Dehongli 'Tystiolaeth'
Bu鈥檙 Athro Andrew Pullin, o Ganolfan Cadwraeth Seiliedig ar Dystiolaeth Ysgol Gwyddorau鈥檙 Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, yn bresennol mewn cyfarfod bord gron yn San Steffan i drafod y diffiniad o dystiolaeth yn y Senedd. Cafodd y cyfarfod ei drefnu gan Swyddfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Senedd ac roedd yn cynnwys 20 o bobl, a thua hanner ohonynt o鈥檙 ddau d欧 a hanner o'r byd academaidd a chyrff anllywodraethol. Pwrpas y cyfarfod oedd adolygu'r modd y mae Senedd San Steffan yn defnyddio'r term tystiolaeth yn ei gwaith a symud tuag at ddefnydd mwy tryloyw a beirniadol o ffynonellau tystiolaeth. Dywedodd yr Athro Pullin ei fod yn 鈥榞ipolwg diddorol ar hanes y defnydd o dystiolaeth yn y Senedd, ac y gallai fod yn gam cyntaf tuag at newid mawr mewn arferion gwaith'. Bydd crynodeb o'r cyfarfod a'i waith yn y dyfodol yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2015