Canolfan Môr Cymru yn agor ei drysau yn ystod Gŵyl Fwyd Môr Menai
Bydd cyfle i unigryw i fynychwyr Gŵyl Bwyd Môr Menai ddydd Sadwrn (20 Awst) ymweld â Chanolfan Môr Cymru ar safle Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ym Mhorthaethwy.
Dyma yw'r diwrnod agored cyntaf i'r cyhoedd er pan agorwyd y Ganolfan yn swyddogol gan Dywysog Cymru ym mis Gorffennaf eleni. Bydd arddangosfeydd a gweithgareddau rhyngweithiol yn dangos y gwaith arloesol a wneir gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion.
Mae Canolfan Môr Cymru yn gyfleuster modern, amgylcheddol-gyfeillgar gwerth £5.5M ar gyfer y sector morol yng Nghymru. Mae'n rhoi ffocws a mynediad i arbenigedd a gofod ar gyfer cydweithredu rhwng ymchwilwyr, gweithredwyr masnachol ac asiantaethau yn y sector.
Meddai'r Athro Colin Jago, Deon Coleg Gwyddorau Naturiol Prifysgol: "Mae Gŵyl Bwyd Môr Menai – gyda'r pwyslais ar fwyd môr lleol, yr amgylchedd morol a threftadaeth arfordirol – yn cynnig cyfle perffaith i wahodd y cyhoedd i ddod i'n gweld ac i ddysgu mwy am ein gwaith. Mae yna lawer o waith ymchwil a datblygu hynod arloesol yn digwydd yn y Ganolfan nad ydi pobl yn ymwybodol ohono.
"Bydd y diwrnod agored yn galluogi pobl i ddysgu am ynni morol adnewyddadwy, newid hinsawdd, pysgodfeydd Môr Iwerddon, prosesau arfordirol ac amgylchedd y môr sydd yn tynnu sylw at agweddau lleol a byd-eang ein gwaith gwyddonol. Bydd modd ymweld â'n labordai, gweld offer morol a chreaduriaid y môr a chael sgwrs gyda biolegwyr y môr a fydd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau.
"Rydyn ni wedi cynnal diwrnodau agored i'r cyhoedd yn ystod yr Å´yl yn y gorffennol, cyn i'r Ganolfan newydd gael ei hadeiladu, ac fe ddaeth miloedd o bobl trwy'r drws i ddysgu am ein gwaith. Gyda llawer o ddiddordeb yn lleol yn y Ganolfan newydd, mae'n debygol y byddwn yn brysurach fyth eleni."
Bydd cerflun gwreiddiol gan yr artist lleol Jane Evans hefyd yn cael ei arddangos yng nghyntedd Canolfan Forol Cymru yn ystod yr Å´yl. Fel rhan o raglen addysgol yr Å´yl gydag ysgolion yn yr ardal, bu plant lleol yn casglu cannoedd lawer o boteli plastig er mwyn eu defnyddio mewn gweithdai celf i greu pysgod a chreaduriaid morol eraill i'w defnyddio fel bynting addurniadol ar safle'r Å´yl. Defnyddiwyd 200 o'r poteli hynny gan Jane i greu ei cherflun.
Meddai Jane: "Cefais gais i greu gwaith ar gyfer cyntedd Canolfan Môr Cymru yn sgil y prosiect celf ac addysg a ddatblygais ar gyfer ysgolion. Gyda help Sŵ Môr Môn rydyn ni wedi bod yn tynnu sylw'r plant at y problemau a ddaw o lygredd plastig yn yr amgylchedd arfordirol. Bu disgyblion mewn 7 ysgol gynradd yn creu pysgod a sglefrod môr a chrewyd gwylanod y môr gan ddisgyblion blwyddyn 8 yn Ysgol David Hughes.
"Roedd yn gwneud synnwyr llwyr parhau i weithio gyda'r boteli plastig ac i ddefnyddio'r darn celf hwn fel penllanw i'r prosiect. Rwy'n gobeithio y caiff ei werthfawrogi fel darn hardd o gelf, ond wrth ei greu roedd gen i fwriad hefyd i dynnu sylw at y materion hynod ddifrifol ynghlwm â'r angen i warchod ein hamgylchedd arfordirol a phwysigrwydd ailgylchu ac ailddefnyddio deunyddiau niweidiol fel plastig.
Bydd Gŵyl Fwyd Môr Menai yn cael ei chynnal ym Mhorthaethwy am y bedwaredd flwyddyn yn olynol ddydd Sadwrn 20 Awst.
Bydd Cyngerdd yr Ŵyl gyda Meic Stevens, Band Al Lewis, Sera a'r Band a Chôr Ieuenctid Môn yn cael ei chynnal ar Bier y Tywysog, Porthaethwy am 6pm nos Wener, 19 Awst. Mae tocynnau yn £15 i oedolion, £10 consesiynau ac ar gael ym Mwyty Dylan's, Porthaethwy.
Am fwy o wybdoaeth ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2016