Darlithydd o Fangor yn cyfrannu i gyfres deledu newydd Bear Grylls
Mae darlithydd o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi bod yn rhannu ei harbenigedd ar gyfer cyfres deledu newydd yr anturiaethwr Bear Grylls.
Mae Dr Lynda Yorke, darlithydd yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn ymddangos yn un o raglenni Britain鈥檚 Biggest Adventures with Bear Grylls. Yn y gyfres dair rhan newydd sbon hon ar ITV, bydd Bear yn mynd ar daith epig ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban i gael profiad o Ynysoedd Prydain ar eu mwyaf ysblennydd.
Yn yr ail bennod, sy'n cael ei darlledu ar Fawrth 22 Medi am 9pm ar ITV, bydd Bear yn archwilio un o dirweddau mwyaf eiconig Lloegr, sef dyffrynnoedd Swydd Efrog, ac yn mynd ar antur anhygoel drwy'r ardal brydferth hon. Mae antur Bear yn cychwyn yn un o'r ffurfiannau calchfaen mwyaf trawiadol yn y byd, sef amffitheatr odidog Malham Cove.
Yn ystod y bennod hon, mae'n cyfarfod y ddaearyddwraig Dr Yorke sy'n dweud wrth Bear bod y palmant calchfaen uchel y maent yn sefyll arno o dan gefnfor trofannol 350 o filiynau o flynyddoedd yn 么l, a gafodd ei wthio i fyny gan ffrwydradau folcanig ac i'r gogledd gan symudiad platiau tectonig.
Esboniodd bod creaduriaid y m么r, wrth iddynt farw, wedi suddo i waelod y m么r lle cawsant eu cywasgu dros amser wrth i fwy a mwy o greaduriaid farw, ac yn y diwedd ffurfiwyd y graig y mae Bear yn sefyll arni.
Am ei phrofiad o weithio gyda Bear Grylls, dywedodd Dr Yorke: "Rwyf bob amser ar d芒n dros gyfathrebu gwyddoniaeth i gynulleidfaoedd newydd. Er bod tirweddau fel Malham Cove yn edrych yn ysblennydd, credaf fod gwybod rhywbeth am sut y cawsant eu ffurfio a sut y maent yn parhau i esblygu yn cyfoethogi ein mwynhad a鈥檔 gwerthfawrogiad ohonynt. Fel daearyddwraig, rydw i wrth fy modd yn gwneud hyn - datrys cyfrinachau tirweddau鈥檙 gorffennol a'r presennol!鈥
Wedyn mae Bear yn darganfod mai nerth i芒 a d诺r sydd mewn gwirionedd wedi llunio'r dirwedd bresennol wrth i rewlifoedd enfawr yr Oes I芒 diwethaf, 20,000 o flynyddoedd yn 么l, gerfio llwybr drwy'r dyffrynnoedd.
Pan doddodd y rhewlifoedd yma, rhwygodd afonydd cynddeiriog eu ffordd trwy鈥檙 calchfaen a chreu dyffrynnoedd a chreithiau enfawr y dirwedd syfrdanol.
Yn goron ar y cyfan mae tirwedd wyneb y lleuad ar ben Malham Cove, sydd yn enghraifft wych o balmant calchfaen.
Eglurodd Dr Yorke: "Yn 么l yn yr oes i芒, roedd yr ardal hon dan orchudd o rew, ac wrth i'r rhew symud ar draws a thrwy'r dyffryn yma, crafodd yr holl bridd oddi ar yr wyneb, gan ddatgelu鈥檙 calchfaen."
Mae miloedd o flynyddoedd o law wedi troi鈥檙 toriadau yn y graig yn holltau dwfn, a elwir yn greiciau. Fel y darganfu Bear, mae hyn wedi creu microhinsawdd sy'n gartref i fyd cudd o ffawna'r coetir.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2015