Croesawu Darlithwyr Newydd i Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Unwaith eto eleni, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyllido rhagor o ddarlithwyr newydd i addysgu mewn gwahanol feysydd ar draws prifysgolion Cymru.
Un sy’n awyddus i ymgymryd â’r gwaith addysgu ac ymchwilio yw Dr Sara Wheeler o Wrecsam gafodd ei phenodi fel Darlithydd Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ:
‘‘Rwy’n benderfynol o sicrhau fod cyfle cyfartal yn bodoli rhwng y cyfrwng Saesneg a’r cyfrwng Cymraeg. Mi fydd hyn yn golygu gwaith cyfieithu a chreu adnoddau newydd, a hefyd cyhoeddi erthyglau ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.’’
Marian Pye o Langefni sydd wedi’i phenodi i swydd ddarlithio ym maes Sŵoleg a’i gobaith yw ehangu ar y ddarpariaeth gref sydd eisoes yn bodoli o fewn yr adran.
Awel Vaughan-Evans o Gellifor fydd yn addysgu ym maes Seicoleg, a hynny ar ôl cwblhau cwrs seicoleg israddedig ac ôl-raddedig yn y brifysgol.
Un arall dderbyniodd ei addysg uwch ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yw Dr Edward Thomas Jones o Fodedern sydd wedi derbyn darlithyddiaeth ym maes Economeg.
Yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
‘‘Roeddem yn falch o fedru cefnogi penodi’r unigolion hyn i’w swyddi ac yn edrych ymlaen at weld cynnydd yn y nifer sy’n astudio’r pynciau trwy’r Gymraeg yn sgil buddsoddiad y Coleg. Hoffwn ddymuno’r gorau iddynt wrth greu adnoddau a denu darpar fyfyrwyr i’w priod feysydd dros y blynyddoedd nesaf.’’
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2015