedig ar berthnasoedd hanesyddol rhwng tymheredd dyddiol a'r galw am dd诺r), dim newid, a gostyngiad yn y galw (yn seiliedig ar ragamcanion galw D诺r Cymru).
Canfu'r astudiaeth, ym mhob sefyllfa bosib o alw yn y dyfodol, fod cynnydd yn nifer y diwrnodau bob blwyddyn pan fydd llif yr afon yn rhy isel i fodloni'r galw am gyflenwad d诺r cyhoeddus, ac y byddai angen rhyddhau d诺r ychwanegol o gronfeydd i fyny'r afon i wneud iawn am hynny. O ran ynni d诺r, bu gostyngiad yn nifer y diwrnodau y flwyddyn pan fo'n bosibl cynhyrchu ynni, ynghyd â gostyngiad yng nghyfaint y d诺r blynyddol sydd ar gael i'w dynnu, gan arwain at golli'r potensial i gynhyrchu ynni. Roedd newidiadau yn argaeledd d诺r yn fwyaf amlwg yn y tymor canolig (2021–2054), ac arafodd gyfradd y newid ar ôl 2060. Yn ogystal, cynyddodd argaeledd d诺r yn y dyfodol yn nhymhorau'r gaeaf a'r gwanwyn o'i gymharu â'r sefyllfa sydd ohoni, ond roedd y gostyngiadau mwy yn y d诺r sydd ar gael ar gyfer tymhorau'r haf a'r hydref yn gorbwyso'r cynnydd hwn.
Eglurodd Dr Rhichard Dallison, ymchwilydd ôl-ddoethurol D诺r Uisce ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 ac awdur arweiniol y papur: “Gan fod cymaint o sectorau yng Nghymru yn ddibynol ar ddyfroedd wyneb, mae'n hynod bwysig disgrifio natur y newidiadau i lif d诺r a achosir gan newid yn yr hinsawdd cyn belled ag y bo hynny’n bosib. Mae cael dealltwriaeth dda o sut yr effeithir ar amlder a maint llifoedd d诺r uchel ac isel eithafol, er enghraifft, yn hanfodol er mwyn deall sut yr effeithir ar weithgarwch ynni d诺r, gyda'r llifoedd d诺r hyn yn chwarae rhan bwysig o ran faint o ynni y gellir ei gynhyrchu, a phryd. Mae ein canlyniadau'n awgrymu cyfraddau newid cyflymach yn argaeledd d诺r yn y tymor canolig, i'r 2050au, gyda chyfradd y newid yn arafu ar ôl hyn, gan awgrymu y gallai fod angen gweithredu yn fuan i liniaru'r newidiadau a ragwelir."
Ychwanegodd Dr Sopan Patil, Darlithydd mewn Modelu Dalgylchol a chyd-awdur y papur: “Mae amcanestyniadau newid yn yr hinsawdd yn awgrymu y bydd llif afonydd yn newid ledled y Deyrnas Unedig, nid yng Nghymru yn unig. Fodd bynnag, ni ddeellir yn llawn eto beth yw goblygiadau'r newidiadau rhanbarthol hyn yn lleol, yn y lleoliadau tynnu d诺r. Mae methodoleg ein hastudiaeth yn gosod patrwm gwych ar gyfer dadansoddi effeithiau newid yn yr hinsawdd mewn lleoliadau tynnu d诺r penodol. At hynny, mae'n ddigon hyblyg i gyfrif am amrywiadau yn yr amcanestyniadau galw ac yn anghenion tynnu d诺r gwahanol ddefnyddwyr d诺r."
Ychwanega Dr Prysor Williams, Prif Ymchwilydd D诺r Uisce ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol, a chyd-awdur y papur: “Rydym yn falch o weld cyhoeddi’r papur hwn gan ei fod yn berthnasol i gynifer o bynciau sydd o bryder gwirioneddol. Caiff Cymru yn aml ei hystyried yn wlad sydd â digonedd o dd诺r. Fodd bynnag, mae ein gwaith wedi dangos y gallai hyn newid yn y dyfodol, gydag effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pwysig amlwg.”
Mae D诺r Uisce yn brosiect ar y cyd rhwng Coleg y Drindod Dulyn yn Iwerddon a Phrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yng Nghymru, gyda’r prif nod o wella pa mor effeithlon y dosberthir d诺r yn y ddwy wlad. Mae gan y tîm brofiad helaeth mewn technoleg ynni, asesiadau effaith amgylcheddol, newid yn yr hinsawdd a chydweithio gyda byd busnes, gan gyfrannu gwahanol safbwyntiau i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir. Mae'r swydd wedi ei chyllido'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Interreg Cymru-Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2021