Chwilio am wyddonwyr o blith y cyhoedd i ymchwilio i'n morfeydd heli
Er ein bod yn byw ar ynys, eto rydym yn gwybod ychydig ryfeddol am rannau o'n harfordir.
Y gobaith yw y bydd ap锚l am wyddonwyr o blith y cyhoedd yn unioni hyn drwy ein hannog i gasglu gwybodaeth am ein morfeydd heli er mwyn llenwi'r bylchau.
Gyda chymorth The Saltmarsh App, mae gr诺p o wyddonwyr m么r o wahanol rannau o Brydain yn gofyn i unigolion a grwpiau sydd 芒 diddordeb i ymchwilio i'r morfeydd heli sydd o gwmpas ein harfordir.
Unwaith y byddant wedi lawrlwytho'r app, sydd ar gael am ddim, i'w ffonau symudol neu dabledi, gall pobl naill ai ddefnyddio'r canllawiau i adnabod y planhigion a'r bywyd gwyllt unigryw sydd i'w cael ar forfeydd heli neu gallant wneud arolwg rhyngweithiol ar blanhigion a phridd.
Bydd yr arolwg yn amcangyfrif faint o garbon sydd wedi'i storio ym mhridd y morfa heli a dangos sut mae'r morfa'n helpu i leihau newid hinsawdd drwy rwystro carbon rhag troi'n garbon deuocsid.
Rydym yn gwybod llawer iawn am amgylcheddau tir ac mae gennym wybodaeth fanwl am ddosbarthiad y rhan fwyaf o wahanol fathau o bridd ym Mhrydain, ac eithrio morfeydd heli. Bydd pob arolwg ar forfa heli a gaiff eich uwchlwytho yn helpu'r gwyddonwyr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 i ddysgu mwy am briddoedd morfeydd heli ym Mhrydain a sut maent yn helpu'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Caeau gwelltglas ar ymylon rhannau o'n harfordir yw morfeydd heli. Mewn llawer lle mae'r llanw'n golchi drostynt ac mae ffosydd naturiol yn rhedeg ohonynt i'r m么r. Mae ganddynt gyfoeth o fywyd gwyllt ac yn helpu i warchod ein harfordiroedd rhag stormydd a llifogydd. Mae morfeydd heli'n llefydd gwych i fynd am dro, i redeg ac i wneud amrywiaeth o weithgareddau awyr agored eraill.
Datblygwyd y Saltmarsh App gan Brifysgol St Andrews, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg. Bydd yr App yn annog pobl i ymweld 芒 morfeydd heli a chael mwy o fwynhad o'u hymweliad, drwy ddarparu deunydd cyfeirio gweledol cludadwy am y planhigion a'r anifeiliaid a geir yno. I'r gwyddonwyr o blith y cyhoedd, mae'r app hefyd yn arwain y defnyddiwr drwy gamau syml i adnabod planhigion a phridd. Caiff y wybodaeth hon ei bwydo'n 么l wedyn i'r gwyddonwyr.
Meddai Dr Martin Skov o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, sy'n arwain rhan o'r project;
"Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar yr app a mynd i archwilio morfa heli y tro nesaf y byddant yn ymweld 芒'r arfordir. Gallant fod yn llefydd hynod ddramatig a llawn awyrgylch unrhyw adeg o'r flwyddyn. Trwy fwydo gwybodaeth syml yn 么l i ni, gallwn adeiladu gwell darlun o pa fathau o bridd sydd gennym yn ein morfeydd heli a pha fath o blanhigion ac anifeiliaid y maent yn eu cefnogi. Mae hyn yn ein helpu i ddatblygu gwell darlun o faint o garbon sy'n cael ei storio yn y mannau hyn.
"Mae morfeydd heli hefyd yn chwarae swyddogaeth gynyddol bwysig mewn gwarchod tir rhag llifogydd yn ystod ymchwydd stormydd, felly mae'n bwysig ein bod yn adeiladu gwell cronfa ddata o wybodaeth ynghylch y mathau o gynefinoedd a geir yma fel y gallwn reoli'r amgylcheddau hanfodol hyn ar gyfer y dyfodol," meddai'r Athro David Paterson o Brifysgol St Andrews.
Mae'r app a'r elfennau i wyddonwyr o blith y cyhoedd yn adnodd defnyddiol i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan mewn bioleg amgylcheddol neu weithgareddau awyr agored a byddant yn ddefnyddiol i grwpiau cadwraeth, ysgolion uwchradd, arweinwyr Sgowtiaid a Geidiaid, grwpiau'n cystadlu am Wobr Dug Caeredin a theuluoedd, grwpiau ac unigolion sy'n gweithio tuag at gael Gwobr John Muir. Cynllun gwobr amgylcheddol yn canolbwyntio ar fannau gwyllt yw Gwobr John Muir, a roddir gan Ymddiriedolaeth John Muir. Mae'n annog pobl i fwynhau natur, y tirwedd a'r amgylchedd naturiol a gofalu amdanynt.
Fe wnaeth Phil Stubbington, Rheolwr Gwobr John Muir yng Nghymru a Lloegr groesawu'r app gan ddweud:
"Mae'r app morfa heli'n gyfrwng gwych i ymwneud 芒 rhan bwysig a chyffrous o'n hamgylchedd arfordirol sy'n cael ei esgeuluso'n aml. Mae'r app yn gyfle i annog pobl o bobl oed i ymwneud 芒 morfeydd heli sydd ar garreg eu drws neu ymhellach i ffwrdd, gan gasglu data hanfodol yr un pryd mewn ffordd hynod bleserus. Drwy hynny byddant yn rhoi rhywbeth yn 么l i'r mannau gwyllt yma. Dwi'n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r dull newydd a chyffrous yma o weithredu ym maes ymchwil i forfeydd heli yng Nghymru a Lloegr."
App Apple:
App Android:
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2016