Cadwraeth trwy grefydd? Gwyddonwyr yn cadarnhau bod gan safleoedd naturiol cysegredig fantais o ran bioamrywiaeth
Mae safleoedd naturiol cysegredig i'w canfod ym mhob cwr o'r byd. Credir eu bod yn chwarae rhan bwysig mewn cadwraeth ond tan yn ddiweddar ychydig o ymchwil systematig a gafwyd i'r honiad hwn. Ond yn awr mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Biological Conservation gan dîm rhyngwladol ac amlddisgyblaeth dan arweiniad Prifysgol Ioannina, ac yn cynnwys Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, wedi dangos bod gan safleoedd naturiol cysegredig fudd cadwraethol nodedig. Dewisodd ymchwilwyr y project, a elwir yn THALIS-SAGE, gynnal yr astudiaeth yn rhanbarth Epirus yng ngogledd orllewin gwlad Groeg, sy'n gartref i nifer o lwyni cysegredig a ddiogelwyd am ganrifoedd gan grefydd.
Trwy astudio ystod eang o grwpiau tacsonomaidd o blanhigion ac anifeiliaid mewn wyth safle naturiol cysegredig a chymharu'r amrywiaeth yno gyda safleoedd rheoli cyfagos, ardaloedd a oedd gan fwyaf wedi'u hailgoedwigo, canfu'r ymchwilwyr fod gan y safleoedd naturiol cysegredig fantais fechan ond cyson o ran bioamrywiaeth. Mynegwyd y fantais hon mewn nifer o ffyrdd, a’r nodwedd gliriaf oedd bodolaeth mwy o wahanol gymunedau o rywogaethau ymysg y llwyni cysegredig nac ymysg y safleoedd rheoli (mesurydd a elwir yn amrywiaeth beta).
Y grŵp rhywogaeth a oedd fwyaf nodedig o ran ei fioamrywiaeth uwch yn y safleoedd naturiol cysegredig o'i gymharu â'r safleoedd rheoli oedd ffyngau, a oedd yn aml yn tyfu ym mhren marw hen goed. Roedd dwywaith cymaint o rywogaethau (wyth) o adar golfanaidd (adar clwydol, sy'n cynnwys nifer fawr o adar cân) a ddynodir eu bod â phwysigrwydd cadwraeth ar lefel Ewropeaidd, yn bresennol yn y safleoedd naturiol cysegredig ag yn y safleoedd rheoli (pedair).
Yn aml honnir mai ffiniol yw manteision cadwraeth safleoedd naturiol cysegredig oherwydd eu bod yn fychan eu maint fel rheol. Mae'r astudiaeth hon fodd bynnag yn canfod mai cymharol wan yw dylanwad maint ac yn dangos bod hyd yn oed safleoedd naturiol cysegredig bychain yn gallu chwarae rhan sylweddol mewn cadwraeth bioamrywiaeth.
Er gwaethaf eu rhan yng nghadwraeth bioamrywiaeth, erbyn hyn mae safleoedd naturiol cysegredig Epirus eu hunain wedi eu peryglu. Mae hyn yn bennaf oherwydd newidiadau mewn demograffeg a defnydd o'r tir, a hynny yn sgil diboblogi gwledig yn y rhan fwyaf o ardaloedd mynyddig Epirus ers yr ail ryfel byd. Oherwydd diboblogi gwledig diweddar, mae'n anodd i gymunedau lleol barhau i sicrhau y perchir y rheolau a arferai ddiogelu eu safleoedd naturiol cysegredig trwy gyfrwng systemau rheoli oedd wedi'u haddasu'n lleol. Am y rheswm yma, roedd project THALIS-SAGE hefyd yn cynnwys cynlluniau i hyrwyddo eu gwerth diwylliannol ac addysgol. Daeth partner project Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, yr Athro John Healey, ac arweinydd project Prifysgol Ioannina, yr Athro John Halley, i'r casgliad mai'r "strategaeth gadwraeth orau i'r rhain a safleoedd naturiol cysegredig eraill o feintiau tebyg ar draws y byd yw eu cysylltu mewn rhwydweithiau o fewn cynlluniau cadwraeth confensiynol". Ychwanegodd yr ymchwilydd project y Dr Kalliopi Stara, "fod angen gwneud hynny mewn cydweithrediad â chymunedau lleol".
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018