Cyfuno iechyd cyhoeddus a gwyddoniaeth amgylcheddol i ddatblygu rhagolygon paill
Gall ymchwil newydd sy'n cyfuno data gofal iechyd gyda thechnegau ecolegol arloesol, osod cynllun i wella鈥檙 rhagolygon paill yn y dyfodol.
Mae'r rhagolygon paill presennol, sy'n hanfodol i bobl ag asthma ac铆wt neu glefyd y gwair reoli eu symptomau, yn dibynnu ar fesur cyfanswm paill glaswellt yn yr atmosffer. Ond nid ydynt yn gwahaniaethu rhwng paill o wahanol fathau o laswellt.
Mae cysylltiad posibl wedi ei ddangos erbyn hyn rhwng paill o rai rhywogaethau glaswellt a phroblemau iechyd resbiradol.
Mae鈥檙 canlyniadau, a gyhoeddwyd yn Current Biology, (11.3.21 DOI: 10.1016/j.cub.2021.02.019) wedi cael eu cynhyrchu gan y project cyntaf i ddefnyddio dull biofonitorio ecolegol o'r enw eDNA ('DNA amgylcheddol') i archwilio'r cysylltiadau rhwng paill yn yr awyr ac iechyd pobl. Mae'r ymchwil dan arweiniad Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Phrifysgol Caerwysg yn rhan o broject ymchwil PollerGEN ar raddfa fwy (a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol), a sefydlodd yn 2019 y defnydd o dechnegau eDNA i nodi gwahanol fathau o rawn paill glaswellt microsgopig.
Mae鈥檙 gwaith presennol yn cydfynd 芒 dwy flynedd o gofnodion am ddata iechyd cyhoeddus (derbyniadau i'r ysbyty yn gysylltiedig ag asthma, a meddygon teulu yn rhagnodi triniaethau i alergedd resbiradol a thrwynol) 芒'r data monitro eDNA ar gyfer paill o wahanol rywogaethau glaswellt a wnaed mewn 14 lleoliad ledled y DU.
Ar rai adegau o'r flwyddyn, rhwng mis Mai a chanol mis Awst mewn mannau tymherus, glaswellt yw'r alergen pwysicaf yn yr awyr agored sy鈥檔 achosi clefyd y gwair ac asthma.
Eglurodd yr Athro Simon Creer, o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, sy'n arwain yr ymchwil PollerGEN:
鈥淒yma un o鈥檙 camau cyntaf a phrawf cysyniad damcaniaethol o broject ymchwil helaeth, a all arwain at ragolygon paill mwy manwl gywir neu ragolygon ar gyfer gwahanol fathau o alergenau.
Drwy鈥檙 byd, mae dros 400 miliwn o bobl yn dioddef o rhinitis alergaidd ac mae dros 300 miliwn yn dioddef o asthma. Mae trin asthma alergaidd yn costio dros 拢2 filiwn y flwyddyn i'r DU mewn costau uniongyrchol yn unig, felly mae arbedion posib mawr i'w gwneud.鈥
Dywedodd Dr Francis Rowney, a arweiniodd y rhan data iechyd o'r gwaith pan oedd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caerwysg:
鈥淓r mai dyddiau cynnar yw hyn, roedd yn hynod ddiddorol darganfod y gall rhywogaethau glaswellt penodol gael mwy o effaith ar iechyd resbiradol na rhai eraill.鈥
鈥淧roteinau yn y paill yw鈥檙 hyn sy鈥檔 sbarduno adweithiau alergaidd, ac mae gan rai rhywogaethau glaswellt yr un proteinau alergenig. Mae angen i ni gael gwell dealltwriaeth o sail foleciwlaidd yr alergenau ac adweithiau alergaidd i wneud ymchwil pellach yngl欧n 芒 pha rai yw'r rhywogaethau mwyaf alergenig, ac a oes gwahaniaethau mewn adweithiau rhwng gwahanol bobl."
Roedd Dr Georgina Brennan, pan oedd wedi'i lleoli yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, yn un o d卯m a arloesodd wrth ddefnyddio monitro DNA amgylcheddol.
Meddai:
鈥淢ae grawn paill o wahanol rywogaethau o laswellt yn edrych bron yn union yr un fath, hyd yn oed o dan y microsgop, a chyn dyfodiad eDNA ynghyd ag offer moleciwlaidd fel metabarcodio a PCR meintiol (qPCR), nid oedd yn bosibl adnabod paill glaswellt o wahanol rywogaethau glaswellt ac archwilio a oedd gwahanol laswelltau yn achosi mwy o adwaith alergenig.
Gwnaethom edrych ar amrywiaeth o'r rhywogaethau mwyaf cyffredin yn ein safleoedd. Yn yr astudiaeth ddwy flynedd gyntaf hon, gwelwyd cysylltiadau rhwng y gweiriau cyffredin, Rhonwellt y ci (Cynosurus cristatus) a Chynffon y gath (Phleum pratense), ond bydd angen llawer mwy o ddata arnom i fod yn fanwl gywir yngl欧n 芒 pha fathau o baill glaswellt sy鈥檔 cael yr effaith gwaethaf. Byddai setiau data hirach, yn cynnwys mwy o rywogaethau a gwahanol batrymau tywydd a lleoliadau yn darparu'r dystiolaeth sydd ei hangen."
Wrth ddychmygu datblygiadau pellach, dywedodd Georgina, a arweiniodd y rhan eDNA o鈥檙 ymchwil y gallai weld dyfodol lle byddai rhwydwaith byd-eang o samplwyr paill awtonomaidd, a allai wahaniaethu a mesur paill yn yr awyr, yn caniat谩u biofonitorio pwysig o aeroalergenau.
鈥淓fallai mai鈥檙 hyn sydd ei angen arnom yw nid yn unig rhagolwg o gyfanswm paill glaswellt, ond hefyd rhagolwg neu ragolygon o鈥檙 mathau mwyaf alergenig o baill glaswellt fel yr ydym yn ei wneud ar gyfer coed a chwyn," ychwanegodd:
Roedd y papur ymchwil yn cynnwys gweithio amlddisgyblaethol ar draws sawl sefydliad. Roedd y rhain hefyd yn cynnwys Prifysgol Lund, Prifysgol Caerwrangon, Prifysgol Aberystwyth, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Adran Mathemateg ac Adran Daearyddiaeth, Prifysgol Caerwysg; Allergy UK, Y Swyddfa Dywydd a Phrifysgol Queensland.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2021