Cyn-fyfyriwr Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn ennill y fedal aur yn sioe'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol
Bu cyn-fyfyriwr a raddiodd mewn BSc Botaneg Amaethyddol yn cystadlu'n ddiweddar yn Sioe Flodau'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn fyw ar raglen Gardeners' World y BBC gan ennill y fedal aur.
Roedd Lisa Niemy yn cystadlu gyda'i chreadigaeth 'Forge Ahead' yn y categori ‘Beautiful Borders 2015’. Y thema ar gyfer cystadleuaeth y borderi eleni oedd etifeddiaeth ddiwydiannol gorllewin canolbarth Lloegr a lwyddodd i ysgogi dychymyg y cynllunwyr, gan arwain at ddefnydd cryf o ddeunyddiau, cynlluniau plannu dawnus a defnyddio lliwiau'n ysbrydoledig.
Yn ystod cyfnod y datblygiad diwydiannol enfawr yng ngorllewin canolbarth Lloegr rhwng 1730 a dechrau'r 1900, disgrifiodd nifer o feirdd y sŵn a'r gwres o'r tanau a'r ffwrneisi a gynhyrchodd peiriannau, offer amaethyddol, gwaith haearn a gemwaith.
Roedd cynllun plannu Lisa yn adlewyrchu'r egni folcanig a drama'r gefeiliau, gydag eingion ac offer y gof a'r glo yn dangos swyddogaeth bwysig yr eitemau hyn yn natblygiad treftadaeth gorllewin canolbarth Lloegr.
Meddai Lisa: “Roedd yn deimlad gwych i ennill medal aur y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol ar ôl gwylio Gardeners’ World, ac ymweld â sioeau Tatton, Chelsea, Malvern a Hampton Court. Ni ddychmygais o gwbl pan oeddwn yn fyfyriwr ym Mangor y byddwn un diwrnod yn derbyn gwobr mor arbennig. Rwy'n falch iawn o ddweud wrth bobl fy mod wedi astudio ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, mae'n lle braidd yn ddiarffordd, ond cefais amser bendigedig yno!"
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2015