Cyllid rhyngwladol ar gyfer polis茂au amgylcheddol wedi鈥檌 seilio ar dystiolaeth wan
Mae datgoedwigo trofannol yn cyfrannu at newid hinsawdd, mae'n dinistrio bioamrywiaeth a gall niweidio buddiannau pobl leol. Mae'r cynllun Rheoli Coedwigoedd yn Gymunedol / Community Forest Management (CFM) wedi cael ei hyrwyddo fel ateb delfrydol (arbed coedwigoedd a bod o fudd i gymunedau lleol yr un pryd) ac mae cyllidwyr byd-eang wedi buddsoddi biliynau o ddoleri mewn rhaglenni CFM mewn gwledydd sy鈥檔 datblygu. Fodd bynnag, mae astudiaeth a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn tynnu sylw at y diffyg tystiolaeth y mae buddsoddiadau o鈥檙 fath wedi鈥檌 seilio arni ac mae鈥檔 galw am ddulliau gwell o gasglu tystiolaeth yn y dyfodol.
Mae鈥檙 astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Frontiers in Ecology and the Environment, yn awgrymu er bod tystiolaeth gyfyngedig bod CFM yn rhoi rhai manteision bioamrywiaeth o ran amddiffyn coedwigoedd, mae鈥檙 dystiolaeth ei fod o fudd i gymunedau lleol yn brin at ei gilydd. Fe wnaeth y t卯m o鈥檙 Ganolfan Cadwraeth Seiliedig ar Dystiolaeth ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 gynnal adolygiad systematig o鈥檙 dystiolaeth drwy archwilio astudiaethau o gyhoeddiadau eang ar y pwnc. Fe wnaethant ddarganfod mai ychydig iawn o astudiaethau sydd wedi鈥檜 cyhoeddi sy鈥檔 rhoi gwybodaeth ar berfformiad CFM. Roedd gan lawer o鈥檙 rhai a wnaeth hynny broblemau o ran cynllun eu hastudiaeth a鈥檌 dehongli.
Meddai Andrew Pullin, prif awdur yr astudiaeth:
鈥淢ae yna beth tystiolaeth gyfyngedig bod rhaglenni CFM yn gweithio, ond y casgliad pryderus yw nad yw monitro a gwerthuso llawer o raglenni amgylcheddol mawr byd-eang yn ddigonol i gael darlun clir o鈥檙 hyn sy鈥檔 gweithio a鈥檙 hyn sy鈥檔 aflwyddiannus. Er bod y rhaglenni hyn wedi cael adnoddau sylweddol dros y degawd neu well diwethaf, nid oes gennym y wybodaeth ddigonol i gyfarwyddo penderfyniadau cyllido yn y dyfodol. Mae rhaglenni CFM yn amrywiol o ran eu cyd-destun a鈥檜 gweithredu a鈥檙 gwirionedd mwyaf tebygol y bod rhai鈥檔 gweithio a rhai ddim. Mae angen gwell sylfaen o dystiolaeth er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau prin ar gyfer rheoli鈥檙 amgylchedd.鈥
Mae CFM yn rhoi penderfyniadau rheoli yn nwylo cymunedau lleol, yn hytrach na llywodraethau cenedlaethol neu ranbarthol, gan ganiat谩u iddynt wneud penderfyniadau allweddol ynghylch defnyddio eu coedwigoedd. Y rhagdybiaeth yw y bydd rhoi perchnogaeth a chyfrifoldeb iddynt yn arwain at ddefnyddio adnoddau鈥檔 fwy cynaliadwy.
Comisiynwyd yr adolygiad systematig gan Banel Ymgynghorol Gwyddonol a Thechnegol y Global Environment Facility, un o brif gyllidwyr projectau CFM. Un o swyddogaethau鈥檙 Panel yw profi dilysrwydd rhagdybiaethau allweddol sy鈥檔 sail i fuddsoddiadau GEF, a thrwy wneud hynny gynorthwyo i wella ansawdd cynllunio projectau yn y dyfodol.
Meddai Julia Jones, un o鈥檙 awduron, 鈥淓r i ni ddarganfod tystiolaeth gyfyngedig o effeithiolrwydd CFM, nid yw hynny鈥檔 golygu nad ydi CFM yn gweithio. Efallai bod yna lawer o enghreifftiau anecdotaidd sy鈥檔 awgrymu y gall fod yn llwyddiannus. Fodd bynnag, dylai penderfyniadau buddsoddi mawr fod wedi鈥檜 seilio ar fwy na thystiolaeth anecdotaidd, a chyda rhaglenni byd-eang mawr mae angen i effeithiolrwydd eu cynllun gael ei gloriannu鈥檔 briodol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2011