Cydweithio rhwng Cymru ac Iwerddon ar broject BlueFish
Casglodd ymchwilwyr, cynrychiolwyr y diwydiant a chynhyrchwyr masnachol o naill ochr i Fôr Iwerddon ynghyd ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ddydd Mawrth i lansio Project BlueFish, cydweithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon a fydd yn archwilio effaith newid yn yr hinsawdd ar gynaliadwyedd pysgod a physgod cregyn ym Môr Iwerddon.
Bydd BlueFish, a gefnogir gan €5.5m o gronfeydd yr UE trwy Raglen Cydweithredu Iwerddon-Cymru, yn ymchwilio i effeithiau newid yn yr hinsawdd ar iechyd rywogaethau penodol o bysgod a physgod cregyn ym Môr Iwerddon.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, gan weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn Aberystwyth ac Abertawe a Choleg Prifysgol Cork, Bord Iascaigh Mhara a'r Marine Institute yn Iwerddon, yn ceisio amddiffyn mwy ar yr amgylchedd a gwella rheolaeth pysgod, pysgod cregyn a dyframaeth. Wrth wneud hynny, bydd y project yn cefnogi pysgodfeydd i addasu i newidiadau amgylcheddol a chyfleoedd masnachol ym Môr Iwerddon.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon wedi amlygu'r sectorau pysgota a dyframaeth ym Môr Iwerddon fel sy'n bwysig yn economaidd ac yn gymdeithasol i'r ddwy wlad. Mae'r sectorau pysgota a dyframaeth yn werth miliynau o bunnoedd i economi Iwerddon a Chymru ac mae'n cefnogi nifer fawr o swyddi o amgylch arfordiroedd y ddwy wlad. Trwy asesu a rhannu gwybodaeth gyda gwahanol bartneriaid y project, bydd BlueFish yn adnodd hanfodol i fusnesau bach a chanolig a chymunedau arfordirol yn eu hymagwedd at bysgota masnachol yn y dyfodol.
Yn y lansiad, dywedodd Dr Shelagh Malham, ymchwilydd ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a Chyfarwyddwr Gweithrediadau project BlueFish:
"Bydd y cyfuniad o ymchwil rhwng partneriaid academaidd a chydweithio â phartneriaid mewn diwydiant yn sicrhau bod y diwydiannau hanfodol hyn yn cael y wybodaeth a'r gefnogaeth angenrheidiol i fod yn fwy gwydn i'r newidiadau y mae'r diwydiant yn eu hwynebu, a bydd yn parhau i'w hwynebu yn y blynyddoedd nesaf, ac i ymateb i gyfleoedd."
Croesawyd y rhai a ddaeth i'r lansiad yng Nghanolfan Môr Cymru gan yr Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes, a dynnodd sylw at effaith y cydweithrediad trawsffiniol rhwng Cymru ac Iwerddon:
"Mae gan Gymru ac Iwerddon gymunedau arfordirol sy'n dibynnu i raddau helaeth ar y sector morol a bydd Project BlueFish, sy'n seiliedig ar ein harbenigedd ymchwil, yn cael effaith wirioneddol a diriaethol ar ddyfodol y cymunedau hyn."
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2017