Cynghrair i atgyfnerthu ymchwil i goedwigaeth yng Nghymru
Bydd dau sefydliad sydd 芒 hanes hir o arbenigedd ym maes addysg ac ymchwil i goedwigaeth yn cydweithio'n agosach wrth i swyddfa h yng Nghymru symud i Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, sef cartref coedwigaeth yn y Brifysgol.
Ymchwil i Goedwigaeth yw asiantaeth ymchwil y Comisiwn Coedwigaeth. Mae pennaeth yr asiantaeth yng Nghymru, Tom Jenkins, yn arwain t卯m o ymchwilwyr sydd mewn nifer o leoliadau ar draws Cymru. Mae pob un ohonynt yn gweithio'n uniongyrchol gyda chydweithwyr yng nghanolfannau eraill Ymchwil i Goedwigaeth yn Lloegr a'r Alban yn ogystal 芒 mewn partneriaeth 芒 Chyfoeth Naturiol Cymru, llunwyr polis茂au Llywodraeth Cymru a sefydliadau academaidd ac ymchwil ledled Cymru. Meddai Tom am y symudiad:
"Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn sy'n cyd-fynd 芒 newidiadau sefydliadol diweddar sydd wedi cryfhau'r wyddoniaeth, y sgiliau a'r arbenigedd yn Ymchwil i Goedwigaeth. Mae gan y ddau sefydliad gryfderau sy'n ategu ei gilydd. Mae gan Ymchwil i Goedwigaeth arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol ar draws ystod eang o feysydd pwnc, yn cynnwys iechyd coed a choedwigoedd. Mae'r maes hwn o'n portffolio ymchwil yn uniongyrchol berthnasol i economi Cymru, yn arbennig mewn perthynas ag afiechydon coed a ddaeth i'r amlwg yn ddiweddar fel Phytophthora, clefyd (Chalara) coed ynn a dirywiad difrifol mewn coed derw. Yn ogystal 芒'n gwaith ar bl芒u a chlefydau coed, mae gan Ymchwil i Goedwigaeth raglenni ymchwil gweithgar sy'n cwmpasu tri phrif faes arall: rheolaeth coedwigoedd, newid hinsawdd a gwasanaethau ecosystem. Mae prif arbenigedd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 mewn ecoleg coedwigaeth, gwydnwch, priddoedd, bioamrywiaeth, cadwraeth a gwaith adfer, coedamaeth a choedwigaeth ryngwladol. Mae gan y ddau sefydliad gyda'i gilydd gryfder ar y cyd o ran gwasanaethau ecosystem, addasu a lleihau newid hinsawdd, a hydroleg coedwigaeth."
Mae John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, yn arwain t卯m o 11 staff academaidd sy'n arbenigo mewn coedwigaeth a choedamaeth. Meddai John:
"Dim ond nifer fechan o sefydliadau yn y DU sydd ag arbenigedd ymchwil sy'n berthnasol i goedwigaeth, felly mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio'n agos 芒'n gilydd. Rwy'n falch iawn o lwyddiant ein cydweithio diweddar gydag Ymchwil i Goedwigaeth, yn cynnwys projectau ar y cyd ar fodelu adfywio coed mewn coedwigaeth gorchudd di-dor; y bacteria sy'n gysylltiedig 芒鈥檙 dirywiad difrifol mewn coed derw; a modelu economeg clefydau coed, sy'n fygythiad mor fawr i goetiroedd ym Mhrydain."
Bydd Ymchwil i Goedwigaeth yn parhau i weithio'n agos gyda phrifysgolion eraill ar draws Cymru ond mae'r ddau barti yn obeithiol iawn y bydd y symudiad yn meithrin cynnydd pellach mewn cydweithio rhwng y ddau sefydliad.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2016